Dangos 402 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres / Series
Rhagolwg argraffu Gweld:

Additional material (May 2023)

Additional papers donated by the Welsh Beekeepers' Association in May 2023, comprising: records of WBKA Annual General Meetings, 2021-2023; records of WBKA Council meetings, 2021-2023; WBKA Annual Reports for 2021 and 2022; and WBKA examination results, 1945-2022.

Dyddiadau a digwyddiadau nodedig = Notable events and anniversaries

Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau a dyddiadau nodedig yn hanes brwydr trigolion Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe, sy'n cynnwys y mynych ddigwyddiadau lleol a chyfryngol i gofnodi hannercanmlwyddiant llwyddiant y frwydr. = Material relating to notable events and anniversaries in the history of the residents of Llangyndeyrn's battle against Swansea Corporation, which includes the many local and media events which took place to mark the half-centenary of their victorious stand.

Deunydd ychwanegol Mai 2023

Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Media productions

Material relating to stage, screen, radio, sound recordings and audiobook productions, as well as an art exhibition, in which Siân Phillips participated.

Llyfrau = Books

Deunydd yn ymwneud â llyfrau oddieithr Sefyll yn y Bwlch (2013) (gweler dan Dathlu'r hannercanmlwyddiant: Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (llyfr)) a Cloi'r Clwydi (1983) (gweler dan Dathlu'r ugain mlynedd) sy'n cynnwys hanes brwydr Llangyndeyrn. = Material relating to books other than Sefyll yn y Bwlch (2013) (see under Celebrating the half-centenary: Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (book)) and Cloi'r Clwydi (1983) (see under Twentieth anniversary celebrations ) which include the history of Llangyndeyrn's 'fight for victory'.

Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers

Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.

Press articles

Press articles relating to the private and professional lives of Siân Phillips, her second husband Peter O'Toole, their daughters Kate O'Toole and Pat O'Toole and to Siân Phillips' third husband Robin Sachs, the contents ranging from Siân Phillips' earliest school successes to her latter-day career. Some items annotated by Siân Phillips. Together with miscellaneous press articles not directly related to Siân Phillips or her family but some of which reference leading figures in the theatrical world, Welsh current affairs or notable Welsh figures.

Administration

Welsh Beekeepers' Association administrative papers, comprising agendas and minutes of meetings; records of accounts and expenditure; reports; insurance documentation and claims; correspondence; and details of orders, receipts and invoices, mainly for the purchase of honey jar labels.

Diaries and calendars

Diaries and calendars, 1960s - 2020s and undated, of Siân Phillips, some of the diaries having been printed for that purpose, others being notebooks used as diaries. The contents largely relate to Siân Phillips' personal, domestic and family affairs and to her professional life, some diaries being kept specifically alongside theatrical 'runs' or filming schedules. Many of the items contain inserts such as newspaper cuttings, letters, cards and notes.

Correspondence

Letters, cards and telegrams, [1946]-2021, to Siân Phillips (with some correspondence addressed to Siân Phillips and her second husband Peter O'Toole and to Siân Phillips and her third husband Robin Sachs) from family members and from friends and colleagues in the theatrical world and the media; also correspondence addressed to family members of Siân Phillips.

Erthyglau = Articles

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau gan John Meirion Morris; llungopïau, allbrintiau ac erthyglau a nodiadau gwreiddiol o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau am John Meirion Morris a'i waith; ac erthyglau gan y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd. Ceir rhestrau o'r erthyglau, ynghyd â manylion am y cylchgronau, llyfrau ac yn y blaen lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris.
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for articles by John Meirion Morris; photocopies, printouts and original articles and notes taken from newspapers, periodicals and books about John Meirion Morris and his work; and articles by the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned a period of fifty years. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals, books, etc in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.

Torion o'r wasg = Press cuttings

Torion o'r wasg o gyfnod brwydr Llangyndeyrn yn olrhain hanes llwyddiannus trigolion Cwm Gwendraeth yn eu hymdrechion yn erbyn Corfforaeth Abertawe yn ystod hanner cyntaf y 1960au; ynghyd â thorion mwy diweddar o'r wasg sydd hefyd yn cofnodi hanes y frwydr.
= Press cuttings from the period of Llangyndeyrn's 'fight for victory' which chronicle the Gwendraeth Valley inhabitants' successful battle against Swansea Corporation during the first half of the 1960s; together with more recent press cuttings which also record the history of the struggle.

Gohebiaeth = Correspondence

Llythyrau, 1960-2020, at John Meirion Morris oddi wrth sefydliadau, cyfeillion, cydnabod ac edmygwyr, gan gynnwys y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill agos i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd. Ynghyd â dau lythyr oddi wrth John Meirion Morris. = Letters, 1960-2020, to John Meirion Morris from institutions, friends, acquaintances and admirers, including the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years. Together with two letters from John Meirion Morris.

Pwyllgorau a rheolaeth

Cofnodion a gwaith papur cyfarfodydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr yr Urdd, 1997-2003; Pwyllgor Gwaith 1998-2003; Cyngor yr Urdd, 1970-2004; cynlluniau a strategaethau busnes 1994-2019.

Canlyniadau 1 i 20 o 402