Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Undeb Cymru Fydd ac Urdd Gobaith Cymru,

Deunydd yn ymwneud ag Undeb Cymru Fydd, yn arbennig Adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy, 1941-9, gan gynnwys gohebiaeth, cyfrifon, cofnodion cyfarfodydd, rhestri aelodau a chyfraniadau, etc. Calendrau U.C.F., 1949-65, ynghyd â gohebiaeth, 1945, ynglyn â chalendr 1946. Urdd Gobaith Cymru: deunydd yn ymwneud ag Aelwyd yr Urdd, Llandudno, gan gynnwys mantolenni, 1942-50; cofnodion, cyfrifon, etc., yn gysylltiedig â gwaith y Pwyllgor Cyllid, 1942-4; gohebiaeth a phapurau eraill, 1941-9, ynglyn â grantiau i'r Aelwyd; a biliau, derbynebau, etc., 1942-50.

Undeb Cymru Fydd

Cofnodion, gohebiaeth a phapurau amrywiol, 1942-1945, perthynol i Undeb Cymru Fydd, a chysylltiad Elizabeth Williams â'r Undeb. Yn eu plith ceir nodiadau a darlith ar yr Undeb yn llaw G. J. Williams. Ceir hefyd ychydig bapurau, 1957 ac 1963, yn ymwneud ag ymgyrchoedd Cwm Tryweryn a Chlywedog; gohebiaeth, 1967-1969, yn ymwneud â chyflwr capel Bethesda'r Fro; llythyrau, 1972-1974, at Elizabeth Williams yn ymwneud â Chymdeithas Tai Gwynedd; a llyfr ysgrifennu, 1931-1935, yn cynnwys 'Adroddiad o waith Merched Gwaelod-y-Garth yn ystod diweithdra y tri-degau', yn cwiltio, nyddu, gweu, etc.

Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru,

A notebook containing a draft of a presidential address delivered by William W. Jones (Cyrus) to the North Wales Quarrymen's Union, 1901.

Jones, William W., d. 1903.

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Llyfr cofnodion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru-Cangen Colegau Caerdydd a’r Cylch, 1965-66. R. Elwyn Hughes oedd Ysgrifennydd Mygedol y gangen, ynghyd â rhestr aelodaeth UCAC, 1967.

'Uncle O',

Dinorwig. Dweud beth sydd ar garreg fedd 'Glan Padarn' a'i wraig Mary. Manylion amdano. Bu farw Mary yn 1878 yn 28 oed ac yna priododd ei chwaer. Bu iddo ddau fab. Disgrifiad corfforol ohono. Bu mewn ysgol yn Nulyn a Rhuthun. Bu'n gweithio am gyfnod byr ym Mhenbedw. Aeth yn aberth i 'nychdod' yn gynnar iawn. Roedd llais tenor swynol ganddo. Cadwai ei freichiau yn syth i lawr pan âi i hwyl. Dywedodd 'Llew Llwyfo' lawer gwaith mai'r tri bardd mwyaf canadwy oedd 'Ceiriog', 'Mynyddog' a 'Glan Padarn'. Arferai gyfansoddi alawon i'w siwtio ei hun o ran llais. Nid yw'r alawon hyn wedi eu cyhoeddi. Sgets o'r garreg fedd.

Results 3281 to 3300 of 45762