Mae'n ceisio ymryddhau o fod yn Llywydd Cronfa Goffa Morgan Llwyd. Hydera y bydd Syr T. Carey Evans wedi derbyn y gwaith hwnnw cyn bo hir. Cafodd ohebiaeth fywiog gyda J. W. Jones ac y mae'n cynnwys copi o lythyr a ysgrifennodd at Carey Evans. Mae ei fwriadau yn dda ond nid yw yn deall yr hyn sy'n ymhlyg yn y math hwn o beth. Mae ef a J. W. Jones yn teimlo'n flin at Bob Owen am awgrymu rhoi'r ffenestr yn y 'capel Sentars yn y Llan'. Mac ef, Wynn P. Wheldon, yn tueddu cytuno â Bob Owen. Maent i gyd yn rhy ddiamynedd yngl?n â beirniadaeth ac yn methu sylweddoli mai ychydig iawn o arian a gesglir i achos fel hwn.
Diolch iddo am anfon cynllun y ffenestr liw. Mae ganddo ragfarn yn erbyn ffenestri lliw. Mae'r cynllun yn artistig ac yn gymesur. Ni ellir gwrthod sylwadau W. J. Gruffydd yn ysgafn. Mae'r cynllun presennol yn awgrymu bod Morgan Llwyd ar y cyfan yn swyddog milwrol. Nid dyna oedd yn nodweddu'r Annibynwyr cynnar. Mae'n falch mai yn Gymraeg y bwriedir yr arysgrif ac ni ellir gwrthwynebu cyfieithiad Saesneg. Byddai'n well ganddo weld enw T. Carey Evans ar y taflenni fel Llywydd na'i enw ef os nad ydynt eisoes wedi eu hargraffu. Yr arysgrif yw: 'Pregethwr: Proffwyd: Llenor: Gwladgarwr'. Copi teipysgrif.
Nid oedd yn deall fod disgwyl i'r Bwrdd [Addysg] i draethu barn ar sefyllfa D. J. Williams. O chwilio gwelir bod ateb wedi ei anfon ar Hyd. 8 yn dweud na all y Bwrdd dalu dim nes bod canlyniad yr achos yn hysbys. Nid oedd ganddynt wrthwynebiad i gyflogi rhywun yn lle Mr Williams. Nid yw'n deall i ba ddiben y defnyddir y Gronfa Amddiffyn onid i helpu mewn achos fel hwn. Copi teipysgrif.
Copi o bryddest anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, 1981, ynghyd â nodiadau'r awdur i Barddas, 1981, a'i fersiwn newydd, 1986, ar gyfer y Cerddi.
Sgôr mewn llawysgrif o 'Wrth y Tân', trefniant Gilmor Griffiths o'r alaw Rwsieg ar gyfer lleisiau merched neu blant (? S.A.A.A.). Geiriau gan W. J. Bowyer.
'Darllen "Telynegion" R.S.R. a W.J.G. am y tro cyntaf'. Drafftiau inc a phensel, gyda chywiriadau, 2 tt. [Gweler Tir Newydd, rhif 12 (rhifyn arbennig W. J. Gruffydd), Mai 1938].