Showing 160 results

Archival description
Papurau Waldo Williams File
Print preview View:

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth William Price Jones

Llungopi o lythyr, 16 Hydref 1975, at Dilys Williams oddi wrth ei hewythr, William Price Jones (brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones)), yn diolch iddi am ei chydymdeimlad wedi marwolaeth gwraig William Price Jones (gweler William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Etholiad Cyffredinol 1979

Deunydd yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1979 a anfonwyd at Dilys Williams, gan gynnwys pamffledi ymgeiswyr Plaid Cymru, y Blaid Ecoleg (bellach y Blaid Werdd) a'r Ceidwadwyr a thocyn mynediad Dilys Williams i Neuadd y Farchnad Hwlffordd, lle cyfrifwyd y pleidleisiau; ynghyd â phamffledyn yn datgan cefnogaeth i'r ymgyrch etholiadol ar gyfer Cynulliad i Gymru, pan fwriwyd y pleisleisiau ar y cyntaf o Fawrth 1979.

Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw

Llythyr, 20 Mawrth 1985, at Dilys Williams oddi wrth 'Elias', Bont Faen, Llangernyw (bellach yng Nghonwy), yn cynnwys copi yn llaw 'Elias' o 'Angharad', sef cywydd coffa Waldo Williams, brawd Dilys, i'w fam, Angharad Williams (née Jones), ynghyd â thrafodaeth yn ei gylch. Cyfeirir at Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) ac at 'David', o bosib David Williams, nai Dilys.

Llythyr, 10 Ebrill 1985, at Dilys Williams oddi wrth 'Elias'. Cyfeirir at lythyr a dderbyniodd yr anfonydd oddi wrth Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) yn trafod y cywydd coffa i Angharad Williams (née Jones) a gyfansoddwyd gan Waldo Williams, brawd Dilys, i'w fam. Ceir cyfeiriad at 'David Williams', o bosib nai Dilys (mab ei brawd, Roger), a chyfeiriad at ymgyrch eisteddfodol leol i godi arian tuag at atgyweirio Cwm, sef hen gartref teuluol John Jones, tad Angharad Williams (a thaid Dilys), ar gyrion pentref Llangernyw.

Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth yr Academi Gymreig

Llythyr, 2 Ionawr 1985, at Dilys Williams oddi wrth Helen Prosser o'r Academi Gymreig yn trafod derbyn eitemau oedd yn gysylltiedig â Waldo Williams, brawd Dilys.

Llythyr, 7 Chwefror 1986, at Dilys Williams oddi wrth Emyr Williams a Ruth Myfanwy o'r Academi Gymreig yn trafod eitemau oedd yn gysylltiedig â Waldo Williams, brawd Dilys, ar gyfer arddangosfa fel rhan o Ŵyl Waldo ym 1986.

Llythyr, 22 Ebrill 1986, at Dilys Williams oddi wrth Ann Ffrancon o'r Academi Gymreig, yn trafod arddangosfa fel rhan o Ŵyl Waldo 1986.

Llythyr oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens

Llythyr drafft, 19 Ionawr 1974, oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens, oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn trafod manylion poster a fyddai'n dwyn geiriau'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams, brawd Dilys. 'Roedd 'Cofio' yn un o gyfres o bosteri a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a oedd yn arddangos cerddi Cymraeg yn erbyn cefndiroedd darluniadol o waith yr arlunydd Sue Shields.

I'r Hafod

Llungopi o'r gerdd I'r Hafod gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law.

Cerddi/Beth Yw Cynghanedd?

Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.

Almaenes

Llungopi o'r gerdd Almaenes gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 24 Ebrill 1946 o'r Faner.

Ffair Ceffylau Bach

Toriad papur newydd yn adrodd fel yr ennillodd Waldo Williams gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod y Tabernacl, Clunderwen, Mai 1931, gyda'i gynnig 'Ffair Ceffylau Bach'. Crybwyllir hefyd lwyddiant diweddar Waldo yng nghystadleuaeth stori fer y cyfnodolyn Y Ford Gron.

Awen Euros ac Awen Pennar

Adolygiad Waldo Williams o Cerddi Rhydd gan Euros Bowen (Gwasg y Brython, 1961) a Yr Efrydd o Lyn Cynon, a Cherddi Eraill gan Pennar Davies (Gwasg y Dryw, 1961) a dynnwyd o ffynhonell brintiedig.

Nodiadau prifysgol Waldo Williams

Llyfrau nodiadau yn llaw Waldo Williams a ddefnyddwyd ganddo tra bu'n astudio yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg ym 1926. Cynhwysa'r cyfrolau yn bennaf nodiadau ar weithiau Shakespeare ac ar lenyddiaeth Llychlynaidd.

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif; Hywel Dda

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams sy'n cynnwys nodiadau a gymerwyd o Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928); nodiadau ar Hywel Dda (c. 880-950); nodiadau ar hanes economaidd a gwleidyddol; a mân nodiadau eraill.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones

Llythyr, 4 Mai 1960, at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones yn amgau barddoniaeth yng Nghymraeg a Saesneg gan D .T. Jones, o bosib ei gŵr, rhai o'r cerddi mewn teipysgrif a rhai ohonynt wedi'u copïo yn llaw Brenda Jones; hefyd, copïau teipysgrif o farddoniaeth gan Esther Phillips.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones

Llungopïau o lythyrau, 6 Mawrth [1967], 19 Mawrth [1967], 30 Hydref [1967], 18 Awst 1970, 18 Mai 1971, at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones, un o gyd-athrawon a chyfaill Waldo yn Ysgol Ramadeg Botwnnog. Ynddynt, ceir cyfeiriadau at Dilys Williams a Mary Francis (née Williams), chwiorydd Waldo, ynghyd â thrafodaeth o Yr Heniaith, un o gerddi Waldo. Cynigiodd Waldo eglurhad o'r gerdd mewn llythyr nas cynhwysir yma ond a ddyddiwyd 16 Mawrth 1967 ac a anfonwyd oddi wrth Waldo at Anna Wyn Jones rhwng ei hymholiadau yn ei llythyr dyddiedig 6 Mawrth [1967] a'i hymateb i'w eglurhad yn ei llythyr dyddiedig 19 Mawrth [1967] (gweler nodyn isod). Ysgrifennwyd y ddau lythyr dyddiedig 18 Awst 1970 a 18 Mai 1971 at Waldo pan oedd dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd; dyddir y llythyr olaf ddeuddydd cyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971.

Teyrngedau i Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn dwyn teyrngedau i Waldo Williams yn dilyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971, gan gynnwys teyrngedau ar ffurf barddoniaeth gan ei gyfeillion Euros Bowen a W. R. (William Rees) Evans.

Waldo's Witness

Rhaglen brintiedig ar gyfer y ddrama Waldo's Witness gan y bardd a'r llenor Nigel Jenkins a lwyfanwyd gan Gwmni Theatr Coracle.

Results 81 to 100 of 160