Print preview Close

Showing 60064 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Westminster Bank LTD., (Rheolwr), Abertawe,

Agorwyd cyfrif yn 1927 yn enw'r 'Welsh Drama League'. Mae yna gredyd o £24-7-3 yn y cyfrif erbyn hyn. Deallir nad yw'r corff yn dal i weithredu. W. J. Gruffydd oedd y Cadeirydd. Nid yw cyfeiriad yr Ysgrifennydd ganddynt ac y mae'r Trysorydd wedi marw. Hoffent wybod beth i wneud â'r cyfrif.

Western Mail (William Davies), Caerdydd,

Diolch am ei lythyr. Mae'n ddrwg ganddo fod gan W. J. Gruffydd achos i gwyno am y driniaeth a gafodd gan y papur. Yr oedd wedi darllen cyfraniad y 'Junior Member' ond heb sylwi ar y frawddeg dramgwyddus. Y mae arno gywilydd am fod mor esgeulus. Ni ddigwydd hynny eto. Yr oedd yn 66 oed y Llun cynt ac y mae yn dechrau teimlo ei oed. Nid yw am golli mwy o gyfeillion er hynny.

Western Mail (J. A. Sandbrook), Caerdydd,

Esbonio bwriad y papur wrth geisio codi arian i hyrwyddo ymweliad y Gyngres Geltaidd â Chaerdydd. Enw da Cymru oedd yn y fantol. Byddai'n sarhad ar Gymru a Chaerdydd yn enwedig, pe byddid yn methu codi ychydig gannoedd er mwyn croesawu'r Gyngres yn unol â dymuniad y Cymmrodorion. Llwyddwyd i roi cystal croeso i Dywysog Cymru beth amser yng nghynt, ni ellid peidio â cheisio cynorthwyo'r Gyngres hefyd. Mae'r papur yn addo rhoi adroddiadau teilwng. Cafwyd papurau diddorol iawn yng nghynhadledd Bangor, 1927. Maent yn falch o glywed bod W. J. Gruffydd am eu cynorthwyo. Tybed a all W. J. Gruffydd ynghyd ag ysgolheigion amlwg eraill fel J. E. Lloyd, Ifor Williams, Henry Lewis, Lloyd Jones, Fleure, etc., gynorthwyo i wneud y cyfan yn llwyddiant?.

Western Mail (J. A. Sandbrook), Caerdydd,

Diolch i W. J. Gruffydd am ei erthygl ar Lenyddiaeth Cymru yn ystod teyrnasiad Siôr V. Ni chafodd gyfle i'w darllen eto ond mae'n sicr o fod yn wych a digonol. O.N. Newydd ddarllen yr erthygl. Y mae'n feistraidd. Hoffai petai W. J. Gruffydd yn ysgrifennu'n amlach i'r papur.

Western Mail (D. R. Prosser), Caerdydd,

Trafodwyd y posibilrwydd i W. J. Gruffydd ysgrifennu dwy erthygl i'r Western Mail ar Gymru a'r ymdrech ryfel. Bu'n holi yngl?n â'r cyngor ymgynghorol i Gymru. Nid yw'r canlyniadau yn addawol iawn. Cred yr aelodau seneddol mai eu gwaith hwy ydyw. Nid yw'r Llywodraeth yn debyg o drafod hyn oni bai fod yr aelodau seneddol yn cyflwyno'r mater. Gallai W. J. Gruffydd drefnu i gyfarfod â'r aelodau Cymreig yn dilyn ei erthyglau yn y papur.

Western Mail (D. G. Prosser), Caerdydd,

Mae'n ymddiheuro bod W. J. Gruffydd wedi cael ei gamddehongli yn y Western Mail unwaith eto. Mae'n awgrymu y gallai W. J. Gruffydd gynnig crynodebau o unrhyw ddeunydd o'r Llenor a allai fod o ddiddordeb i ddarllenwyr y Western Mail yn y dyfodol. Mae'n croesawu cyfraniadau gan W. J. Gruffydd am ei fod yn gefnogol i'r rhyfel. Rhaid i bobl Cymru weld yn glir fod yn rhaid iddi gefnogi'r rhyfel er ei lles ei hunan. Awgrymu y dylai W. J. Gruffydd gyfieithu ei erthygl i'r Saesneg a'i chyhoeddi yn The Round Table. Awgrymu dwy neu dair erthygl o ryw fil o eiriau.

Results 3321 to 3340 of 60064