Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Y Pren afalau,

Copïau o sgôr (anodedig) o 'Y Pren afalau', ar gyfer unawd, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan I. D. Hooson. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y Soprano, Jean Gwynn, Nantglyn.

Y Pentan

Papurau'n ymwneud â grŵp trafod Y Pentan yn ardal Dyffryn Ogwen, gan gynnwys nifer o gerddi a luniodd ar gyfer eisteddfodau'r Pentan, 1958-1997, a cherddi sydd wedi'u cynnwys yn ei gyfrol O’r niwl a’r anialwch lle cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi caeth a rhydd]. Bu'n ysgrifennydd Y Pentan a cheir rhaglenni ar gyfer 1993-94 a 2012-2013.

Y Pasg foreddydd llon,

Sgôr mewn llawysgrif 'Y Pasg foreddydd llon', trefniant Gilmor Griffiths o'r carol Is-Almaeneg, cyfieithiad gan James Arnold Jones.

'Y parc llafur'

Amlen wreiddiol yn cynnwys drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Y parc llafur (= Y cae yd)' gan Dr T. J. Jenkin, ynghyd â drafft o 'Y Twrci' gan T. Ifor Rees.

Y Môr mawr,

Sgôr mewn llawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths geiriau gan Leslie Harries. Unsain gyda chyfeiliant.

Y Llyfrgell Brydeinig

Papurau a gohebiaeth, 1981-1982, yn ymwneud â chais y Ganolfan am grant i Adran Ymchwil a Datblygiad y Llyfrgell Brydeinig am y prosiect ymchwil arfaethedig ‘The Information Needs of Celtic Scholars’, yn cynnwys copi o’r cais (1981); copi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1980-1981 (1981); nodiadau ([1981]); a llythyrau cysylltiedig yn trafod y cais, 1981-1982, oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; R.C. Snelling; ac M. O’Hare.

Y Gynghanedd Yfory

Nodiadau a baratowyd ar gyfer darlith dosbarth nos gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl Y Gynghanedd Yfory.

Y gyfrol

Adysgrifau o gywyddau, limrigau, englynion, sonedau ac adroddiadau Adar Tydfor gan Ann Tydfor, teipysgrif wedi'i chywiro, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r gyfrol oddi wrth Wasg Gomer yn 1993.

Canlyniadau 41 i 60 o 1388