Dangos 92 canlyniad

Disgrifiad archifol
is-fonds
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Siân Williams

Papurau Siân Williams, [1866]-1965, yn cynnwys llythyrau oddi wrth aelodau o'i theulu; llythyrau a dderbyniodd tra roedd ei gŵr D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, 1936-1937; ei dyddiaduron, 1910-1964; a phapurau teuluol.

Williams, Siân, 1884-1965

Papurau proffesiynol

Ceir yn y grŵp hwn bapurau'n ymwneud â bywyd proffesiynol yr Athro Stephen J. Williams fel ysgolhaig, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei waith golygyddol, ei ddiddordeb ieithyddol, ei waith llenyddol ei hun ac adolygiadau o weithiau eraill, yn ogystal â llythyrau gan nifer o ohebwyr ar amrywiol bynciau.

Papurau personol,

Gohebiaeth rhwng Harri ac Eirwen Gwynn, [1936]-1944, llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion, [1938]-1986, ynghyd â phapurau personol amrywiol.

Papurau personol,

Llythyrau, papurau'n ymwneud â'i yrfa yn y Brifysgol a phapurau'n adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, 1933-[1999].

Papurau personol

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys papurau personol yr Athro Stephen J. Williams, megis ei bapurau ysgol; papurau yn ymwneud â chapel Henrietta, Abertawe, a llyfrau cyfrifon eraill.

Papurau personol

Papurau personol D. J. Williams, 1810-1969, gan gynnwys llythyrau ato ac oddi wrtho, dyddiaduron, papurau teuluol, papurau academaidd, torion o'r wasg, papurau a grynhowyd ganddo a phersonalia.

Papurau Mudiad Addysg y Gweithwyr

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau a gasglwyd gan Mathonwy Hughes tra'n aelod o ddosbarthiadau, ac yn ddarlithydd gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.

Workers' Educational Association

Papurau Llewellyn Llewellyn

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau, gan mwyaf at Llewellyn Llewellyn a'i wraig Priscilla, oddi wrth eu teulu, ac hefyd, oddi wrth ffrindiau a chydnabod, 1880-1926. Mae'r ohebiaeth, gan mwyaf, yn ymwneud â Llewellyn Llewellyn a'i deulu. Ceir hefyd rai dogfennau personol ac amrywiol, cardiau post a phrisiadau tir, 1892-1921.

Llewellyn, Llewellyn, 1843-1927

Papurau llenyddol,

Cerddi cynnar Harri Gwynn; cyfieithiad i'r Saesneg o 'Y Creadur' gan [Richard Ruck], ac i'r Sbaeneg gan Tryfan Hughes Cadfan, 1953; cyfieithiadau o ganeuon; ynghyd â thorion o'r wasg o'i golofn 'Rhwng Godro a Gwely' a gyhoeddwyd yn Y Cymro.

Papurau llenyddol,

Papurau llenyddol, 1948-2002, gan gynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a phroflenni rhai o'i gyhoeddiadau, 1970-1997, erthyglau, adolygiadau, beirniadaethau a phapurau'n ymwneud â'i gyfraniadau i'r Cydymaith.

Papurau llenyddol

Mae'r uned yn cynnwys llawysgrifau a theipysgrifau, [?1915]-[?1999], o farddoniaeth Mathonwy Hughes, cyfrolau cyhoeddedig, erthyglau, ysgrifau, a'i nofel anghyhoeddedig Y Pris, yn ogystal â chopïau o'i waith fel beirniad, beirniadaethau a dderbyniodd ef ar ei waith, a deunydd a baratowyd ar gyfer ymrysonau barddol.

Papurau Iorwerth C. Peate

Papurau Iorwerth C. Peate, 1826-1983, gan gynnwys llythyrau ato, papurau yn ymwneud â'i weithiau llenyddol, papurau ynglŷn â'i yrfa broffesiynol, papurau ymchwil ar bynciau penodol yn ymwneud â diwylliant gwerin, papurau yn ymwneud â chynadleddau a fynychwyd ganddo a phwyllgorau y bu'n aelod ohonynt, a phapurau personol.

Papurau gweinyddol a mynegeion

Mae'r adran hon yn cynnwys llyfrau nodiadau a chymhorthion golygyddol, gohebiaeth a chofnodion gweithgor Y Faner; ystadegau, taflenni, ynghyd ag ôl rifynnau, 1986-1992; mynegeion i'r llythyrau a dderbyniodd y golygydd ac i'r pynciau a drafodwyd yn y Faner, 1987-1990; yn ogystal â llyfrau cyfrifon, papurau ariannol, gohebiaeth ariannol a rhoddion i apêl Y Faner, 1988-1992.

Papurau Griffith Williams,

Papurau Griffith Williams, 1927-1977, yn cynnwys llyfr nodiadau, 1927; cerddi, [1940]-[1977]; dramâu a storïau byrion, [1940]-[1970]; ysgrif Wales and Art Today, [1950x1977]; erthyglau, 1954-1977; a drafftiau Wheels of Freedom, 1976. = Papers of Griffith Williams, 1927-1977, comprising a notebook, 1927; poems, [1940]-[1977]; dramas and short stories, [1940]-[1977]; a typescript of Wales and Art Today, [1950x1977]; articles, 1954-1977; and drafts of Wheels of Freedom, 1976.

Williams, Griffith, d. 1977.

Papurau David Bowen

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau crefyddol David Bowen, 1905-1954 , deunydd a phapurau personol, [1890]-[1955], a'i bapurau llenyddol, [1890]-[1955].

Papurau cyhoeddus

Papurau, 1922-1966, yn ymwneud â rhan D. J. Williams yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 a'r achos llys a ddilynodd, gyda Phlaid Cymru yn Abergwaun ac yn genedlaethol, ac fel darlithydd a phregethwr lleyg.

Papurau Ben Davies

Mae'r grŵp yn cynnwys dyddiaduron o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932; cerddi, pregethau, nodiadau darlithiau, areithiau, ac eitemau a gasglwyd gan Ben Davies 1862 - [1937]; casgliad o erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, 1896-1931; papurau a nodiadau yn ymwneud â'r Wladfa, 1923 - [1937]; ychydig nodiadau ar Ddiwygiad 1904, pryddestau eisteddfodol, 1889-1891; a drafftiau o ddramâu, heb eu dyddio. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys dwy eitem nad ydynt yn ymwneud â Ben Davies, 1945, 1964.

Davies, Ben, 1864-1937

Canlyniadau 21 i 40 o 92