Deunydd amrywiol yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau THP-W. FF43: 'Meithrin chwaeth at ffurfiau llenyddol y Beibl'. Traddodwyd yn Undeb y Bala, Llandudno, 2 Gorffennaf 1934. Drafft inc, gyda chywiriadau inc a phensel, 12 tt. FF44: 'Dylanwad y Beibl ar ein llenyddiaeth'. Traddodwyd mewn cyfarfod i ddathlu Seithfed Jiwbili Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, Capel Jewin, Llundain, 1 Tachwedd 1938. Drafft inc, gyda chywiriadau pensel, 22 tt.; ynghyd â chopi o Rhaglen Cymdeithasfa Chwarterol Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru a gynhelir yn Jewin, Llundain, Tachwedd 1, 2, 3, 1938. FF45-52: Ysgol Undydd dan nawdd y WEA a'r WETUC i'w chynnal yn Ysgol Gynradd Pengelli, 2 Ebrill 1955:. FF45: Llythyrau (8), Rhagfyr 1954 i Mawrth 1955, oddi wrth Mansel Grenfell, Trefnydd Gorllewin Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. FF46: Cerdyn post, Tachwedd 1954, oddi wrth D. W[illiams], Aberystwyth. FF47: Llythyr, [d.d.], oddi wrth E. D. T. Jenkins. FF48: Nodiadau amrywiol, inc a phensel. FF49: Y Drysorfa, Mehefin 1938. D. Gwenallt Jones, 'Cymraeg Cyfieithiadau'r Beibl', tt. 216-20. FF50: Yr Haul, Ebrill 1952, yn cynnwys sylwadau ymyl y ddalen yn llaw THP-W. FF51: Ffotograff o faen coffa William Morgan ac Edmwnd Prys yng Nghapel Coleg Ieuan Sant, Caergrawnt; ynghyd â deunydd perthynol. FF52: Torion papur newydd, 1938, 1951-6. FF53-6. Darlith gyhoeddus yn Neuadd Bethel, Aberhonddu, 20 Mawrth 1957, dan nawdd Pwyllgor Addysg Brycheiniog:. FF53: Llythyr, 28 Ionawr 1957, oddi wrth H. Prosser Roberts, Pwyllgor Addysg Brycheiniog. FF54: Nodiadau, 6 tt. FF55: 'Y Beibl Cymraeg'. Drafft inc, gyda chywiriadau inc a phensel, 7 tt. FF56: Drafft inc a theipysgrif, gyda chywiriadau inc a phensel o 'Y Beibl (Cymraeg): Gwerthfawrogiad o'i Arddull ac o Rai o'i ddulliau neu Ffurfiau Llenyddol', 12 tt.