Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Llythyr at John Edwal Williams oddi wrth Thomas Rees

Llythyr, 29 Ebrill 1916, at John Edwal Williams oddi wrth Thomas Rees, prifathro Coleg Bala-Bangor, Bangor, sy'n sôn am ymdrechion i gefnogi a chynorthwyo un 'Mr Jenkins', gwrthwynebydd cydwybodol ac aelod o'r Frawdoliaeth yn erbyn Gorfodaeth Filwrol (y No-Conscription Fellowship).

Araith wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Brynconin

Llungopi o dudalennau llyfr nodiadau yn cynnwys araith yn llaw John Edwal Williams wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Gynradd Brynconin, Mynachlog-ddu oedd yn mynd ymlaen i Ysgol Sir Arberth ym mis Medi 1917. Yr oedd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin ar y pryd. Ar gefn y ddalen olaf ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), sy'n darllen 'Oedd llety personol i bob un o blant ysgol Blaen [sic - am Brynconin] oedd yn mynd ml'an i ysgol Arberth'; ynghyd â llungopi o'r araith fel yr ymddangosodd yn The Baptist Record.

Erthyglau i'r wasg gan John Edwal Williams

Llungopïau o erthyglau gan John Edwal Williams a gyhoeddwyd yn y Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn ystod y 1920au, yn bennaf dan y ffugenw 'John Dewsland', ynghyd â llythyr i'r wasg yn ymateb i'r erthyglau.

Cyfrifiadau

Allbrintiadau o gyfrifiadau 1871 a 1891 yn dangos manylion teulu David (Dafydd neu Dafi) a Martha Williams, rhieni John Edwal Williams. Erbyn cyfrifiad 1891 'roedd John Edwal wedi gadael cartref ac ni chynhwysir ei enw ar y cyfrifiad.

Syr Henry Jones

Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware (am Jean Ware, gweler Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Erthygl a llun wedi'u llungopïo yn ymwneud ag Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw, Conwy. Addaswyd Cwm, cartref teuluol Syr Henry Jones, yn amgueddfa er mwyn olrhain ei fywyd a'i waith cyntaf fel prentis i'w dad Elias Jones, a oedd yn grydd wrth ei alwedigaeth. Ceir arysgrif [yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr erthygl, sy'n cynnwys cyfeiriad at Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones).

Llungopi o erthygl am Syr Henry Jones a ymddangosodd yn Y Glannau, papur bro ardal Y Rhyl a'r cylch, gwaelod Dyffryn Clwyd a Llanelwy, Sir Ddinbych. Sonnir am rai aelodau o deulu Angharad, a hefyd am y cywydd coffa ysgrifennodd ei mab, Waldo Williaims, iddi (am y cywydd coffa, gweler hefyd Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw a Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt, ill dau dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams). Cynhwysir y cywydd coffa 'Angharad' yn Dail Pren (1956), unig gyfrol farddoniaeth gyhoeddiedig Waldo Williams.

Rhaglen ddigwyddiadau i ddathlu Ail-Agor Amgueddfa'r Cwm a lansio'r gyfrol Yr Athro Alltud dan nawdd Ymddiriedolaeth Cofeb Syr Henry Jones.

Gohebiaeth at Dilys Williams

Gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Dilys Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau teuluol a chyfeillion, yn ogystal â chan sefydliadau megis aelodau pwyllgor Gŵyl y Sir, Abergwaun (1957), a'r Academi Gymreig yn eu paratoadau ar gyfer Gŵyl Waldo (1986).

Gŵyl y Sir, Abergwaun, 1957

Llyfr nodiadau, y rhan helaethaf ohono yn llaw Dilys Williams, gyda'r nodyn canlynol ar y clawr: 'Is-bwyllgor. Trefnu Rhaglen Cyngerdd yr Adrannau Gwyl [sic] Sir. 1957', sef cyngerdd Adrannau'r Urdd a oedd i'w gynnal 4 Gorffennaf 1957 yn ystod Gŵyl y Sir yn Abergwaun. Mae'r gyfrol yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr is-bwyllgor wrth drafod a threfnu'r cyngerdd, a oedd i gynnwys datganiadau o'r awdl Tŷ Ddewi gan Waldo Williams, brawd Dilys, a'r gân 'Molawd Penfro' (geiriau Waldo Williams, cerddoriaeth Gerallt Evans). Yn nhu blaen y gyfrol ceir nodyn, dyddiedig 5 Mehefin 1957, oddi wrth Tom Lewis o Ysgol Gynradd Mynachlogddu at Dilys Williams. Ymddengys mai Dilys Williams oedd ysgrifennyddes yr is-bwyllgor. Ceir hefyd gohebiaeth at Dilys Williams ynglŷn â threfniadau cystadlu Aelwyd Abergwaun ar gyfer yr Ŵyl.

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth William Price Jones

Llungopi o lythyr, 16 Hydref 1975, at Dilys Williams oddi wrth ei hewythr, William Price Jones (brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones)), yn diolch iddi am ei chydymdeimlad wedi marwolaeth gwraig William Price Jones (gweler William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Etholiad Cyffredinol 1979

Deunydd yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1979 a anfonwyd at Dilys Williams, gan gynnwys pamffledi ymgeiswyr Plaid Cymru, y Blaid Ecoleg (bellach y Blaid Werdd) a'r Ceidwadwyr a thocyn mynediad Dilys Williams i Neuadd y Farchnad Hwlffordd, lle cyfrifwyd y pleidleisiau; ynghyd â phamffledyn yn datgan cefnogaeth i'r ymgyrch etholiadol ar gyfer Cynulliad i Gymru, pan fwriwyd y pleisleisiau ar y cyntaf o Fawrth 1979.

Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw

Llythyr, 20 Mawrth 1985, at Dilys Williams oddi wrth 'Elias', Bont Faen, Llangernyw (bellach yng Nghonwy), yn cynnwys copi yn llaw 'Elias' o 'Angharad', sef cywydd coffa Waldo Williams, brawd Dilys, i'w fam, Angharad Williams (née Jones), ynghyd â thrafodaeth yn ei gylch. Cyfeirir at Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) ac at 'David', o bosib David Williams, nai Dilys.

Llythyr, 10 Ebrill 1985, at Dilys Williams oddi wrth 'Elias'. Cyfeirir at lythyr a dderbyniodd yr anfonydd oddi wrth Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) yn trafod y cywydd coffa i Angharad Williams (née Jones) a gyfansoddwyd gan Waldo Williams, brawd Dilys, i'w fam. Ceir cyfeiriad at 'David Williams', o bosib nai Dilys (mab ei brawd, Roger), a chyfeiriad at ymgyrch eisteddfodol leol i godi arian tuag at atgyweirio Cwm, sef hen gartref teuluol John Jones, tad Angharad Williams (a thaid Dilys), ar gyrion pentref Llangernyw.

Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth yr Academi Gymreig

Llythyr, 2 Ionawr 1985, at Dilys Williams oddi wrth Helen Prosser o'r Academi Gymreig yn trafod derbyn eitemau oedd yn gysylltiedig â Waldo Williams, brawd Dilys.

Llythyr, 7 Chwefror 1986, at Dilys Williams oddi wrth Emyr Williams a Ruth Myfanwy o'r Academi Gymreig yn trafod eitemau oedd yn gysylltiedig â Waldo Williams, brawd Dilys, ar gyfer arddangosfa fel rhan o Ŵyl Waldo ym 1986.

Llythyr, 22 Ebrill 1986, at Dilys Williams oddi wrth Ann Ffrancon o'r Academi Gymreig, yn trafod arddangosfa fel rhan o Ŵyl Waldo 1986.

Llythyr oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens

Llythyr drafft, 19 Ionawr 1974, oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens, oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn trafod manylion poster a fyddai'n dwyn geiriau'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams, brawd Dilys. 'Roedd 'Cofio' yn un o gyfres o bosteri a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a oedd yn arddangos cerddi Cymraeg yn erbyn cefndiroedd darluniadol o waith yr arlunydd Sue Shields.

Deunydd amrywiol gan neu ym meddiant Dilys Williams

Deunydd ym meddiant Dilys Williams, yn bennaf o ddiddordeb llenyddol neu leol, gan gynnwys Llyfr trysorydd Urdd Gobaith Cymru cylch Abergwaun, llyfr cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, a llyfrau nodiadau yn llaw Dilys Williams yn cynnwys yn bennaf gwybodaeth o natur lenyddol.

The Hound of Heaven

Cyfrol yn cynnwys cerdd Francis Thompson (1859-1907) 'The Hound of Heaven', gyda llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams') ar yr wyneb-ddalen. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf ym 1893 yng nghyfrol farddoniaeth gyntaf Thompson.

Llyfr y Trysorydd, Urdd Gobaith Cymru Cylch Abergwaun

Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon trysorydd Urdd Gobaith Cymru Cylch Abergwaun. Yn rhydd yn y gyfrol ceir nodyn, 13 Mawrth 1943, at Dilys Williams oddi wrth H[ilda] M. Martin, trysorydd y Cylch am y blynyddoedd 1930-1933, 1934-, mantolen yn dangos manylion cyfrifon Urdd Gobaith Cymru Cylch Abergwaun am y flwyddyn 1954, a llythyr, 27 Tachwedd 1957, at Dilys Williams oddi wrth Wynford Davies, Cyfarwyddwr Addysg Sir Benfro, ynghylch Eisteddfod yr Urdd 1957 (gweler Gŵyl y Sir, Abergwaun, 1957 dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Atgofion am Gwladys Llewellyn

Atgofion ar ffurf drafft am Gwladys Mary Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen, Sir Benfro [yn llaw 'Dai', sef David Williams] (gw. Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 359). Am Gwladys Llewellyn, gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams; gweler hefyd y nodyn amdani isod.

Results 81 to 100 of 210