Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 59941 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Dysgwyr

Cerdd: ‘Gobaith’ (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Taith’ (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn caffi; dyddiadur wythnos; llythyr yn annog rhywun i ddysgu Cymraeg; adolygiad o unrhyw ffilm neu raglan deledu; a chasgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal mewn unrhyw ffurf (gwaith grŵp neu unigol).

Barddoniaeth

Awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Gwe’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Breuddwyd’; ‘englyn unodl union: ‘Graffiti’; englyn unodl union ysgafn: ‘Moderneiddio’; cywydd : ‘Perthyn’; hir a thoddaid: ‘Pengwern’; telyneg: 'Argae'; soned: ‘Adwy’; baled: ‘Plygain’; carol Blygain; saith triban: 'Dyddiadur wythnos'; casgliad o chwe cherdd ar gyfer plant cynradd: (testun yn agored); a blodeugerdd o gerddi gan feirdd gwlad ardal benodol.

Rhyddiaith

Ysgoloriaeth Emyr Feddyg (braslun nofel pennod agoriadol nofel, straeon byrion neu ysgrifau); stori fer: ‘Gadael’; stori ffantasi; stori fer ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau; llên micro: Casgliad o 8 darn ar ffurf llên micro: ‘Profiad’; ysgrif yn ymwneud â byd natur; dyddiadur: 10 darn amrywiol un ar ffurf dyddiadur gwledig addas i gyfres mewn papur bro; a charwriaeth drwy e-bost: cyfres o negeseuon yn dangos datblygiad/dirywiad mewn perthynas dros gyfnod penodol.

Eirian Llwyd

Deunydd am Eirian Llwyd yn dilyn ei marwolaeth gan gynwwys copiau o gylchgronnau gyda chofiannau iddi ac erthyglau am y cronfa a sefydlwyd er cof amdani a thaith cerdded Ieuan Wyn Jones ar hyd Clawdd Offa.

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Grŵp Ymgynghorol y Ganolfan (yn flaenorol y Pwyllgor Ymgynghorol), Hydref 2015, a Mawrth a Mehefin 2016; agendâu, Mehefin a Thachwedd 2016; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2015-2016 (2016); a llythyrau (2016) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2015, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, Medi, a Hydref 2016.

Canlyniadau 41 i 60 o 59941