Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 159 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

Tosturi

Proflenni Tosturi, sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2022, sy'n cynnwys rhagymadrodd ddwyieithog i'r gyfrol gan Menna Elfyn yn dwyn y dyddiad ysgrifenedig '5.3.2022'; gydag arnodiadau llaw a nodiadau a chywiriadau argraffedig gan Menna Elfyn a nodiadau electronig gan [?y golygydd neu'r argraffydd]. Ynghyd â chyfres o ebyst, 2022, yng Nghymraeg a Saesneg cydrwng Menna Elfyn a'r rheolwraig ddiwylliannol, cyfieithydd a golygydd Alexandra Büchler ac oddi wrth Menna Elfyn at y golygydd a'r ymchwilydd Alaw Mai Edwards, rhai o'r negeseuon yn cyffwrdd â salwch olaf a marwolaeth Geraint Elfyn Jones, brawd Menna Elfyn (cyflwynir y gyfrol i Geraint Elfyn Jones ac i chwaer Menna Elfyn, sef Siân Elfyn Jones, a fu farw yn 2020). Ynghyd ag erthygl a dynnwyd o gylchgrawn Y Wawr, Hydref 2017, am y Dywysoges Gwenllian gan Tecwyn Vaughan Jones, Cadeirydd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

Bondo

Dwy ddrafft o Bondo, cyfrol farddoniaeth ddwyieithog gan Menna Elfyn, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books yn 2017. Arnodir 'Copy llawn' ar un drafft yn llaw Menna Elfyn, a'r dyddiad '14.07.2017'.

Gweler hefyd 'Bondo Barddoniaeth' dan Anerchiadau.

Mwyara

Copi drafft cyntaf o Mwyara, sef y detholiad cyntaf o gerddi gan Menna Elfyn i'w chyhoeddi, hynny gan Wasg Gomer ym 1976. Ceir nodyn yn llaw Menna Elfyn ar glawr y gyfrol: 'Fy nghopi cynta' cyn cyhoeddi'. Nodir gan Menna Elfyn mai Eiris Davies deipiodd y cynnwys ac (mewn nodyn diweddarach)) ei bod wedi hepgor rhai o'r cerddi ac ychwanegu eraill cyn ei anfon yn derfynol i'r wasg.

Barddoniaeth amrywiol

Amrywiol gerddi (llawysgrif, drafft ac argraffiedig) yn ymestyn dros sawl cyfnod, nifer ohonynt wedi'u cyhoeddi yng nghasgliadau barddonol Menna Elfyn, ond y rhan helaethaf ohonynt heb eu dyddio. Ceir rhai cerddi sy'n ymddangos fel petaent yn rhai cynnar (hynny yw, cyn cyhoeddi Mwyara (1976)) ond sydd heb ddyddiad penodol (cynhwysir cerddi cynnar sydd â dyddiad penodol dan y pennawd Cerddi cynnar). Nifer o'r eitemau yn cynnwys arnodiadau/cywiriadau yn llaw Menna Elfyn.

Cerddi cynnar

Cerddi gan Menna Elfyn a gyfansoddwyd cyn ymddangosiad ei chyfrol gyntaf gyhoeddiedig Mwyara ym 1976, rhai o'r cerddi heb eu cwblhau nac (yn ddiweddarach) eu cyhoeddi. Mae'r deunydd yn cynnwys cerddi a ddyddiwyd Medi a Hydref 1967; cerdd fuddugol a gynigiwyd gan Menna Elfyn i Eisteddfod Pantyfedwen 1968(?); cerdd yn dwyn y teitl Y Daith, sy'n disgrifio digwyddiad ym mis Mawrth 1969 ac a arnodir gan Menna Elfyn 'Fy ngherdd gyntaf ... darn ar goll' (er noder cerdd Eisteddfod Pantyfedwen, lle cynigir ganddi'r dyddiad cynharach 1968); cerddi a gyfranwyd gan Menna Elfyn i golofn Bord y Beirdd ym mhapur newydd Y Cymro, 1970; dau gopi o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Sylwadau ar fywyd colegol (dim dyddiad, ond cymerir eu bod yn tarddu oddi ar gyfnod Menna Elfyn yn y Brifysgol); a beirniadaethau gan D. Jacob Davies, W. J. Gruffydd a W. R. Evans ar gerddi buddugol gan Menna Elfyn a gynigiwyd (dan ffugenw) ar gyfer yr Eisteddfod Ryngolegol yn Aberystwyth, 1973.

Cynhwysir yn yr adran hon ond y cerddi hynny sydd â dyddiad wedi'i nodi arnynt. Cynhwysir y cerddi hynny a all ddyddio o'r cyfnod cynnar ond sydd heb ddyddiad amlwg dan Barddoniaeth amrywiol.

Gŵyliau, darlleniadau, cynhadleddau, seminarau a theithiau

Deunydd yn ymwneud â'r mynych ŵyliau (gan gynnwys Gŵyl y Gelli, Gŵyl Gregynog a Gŵyl Tŷ Newydd), cynhadleddau, seminarau a theithiau barddonol y bu Menna Elfyn yn rhan ohonynt yng Nghymru, Prydain a thramor, gan gynnwys copïau o'r cerddi a ddatganwyd, llyfrynnau a phosteri, sgriptiau, amserlenni teithio/perfformio, gohebiaeth (gan gynnwys ymatebion i ddarlleniadau barddonol), torion papur newydd a nodiadau. Un o'r elfennau mwyaf diddorol o fewn y deunydd yw cyfres o frasluniau a dynnwyd o Menna Elfyn ac eraill oedd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 1997 gan Heather Spears. Ceir hefyd fanylion am ddarlleniad barddonol gan Menna Elfyn ar y cyd â pherfformiad cerddorol gan ei merch Fflur Dafydd.

Traethodau ymchwil ar waith Menna Elfyn

Traethodau ymchwil yn ymdrin â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys traethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg (gyda dyfyniadau barddonol yng Nghymraeg) gan Siôn Brynach, Coleg Iesu, Rhydychen, traethawd di-ddyddiad a di-enw yn yr iaith Gymraeg (prifysgol/sefydliad heb ei henwi) a thraethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg gan Manon Ceridwen James (prifysgol/sefydliad heb ei henwi).

Darlleniadau radio: Epilog

Copïau drafft a theg o sgriptiau ar gyfer darlleniadau radio Epilog, un yn unig ohonynt wedi'i ddyddio (Chwefror 1990).

Rhaglen deledu: Bardd yn Fietnam

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Bardd yn Fietnam (1995), sef cynhyrchiad gan gwmni Boda ar gyfer S4C yn dilyn ymweliad Menna Elfyn â'r wlad, gan gynnwys drafftiau o sgriptiau teledu, amserlen ffilmio, costau a chyfrifon, manylion teithio ac ymweld, dogfennau teithio, copïau drafft a theg o gerddi gan Menna Elfyn (gan gynnwys cyfieithiadau o rai ohonynt i'r Saesneg), gohebiaeth at Menna Elfyn oddi wrth gynhyrchwyr y rhaglen ac oddi wrth Trinh Thi Dieu (sef prif gyswllt Menna Elfyn yn Hanoi), gohebiaeth oddi wrth Menna Elfyn at ei gŵr Wynfford James, cylchgronau a thorion papur newydd.

Drama deledu: Ar Dir y Tirion

Copïau drafft a theg yng Nghymraeg a Saesneg o'r ddrama deledu Ar Dir y Tirion/On the Land of the Gentle, a ddarlledwyd 1990-1991.

Rhaglen radio: Merched yn Bennaf

Adolygiad yng nghylchgrawn Barn ar raglen Radio Cymru Merched yn Bennaf a ddarlledwyd o gynhadledd Merched y Wawr, ac a gyfranwyd iddi gan Menna Elfyn.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn gyda'r cyfryngau, gan gynnwys cytundeb printiedig oddi wrth y BBC, llythyrau oddi wrth gwmni cyfryngau digidol Fidgety Lizard a Phrifysgol Copenhagen, slip cyfarchion Ffilmiau Bryngwyn a bras nodiadau.

Drama radio: Hirddydd yw Heddwch

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Hirddydd yw Heddwch, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Tachwedd 2012, gan gynnwys nodiadau a chopïau drafft a theg o'r sgriptiau, un yn dwyn ei theitl blaenorol Bobby Sands Y Ddrama.

Rhaglen deledu: Pethe

Toriad papur newydd yn rhaghysbysebu Pethe, rhaglen a ddarlledwyd ar gyfer S4C i ddathlu penblwydd Menna Elfyn yn drigain oed.

Canlyniadau 21 i 40 o 159