Dangos 849481 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16223 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Another Celt', Somewhere in Scotland,

Hoffai petai W. J. Gruffydd a Syr Arnold Gridley yn gwrthwynebu'r Bil Hydro-Electric Albanaidd. Nid yw'r Sais cyffredin yn malio am Ucheldiroedd yr Alban. Mae dros bedair miliwn o aceri ar gyfer ceirw ac adar i'w saethu - cymaint â maint deg o siroedd yr Alban ar gyfartaledd. Mae yna filoedd o bobl heb dir a hoffai weithio mewn amaethyddiaeth. Ni ellir cael digon o dir i bori un buwch arno i gyflenwi digon o laeth. Caiff y plant y darfodedigaeth a'r tir o'u cwmpas yn pydru dan y ceirw. Mae'r Torïaid yn rheoli yn yr Ucheldiroedd. Cyfeiriad at ddeddf 1911 'The Scottish Small Landholders Act' a'r gwaith da a wnaethpwyd ar y cychwyn i greu tiroedd a thyddynnod allan o'r fforestydd ceirw. Dylid gofyn i Ysgrifennydd Gwladol yr Alban paham nad yw'r gwaith hwn yn parhau. Paham na fedrid defnyddio'r 30 miliwn o bunnau i greu cartrefi a thiroedd i'r milwyr sy'n dychwelyd o'r rhyfel. Ni all roi ei enw a'i gyfeiriad oherwydd ei fod yn dal swydd arbennig.

Anterliwtiau Twm o'r Nant

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o olygiad Glyn M. Ashton o Anterliwtiau Twm o'r Nant, sef Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd.

Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol ...,

Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol Deheudir Cymru, Sulgwyn 1875, ff. 1-8 [anghyflawn]. Cynhwysir hefyd bum copi o rannau o'r anthem yn cynnwys newidiadau a chywiriadau, ff. 9-26 [gweler 140]. Ar gefn un o'r copiau, f. 21, ceir bariau cyntaf 'Gweledigaeth yr Esgyrn Sychion' wedi eu croesi allan. [gweler 137].

Canlyniadau 2161 i 2180 o 849481