Showing 42 results

Archival description
With digital objects Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Dyddiadur D. Cynddelw Williams,

  • NLW ex 2789.
  • file
  • 1881-1943.

Dyddiadur y Parchedig D. Cynddelw Williams, a oedd yn enedigol o Aberystwyth, a gadwyd ganddo fel caplan i'r Fyddin yn Ffrainc, 12 Hydref 1914 - 6 Medi 1920. Ceir torion o'r wasg wedi eu pastio ar glawr blaen ac ôl y gyfrol yn ymwneud â'r Groes Filwrol a ddyfarnwyd iddo yn 1917 am ei ddewrder neilltuol wrth gyflawni'i ddyletswyddau ar faes y gad ac ysgrif goffa iddo, 1943. Ceir hefyd gytundeb prentisiaeth William Williams gyda Williams a Metcalfe, Aberystwyth, 11 Chwefror 1889; ei dystlythyrau a'i dystysgrifau dadlwytho fel morwr, 1895-8, a'i dystysgrif fel peiriannydd, 20 Ebrill 1897; a nodiadau mam y rhoddwr o bregethau a glywodd yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandudno. = A diary kept by Reverend D. Cynddelw Williams, originally from Aberystwyth, as chaplain to the Forces in France, 12 October 1914 - 6 September 1920. Press cuttings have been pasted on the front and back cover of the volume relating to awarding him the Military Cross in 1917 'for conspicuous gallantry and devotion to duty', and his obituary, 1943. Also included is an indenture of apprenticeship of William Williams to Messrs Williams and Metcalfe, Aberystwyth, 11 February 1889; testimonials and certificates of discharge, 1895-8, and his certificate as second engineer, 20 April 1897; and notes, taken by the donor's mother, of sermons preached at the Calvinistic Methodist Church, Llandudno.

Williams, David Cynddelw, 1870-1942.

Llythyrau : Rhyfel Byd Cyntaf,

  • NLW ex 2394.
  • file
  • 1917-1918.

Llythyrau, 1917-1918, oddi wrth Owen Thomas o'r Aifft a Phalesteina, ac oddi wrth ei frawd Tom o Ffrainc at eu brawd a'u chwaer ym Modorgan, Môn, pan oeddynt yn filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llyfr Melyn Tyfrydog

  • NLW MS 23969F.
  • File
  • 1763-1769

Cyfrol o achau, cerddi a nodion hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-1769), yn llaw Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), ac sy'n dwyn y teitl 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (t. xxv). Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40. = A volume of pedigrees, poems and antiquarian notes, dated 1766 (but compiled around 1763-1769), in the hand of Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), and entitled 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (p. xxv). Pedigrees of the descendants of the Fifteen Tribes of North Wales, mostly Anglesey families, fill the first part of the volume (pp. 1-91; the families are listed on pp. xxvii-xxix). The coloured arms of the family of Llwydiarth Esgob are appended to the pedigree of Hugh Hughes himself (p. 40).
Cynhwysa'r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol (t. 97 passim), trioedd a chynghorion (tt. 107-110, 116-119), ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg (t. xiii passim), rhai wedi eu copïo o 'Delyn Ledr' William Morris, Caergybi (bellach BL Add. MS 14873) (tt. xvi, 119), ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (t. 182). Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (t. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (t. 269), Hugh Hughes (tt. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (t. 235), a Goronwy Owen (t. 263). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol mewn dwylo diweddarach, hyd oddeutu 1858 (t. 50). Am restr o gynnwys y gyfrol, yn llaw Hugh Hughes, gweler t. xvii. = The volume also contains antiquarian notes (p. 97 passim), triads and wisdom (pp. 107-110, 116-119), together with a great number of Welsh poems (p. xiii passim), some copied from the 'Telyn Ledr' of William Morris of Holyhead (now BL Add. MS 14873) (pp. xvi, 119), and others from Evan Evans' Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (p. 182). Amongst contemporary poems in the manuscript are compositions by David Ellis (p. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (p. 269), Hugh Hughes (pp. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (p. 235), and Goronwy Owen (p. 263). Antiquarian notes of a later period were added to the manuscript, until c. 1858 (p. 50). For a list of the volume's contents, in the hand of Hugh Hughes, see p. xvii.

Hughes, Hugh, 1693-1776

Llyfr ysgrifennu ar ffurf dyddiadur y bu TGJ yn ei gadw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Awst 1914-Rhagfyr 1917) ...,

Llyfr ysgrifennu ar ffurf dyddiadur y bu TGJ yn ei gadw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Awst 1914-Rhagfyr 1917). Yr oedd wedi ysgrifennu'r teitl 'The Diary of a Pacifist' ond wedi'i ddileu. Ceir y pennawd 'War Fever' i'r cofnod cyntaf. Ym mis Gorffennaf 1934 ychwanegodd ragymadrodd. [gweler David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant, tt. 241-2]. Saesneg/English.

Mari Lwyd (xii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai gwyrdd (ff. 1-320) a ddefnyddiwyd gan Phyllis Kinney o bosibl ar gyfer ei chyhoeddiad Welsh Traditional Music (2011) yn trafod arferion Mari Lwyd, Hela'r Dryw, a chalennig. Mae’r penawdau wedi eu trefnu yn ôl gwlad (Irish, Manx, Shetland, Orkneys, Scotland, England, Wales) ac yn cynnwys y penawdau Cyfri’r geifr, Gŵyl Fair, Hela’r Dryw / Hunting the Wren, Shrove Tuesday, Tri thrawiad, Un o fy mrodyr i, Calennig, Mari Lwyd, a Compass of 3/4/5/6/7.

Llythyr oddi wrth Evan [Roberts] [brawd Kate Roberts], yn Rhosgadfan,

Newyddion am Cae'r Gors a'r ardal. Cyrhaeddodd hanner dwsin o luniau o fedd David ym Malta. Adroddir hanes sut y bu i fachgen dynnu'r lluniau a llunio llythyr ym Mai 1918. Gyda'r lluniau daeth llythyr oddi wrth fam y bachgen [gweler rhif 48 uchod] yn dweud iddi golli dau fab yn y rhyfel - un ym Malta pan oedd ar gychwyn adre a'r llall yng Nghairo. Dim ond wythnos yn ôl y cafodd yr eiddo personol yn ôl oddi wrth y Swyddfa Ryfel. Bu farw'r bachgen cyn anfon y lluniau. Mae'n amgau y ddau lythyr gan bod ei fam yn gofyn i KR i ateb y wraig a'u hanfonodd.

Llythyr oddi wrth J. R. T. [John Richard Williams, 'Tryfanwy'], ym Mhorthmadog,

Diolch am dâl am ysgrifennu cân goffa i David, brawd KR. Rhoi llais i hiraeth y teulu oedd ei ddymuniad, nid oedd yn disgwyl tâl. Mae'n amgau amrywiad ar y pennill olaf gan hyderu nad yw hi'n rhy hwyr o safbwynt yr argraffwyr. Mae'n falch o ddeall bod KR yn hapus yn Aberdâr. Cynhwysir englyn i KR ganddo ar gefn y llythyr. Cedwir fersiwn argraffedig o'r gerdd goffa yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau rhif 600. Cyhoeddwyd llun o'r gerdd ac ymdriniaeth â'r cefndir yn Dafydd Ifans, "Kate Roberts - Bardd?", Barddas 111/112 (Gorffennaf/Awst 1986), tt 17-18.

Results 1 to 20 of 42