Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 713014 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4581 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ymweliadau i Lesotho

Papurau yn ymwneud ag ymweliad 'assessment' gan Kate Graham, 22-28 Tachwedd 1999, ac ymweliad gan R. Karl Davies, Owain Evans a Delyth Lloyd, 31 Hydref-5 Tachwedd 2000.

Ymweliadau

Llythyrau, teithlenni, adroddiadau a phapurau eraill yn ymwneud ag ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru a'r DU, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau o Gymru i Lesotho.

Ymweliadau

Papurau paratoadol ac adroddiadau ar ymweliadau gan ddirprwyaethau Cymreig i Lesotho, 1987-1997, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru, 1990-1998.

Ymlaen asyn bychan,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi o 'Ymlaen asyn bychan' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Côr pedwar llais.

Ymgyrch refferendwm datganoli Cymru

Deunydd amrywiol yn ymwneud ag ymgyrch dros bleidlais Ie yn refferendwm datganoli Cymru 1997, cynlluniau am etholiadau i'r Cynulliad, pasio'r deddf yn Senedd y DG a threfniadau mewnol Plaid Cymru am yr ymgyrch.

Ymgyrch cadw Cymru'n ddi-GM

Papurau'n ymwneud ag ymgyrch Plaid Cymru, y grwp Cynghrair Rhydd Ewrop/Gwyrddion yn y Senedd Ewropeaidd, a'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn ag organebau wedi'u haddasu'n enetig (GMO), ac i labelu bwyd a bwyd anifeiliaid GM.

Ymadawiad Arthur,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Ymadawiad Arthur', gan Gilmor Griffiths, geiriau T. Gwynn Jones. Darn adrodd i gyfeiliant telyn o bosib.

Y Waedd,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Clychau'r gog' gan R. Williams Parry, i'r alaw 'Y Waedd' gan Haydn Morris.

Y Tŵr a'r Graig

Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.

Y Tlawd hwn,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Y Tlawd hwn', gan Gilmor Griffiths. Darn adrodd i gyfeiliant telyn. Dim geiriau [o bosib y gerdd o'r un enw gan W. J. Gruffydd].

Canlyniadau 21 i 40 o 713014