Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Y Creadur' yn Saesneg,

Cyfieithiad y Cyrnol R. C. Ruck o bryddest Harri Gwynn 'Y Creadur' i'r Saesneg, [1952], a gyhoeddwyd yn Dock Leaves, Gaeaf 1952 (drafft a fersiwn diwygiedig). [Ceir cyfieithiad Robert Minhinnick ohoni yn The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry : 20th-century Welsh-language poetry in translation (Tarset, 2003)]. Ymhlith y cerddi eraill mae 'Gwalia' a gyfansoddodd yn arbennig yn 1937 i Eirwen Gwynn. Ceir hefyd ei bryddest anfuddugol 'O'r Dwyrain', Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948, a'i bryddest radio 'Yr Ysgall a'r Drain', 1952 [a gyhoeddwyd yn Barddoniaeth Harri Gwynn yn 1954], ynghyd ag argraffiad arbennig o ddyfyniad o'i gerdd 'Pont', Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl a'r Cyffiniau 1985.

Ruck, R. C. (Richard Conyers), 1887-1973

Y Cylch Catholig,

  • NLW ex 2663.
  • ffeil
  • 1989-1999.

Cardiau yn rhestru aelodau'r Cylch Catholig yng Nghymru a thu allan i Gymru, 1989-1999.

Y Cythreuliaid,

  • NLW ex 2472.
  • ffeil
  • 1965.

Copi llawysgrif yn llaw D. Tecwyn Lloyd (1914-1992) o 'Y Cythreuliaid' sef ei drosiad o ddrama The Devils [1961] gan John Whiting (1917-1963), a luniwyd ar gyfer Gŵyl Ddrama Llangefni, 1965, ynghyd â llythyr ganddo at y rhoddwr Anne Loveland, 11 Hydref 1965. = A manuscript copy in the hand of D. Tecwyn Lloyd (1914-1992) of 'Y Cythreuliaid', his adaptation of The Devils by John Whiting (1917-1963) [1961], for the Llangefni Drama Festival, 1965, together with a letter from him to the donor Anne Loveland, 11 October 1965.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn).

Y Ferch Dawel,

Papurau'n ymwneud ag addasiad teledu o nofel Marion Eames, Y Ferch Dawel, 1996, gan gynnwys drafftiau o'r sgript, amserlen ffilmio, sgript is-deitlau a nodiadau ar y prif gymeriadau. = Papers relating to the television adaptation of the novel, Y Ferch Dawel, 1996, by Marion Eames, including various drafts, a filming schedule, a subtitle script, and descriptions of the main characters.

Canlyniadau 3621 i 3640 o 3783