Dangos 839647 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9561 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. J. Gruffydd a'r Parch. R. S. Rogers ar 'Tair o Ysgrifau Byrion mewn Cymraeg yn null yr Essay Saesneg' ...,

W. J. Gruffydd a'r Parch. R. S. Rogers ar 'Tair o Ysgrifau Byrion mewn Cymraeg yn null yr Essay Saesneg'. Yr olaf ar ffurf toriad papur newydd. Rhannwyd y wobr rhwng 'Sylven' ac 'Ar y Traeth' (y ddau draethawd gan y Parch. Robert Beynon, Aber-craf) [rhif 45 yn y Rhestr Testunau].

[W. J. Gruffydd , Llundain at ? Y Llywodraeth],

Llythyr sy'n gwrthwynebu'r chwarel ar safle castell Clegyr Voia ger Tyddewi. Mae'n ysgrifennu ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru i weld beth ellir ei wneud i ddiogelu'r hen safle yn wyneb y tyllu a'r gwaith o gario cerrig oddi yno i greu maes awyr Tyddewi. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd y safle ers dros fil o flynyddoedd a'r cysylltiad â Dewi Sant. Gofyn i'r llywodraeth i wrthod hawl i dyllu mwy ar ôl gorffen y maes awyr er mwyn diogelu'r hyn sy'n weddill. Dylid rhoi cymal ymhob cytundeb i dyllu am dywod, calch, etc., yn caniatâu i'r Adran Henebion gael archwilio'r safle cyn i'r gwaith ddechrau. Mae'n deall nad oedd angen agor chwarel Clegyr Voia yn yr achos hwn gan fod digon o chwareli tebyg cyfagos ar gael. Copi teipysgrif.

W. J. Gruffydd

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

W. J. Gruffydd

9 llythyr yn ymwneud â rhifyn coffa W. J. Gruffydd o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth A. E. Jones (Cynan), ac R. T. Jenkins, 1954, D. Rees Griffiths (Amanwy), heb eu dyddio.

Cynan, 1895-1970

W. J. Gruffydd

Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at W. J. Gruffydd tra bu'n golygu'r Llenor, 1925-1946.

W. J. Griffith,

Dorothea Quarries, Pen-y-groes. Cytuno i gael copi o Cerddi Eryri.

W. Humphreys,

1 Minffrwd Terrace. Deall nad ymddangosodd ei erthygl yn y 'Marian', sôn am ei fywyd ar ôl ymddeol.

W. Hughes-roberts, Catford,

Diolch am yr emyn rhagorol [cf. rhif 81]. Yr emyn-dôn 'Bryn Gilead' o waith ei dad. Yn amgau llythyr, 19 Rhag. 1912, oddi wrth ei gyfaill Dewi [ ] yn diolch am y sypyn llyfrau ac am lun EW [rhif 82a].

W. Hughes-roberts, Catford,

Cais ar ran cyfaill [gweler rhif 82] am lun EW a chopi o awdl 'Y Bugail'. A fyddai EW mor garedig â llunio emyn ar gyfer tôn a gyfansoddodd? Nid oes geiriau Cymraeg i'w cael ar y mesur hwn.

W. Hughes, Llanrwst,

Gwahodd EW yn Arweinydd a Beirniad Adrodd Eisteddfod y Nadolig, Llanrwst, 1921 [ar y cefn ceir ateb EW yn gwrthod y cais - y degfed i'w gyrraedd yr wythnos honno heb amgau stamp ar gyfer yr ateb!]. Cerdyn post.

Canlyniadau 3821 i 3840 o 839647