Dangos 2153 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Brwydr Prifysgol Bangor,

Gohebiaeth yn ymwneud â’r frwydr academaidd rhwng R. Williams Parry a Syr Ifor Williams ynglŷn â’i statws fel darlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag adysgrifau o ohebiaeth rhwng R. Williams Parry a D. Emrys Evans, Prifathro’r coleg, 1932-33, a chopi teipysgrif o erthygl Tom Parry, ‘Enaid digymar heb gefnydd’ a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Gorffennaf 1972.

Parry, Thomas, 1904-1985

Brwydr y bais,

Drama gerdd a luniwyd yn arbennig yn 2009 ar gyfer Cwmni Theatr Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd.

'Brynfab'

Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.

Brynfab, 1848-1927

Cadeiriau

Papurau, 1938-1939, yn ymwneud â chadeiriau, yn cynnwys teipysgrifau 'The chair', a'r ddarlith 'Some Welsh Light on the Evolution of the Chair'; llungopïau o enghreifftiau o gadair yn llawysgrif Peniarth 28; a theipysgrif o ddarn o lythyr gan yr Athro Ifor Williams yn trafod y pwnc.

Cais am Wobr Nobel,

Llythyrau, 1970, yn ymwneud â chefnogi enwebiad Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel (Llenyddiaeth), oddi wrth David Hughes Parry, Idris [Foster], Aneirin Talfan Davies, Proinsias Mac Cana, Rachel [Bromwich], Per Denez, David Jenkins ac eraill. Cyfeiriwyd y mwyafrif ohonynt at J. E. Caerwyn Williams. Ceir copi teipysgrif o'r cais, 1971, a llyfryddiaeth.

Parry, David Hughes, Sir, 1893-1973.

'Can diolch',

Llyfr nodiadau'n cynnwys 'Hunangofiant (unwaith eto)', ynghyd â llungopïau o adysgrifau o bum pennod o'r gwaith, a gwybodaeth achyddol.

Canlyniadau 201 i 220 o 2153