Print preview Close

Showing 567 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales series
Advanced search options
Print preview View:

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.

'John ap John'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif y ddwy erthygl olaf (gyda'r tudalen cyntaf yn eisiau) mewn cyfres o erthyglau byr ar fywyd a gwaith John ap John, y Crynwr a gyhoeddwyd yn Cymru, 61-63 (1921-1922), sef yng nghyfrol 63 (1922), 46-8, 74-5.

John ap John, 1625?-1697

Yr Argyfwng

Llawysgrifau a phroflenni yn ymwneud â chyhoeddi Yr Argyfwng a gyhoeddwyd yn Llandybïe ym 1956.

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau Meic Povey, 1988-2005, yn ymwneud â'i waith fel dramodydd, gan gynnwys syniadau ar brosiectau cyfredol, a nodiadau bras ar faterion megis lleoliadau set, ynghyd â rhai drafftiau cynnar o'i weithiau.

Cyfrifon a chytundebau

Cyfrol yn nodi swm y casgliad a thaliadau i weinidogion, 1855-1891, cyfrifon Cymdeithas y capel, 1870-1885, biliau adeiladwyr, 1903-1904, cytundebau'n ymwneud â'r capel a'r fynwent, 1926-1959, a chyfrifon y capel, yr Ysgol Sul a'r Gymdeithas, 1962-1982.

Papurau perthnasau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau, [?1847]-[?1935], a gasglwyd gan hanner brodyr a chwiorydd mam Mathonwy Hughes, ynghyd â pherthnasau amrywiol eraill. Ymhlith y papurau ceir llyfrau rhent, llythyrau, llyfrau ysgol a phapurau personol.

Eisteddfodau Moreia

Mae'r gyfres yn cynnwys rhestr testunau Eisteddfod y Calan, 1978, ac yn amgaeëdig ynddo mae rhai o'r cynhyrchion llenyddol; a rhestr testunau Eisteddfod Morfa Nefyn, 1981, ynghyd â llyfr ysgrifennydd yr Eisteddfod honno sy'n cynnwys enwau'r cystadleuwyr a'u safle terfynol.

Results 481 to 500 of 567