Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1974 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 amlen
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Llythyr drafft, 19 Ionawr 1974, oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens, oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn trafod manylion poster a fyddai'n dwyn geiriau'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams, brawd Dilys. 'Roedd 'Cofio' yn un o gyfres o bosteri a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a oedd yn arddangos cerddi Cymraeg yn erbyn cefndiroedd darluniadol o waith yr arlunydd Sue Shields.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Ganed y golygydd llenyddol, gohebydd, cyfieithydd a bardd Meic Stephens yn Nhrefforest, Sir Forgannwg a'i addysgu ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Rennes yn Llydaw. O 1962 hyd 1966 bu'n athro Ffrangeg yng Nglynebwy. Sefydlodd Wasg Triskel yn Merthyr Tydfil ac, ym 1965, y cyfnodolyn Poetry Wales. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Llenyddol Cyngor y Celfyddydau o 1967 hyd 1990. Ym 1994, ymunodd รข staff Prifysgol Morgannwg, lle, ymhen ychydig flynyddoedd, fe'i penodwyd yn Athro mewn Eingl-Gymraeg, swydd a ddaliodd hyd 2005. Dysgodd Gymraeg yn oedolyn ac 'roedd yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru.
Mae'r darlunydd Sue Shields yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Bu'n ddarlithydd yng ngholegau celf Casnewydd a Chaerdydd. Yn y 70au, fe'i comisiynwyd i greu delweddau ar gyfer cyfres o bosteri barddoniaeth a gyhoeddwyd gan Gyngor y Celfyddydau. Mae ei gwaith darluniadol wedi cynnwys posteri, cloriau recordiau, hysbysebion, llyfrau a thecstiliau.
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Shields, Sue (Subject)
- Stephens, Meic (Subject)