file A1/23 - W. J. Gruffydd

Identity area

Reference code

A1/23

Title

W. J. Gruffydd

Date(s)

  • 1928-1952 (Creation)

Level of description

file

Extent and medium

4 ffolder (4.5 cm.)

Context area

Name of creator

Biographical history

Yr oedd William John Gruffydd (1881-1954) yn fardd, dramodydd, ysgolhaig, golygydd a beirniad. Cafodd ei fagu yng Ngorffwysfa, Bethel, sir Gaernarfon, a mynyddodd Ysgol Sir Caernarfon, ac astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn ddiweddarach yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yn 1904 fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yn 1906 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Celteg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog yn y llynges, 1915-1918, fe'i penodwyd yn Athro Ieithoedd Celtaidd yng Nghaerdydd ac arhosodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1946. Prif faes ei ymchwil oedd Pedair Cainc y Mabinogi, a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn chwarterol Y Llenor, 1922-1951; ysgrifennodd tair drama, a chyfieithodd Antigone gan Sophocles i'r Gymraeg. Bu'n ymgeisydd seneddol fel Rhyddfrydwr yn 1943, gan gystadlu yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, er gwaethaf y ffaith ei fod yntau yn aelod blaenllaw o Blaid Cenedlaethol Cymru. Priododd a chael un mab.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir teipysgrif o lythyr yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd ymhlith papurau E. Morgan Humphreys yn LlGC (A/2784). Mae llythyrau gan Iorwerth Peate at W. J. Gruffydd, 1938-1943, amryw ohonynt yn ymwneud â'i achos fel gwrthwynebydd cydwybodol, ymysg papurau W. J. Gruffydd (663-679).

Related descriptions

Notes area

Note

Preferred citation: A1/23

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004330292

GEAC system control number

(WlAbNL)0000330292

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: A1/23 (9).