Showing 160 results

Archival description
Papurau Waldo Williams File Welsh
Print preview View:

Tua'r Gogledd

Cerdd, yn ôl pob golwg gan Waldo Williams, mewn teipysgrif yn dwyn y teitl Tua'r Gogledd. Yn ôl nodyn ynghlwm wrth y gerdd, fe'i chyhoeddwyd yn rhifyn Awst 1950 o'r cyfnodolyn Taliesin.

Tri Emynydd

Copi teipysgrif o ysgrif gan Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Tri Emynydd', un o gyfres Gwŷr llên y ddeunawfed ganrif a'u cefndir.

Torion papur newydd

Amrywiol dorion papur newydd, yn bennaf o ddiddordeb gwleidyddol, llenyddol, lleol neu genedlaethol, gan gynnwys deunydd o'r papurau newydd sosialaidd y Labour Leader a'r British Weekly.

The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas

Copïau o gyfnodolion fu ym meddiant John Edwal Williams, sef The Welsh Outlook, 1912, 1915, 1917, 1927, 1928, 1931, 1932, Y Geninen, 1912, 1917, a rhifyn olaf papur newydd Y Deyrnas, Tachwedd 1919. Ar frig tri o'r Welsh Outlook ceir yr arysgrifau 'JEW', 'J Edwal Williams' a 'Mr Williams Brynconin Sch[ool] Clynderwen'. Ar frig hysbyseb di-ddyddiad, o bosib wedi'i dynnu allan o ffynhonell brintiedig, ceir nodyn [yn llaw John Edwal Williams] sy'n crybwyll enwau'r bardd a'r llenor [Walt] Whitman a'r bardd a'r athronydd Edward Carpenter, dau o arwyr John Edwal.

The Old Farmhouse

Eitem o bapur newydd y Western Mail yn cynnwys rhan o gyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (1953), cyfrol hunangofiannol y bardd a'r llenor D. J. Williams. Cyhoeddwyd y cyfieithiad dan y teitl The Old Farmhouse ym 1961.

The Hound of Heaven

Cyfrol yn cynnwys cerdd Francis Thompson (1859-1907) 'The Hound of Heaven', gyda llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams') ar yr wyneb-ddalen. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf ym 1893 yng nghyfrol farddoniaeth gyntaf Thompson.

Teyrngedau i Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn dwyn teyrngedau i Waldo Williams yn dilyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971, gan gynnwys teyrngedau ar ffurf barddoniaeth gan ei gyfeillion Euros Bowen a W. R. (William Rees) Evans.

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams, 24 Mai 1971, sy'n cynnwys teyrnged gan gyfaill Waldo, y bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, emyn o waith Waldo ei hunan, ac egwyl o ddistawrwydd yn ôl arferiad y Crynwyr. Bu farw Waldo ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu gyda'i wraig Linda a'i rieni ym mynwent Capel y Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, lle priodwyd Waldo a Linda ychydig dros ddeg mlynedd ar hugain ynghynt.

Syr Henry Jones

Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware (am Jean Ware, gweler Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Erthygl a llun wedi'u llungopïo yn ymwneud ag Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw, Conwy. Addaswyd Cwm, cartref teuluol Syr Henry Jones, yn amgueddfa er mwyn olrhain ei fywyd a'i waith cyntaf fel prentis i'w dad Elias Jones, a oedd yn grydd wrth ei alwedigaeth. Ceir arysgrif [yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr erthygl, sy'n cynnwys cyfeiriad at Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones).

Llungopi o erthygl am Syr Henry Jones a ymddangosodd yn Y Glannau, papur bro ardal Y Rhyl a'r cylch, gwaelod Dyffryn Clwyd a Llanelwy, Sir Ddinbych. Sonnir am rai aelodau o deulu Angharad, a hefyd am y cywydd coffa ysgrifennodd ei mab, Waldo Williaims, iddi (am y cywydd coffa, gweler hefyd Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw a Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt, ill dau dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams). Cynhwysir y cywydd coffa 'Angharad' yn Dail Pren (1956), unig gyfrol farddoniaeth gyhoeddiedig Waldo Williams.

Rhaglen ddigwyddiadau i ddathlu Ail-Agor Amgueddfa'r Cwm a lansio'r gyfrol Yr Athro Alltud dan nawdd Ymddiriedolaeth Cofeb Syr Henry Jones.

Statement

Llungopi o ddatganiad Waldo Williams yn erbyn rhyfel a wnaeth gerbron tribiwnlys Caerfyrddin ar 12fed o Chwefror 1942.

Soned i Bedlar

Copi o rifyn Mawrth 1931 o bapur Y Ford Gron, sy'n cynnwys y gerdd Soned i Bedlar gan Waldo Williams; a thoriad papur newydd (yn bur debyg, rhifyn Mai 1932 o The Welsh Outlook) yn cynnwys cyfieithiad o'r gerdd gan Wil Ifan (y gweinidog Annibynnol, bardd a llenor William Evans (1883-1968)).

Seintiau Celtaidd

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar seintiau Celtaidd, enghreifftiau o linellau cynghanedd a bras nodiadau eraill.

Plentyn y Ddaear

Llungopi o'r gerdd Plentyn y Ddaear gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 17 Mai 1939 o'r Faner.

Papurau newydd

Copïau o rifynnau 3 a 17 Hydref 1969 o Seren Cymru, wythnosolyn y Bedyddwyr Cymraeg.

Rhifyn 11 Awst 1950 o bapur newydd Y Cymro.

Pamffledi sosialaidd

Pamffledi a llyfrynnau ym meddiant John Edwal Williams yn ymwneud yn bennaf â sosialaeth a Theosoffiaeth, gan gynnwys deunydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Ffabiaidd gan yr athronydd a'r llenor Thomas Carlyle a'r dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd George Bernard Shaw ac eraill; yn ogystal â deunydd sy'n dyddio o'r 1940au, wedi marwolaeth John Edwal Williams. Arysgrifir llofnod John Edwal ar ambell ddalen. Cyhoeddwyd y deunydd ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau.

Paham yr wyf yn Grynwr

Pamffledyn printiedig yn dwyn y teitl Paham yr wyf yn Grynwr gan Waldo Williams. Darlledwyd y cynnwys yn wreiddiol mewn sgwrs radio ar y 15fed o Orffennaf 1956 ac yna ei gyhoeddi ym mhapur newydd Seren Cymru ar 25 o Fehefin 1971. Ymunodd Waldo Williams â'r Crynwyr yn ystod y 1950au, gan fynychu eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau.

Oes y Seintiau/Molawd Penfro

Copïau teipysgrif o dair cerdd gan Waldo Williams dan y teitl Oes y Seintiau, sef 'Cân I' a 'Chân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman', ynghyd â sgôr gerddorol mewn llawysgrif ar gyfer deulais a phiano yn dwyn y teitl 'Molawd Penfro', y geiriau gan Waldo a'r gosodiad cerddorol gan Gerallt Evans. Lluniodd Waldo 'Cân I', 'Cân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman' ar gyfer 'Molawd Penfro', sef pasiant adrannau ac aelwydydd yr Urdd Sir Benfro a oedd i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abergwaun 1951.

Results 21 to 40 of 160