Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 2022 (Creation)
Level of description
Ffeil / File
Extent and medium
1 ffolder
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Proflenni Tosturi, sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2022, sy'n cynnwys rhagymadrodd ddwyieithog i'r gyfrol gan Menna Elfyn yn dwyn y dyddiad ysgrifenedig '5.3.2022'; gydag arnodiadau llaw a nodiadau a chywiriadau argraffedig gan Menna Elfyn a nodiadau electronig gan [?y golygydd neu'r argraffydd]. Ynghyd â chyfres o ebyst, 2022, yng Nghymraeg a Saesneg cydrwng Menna Elfyn a'r rheolwraig ddiwylliannol, cyfieithydd a golygydd Alexandra Büchler ac oddi wrth Menna Elfyn at y golygydd a'r ymchwilydd Alaw Mai Edwards, rhai o'r negeseuon yn cyffwrdd â salwch olaf a marwolaeth Geraint Elfyn Jones, brawd Menna Elfyn (cyflwynir y gyfrol i Geraint Elfyn Jones ac i chwaer Menna Elfyn, sef Siân Elfyn Jones, a fu farw yn 2020). Ynghyd ag erthygl a dynnwyd o gylchgrawn Y Wawr, Hydref 2017, am y Dywysoges Gwenllian gan Tecwyn Vaughan Jones, Cadeirydd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Tudaleniad gwreiddiol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Rhai ebyst yn Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Mae Alexandra Büchler yn Gyfarwyddwraig Literature Across Frontiers (LAF) ac yn reolwraig ddiwylliannol, yn gyfieithydd ac yn olygydd. Fe'i ganed yn Prague a bu'n byw ac yn gweithio yng Nghroeg, Awstralia a gwledydd Prydain, lle sefydlodd LAF yn 2001. Gwasanaethodd ar fyrddau gweithredol y rhwydwaith bleidiol Culture Across Europe, UK Translators' Association a European Civil Society Platform for Multilingualism ac mae bellach ar fwrdd Wales PEN Cymru ac ENLIT, sef y rhwydwaith Ewropeaidd o gyrff cenedlaethol sy'n cefnogi cyfieithu llenyddol (https://www.lit-across-frontiers.org/profiles/alexandra-buchler/).
Ymunodd Alaw Mai Edwards â chylchgrawn Barddas fel Golygydd Creadigol wedi cyfnod o fod yn gweithio yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu’n rhan o brosiectau Barddoniaeth Guto’r Glyn a Chwlt y Seintiau yng Nghymru. Fel cymrawd ymchwil yn y Ganolfan yn Aberystwyth, mae ganddi brofiad sylweddol o gyhoeddi a pharatoi testunau ar gyfer eu cyhoeddi (https://www.barddas.cymru/swyddog/alaw-mai-edwards/)
Am Siân Elfyn Jones, gweler, er enghraifft: https://www.facebook.com/113886883322551/posts/190338112344094/
Am Geraint Elfyn Jones, gweler, er enghraifft: https://www.countytimes.co.uk/news/20049960.powys-tributes-paid-newtown-lawyer-church-planter/; https://www.evangelicalmagazine.com/article/geraint-elfyn-jones/
Am Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian, gweler, er enghraifft: https://www.facebook.com/groups/cymdeithasgwenllian/?locale=en_GB; http://www.fforwmhanescymru.org.uk/gwenllian.htm.
Am Tecwyn Vaughan Jones, gweler, er enghraifft: https://www.facebook.com/groups/cymdeithasgwenllian/?locale=en_GB
Note
Tosturi: 'Casgliad o gerddi sy'n marwnadu ac yn moli, yn herio ac yn tosturio yw'r gyfrol hon wrth i'r bardd ymateb i'r camweddau a wnaed yn erbyn menywod dros y canrifoedd. Mae yma gerddi hunangofiannol, cerddi wedi'u hysgogi gan y cyfnodau clo diweddar, cerddi gwleidyddol a cherddi am fyd natur' (https://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781911584544).
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Büchler, Alexandra, 1955- (Subject)
- Edwards, Alaw Mai (Subject)
- Jones, Siân Elfyn, d. 2020 (Subject)
- Jones, Geraint Elfyn, 1948-2022 (Subject)