Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1980-1993 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-fonds
Maint a chyfrwng
9 ffolder a 4 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae’r grŵp yn cynnwys papurau yn ymwneud â chyfraniadau i gyhoeddiadau, a gwaith ymchwil gan staff y Ganolfan ac academyddion eraill, 1980-1993.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl pwnc mewn tair cyfres: Cyfraniadau i gyhoeddiadau; Papurau Martin Cleary; ac Adroddiad Archeolegol y Lasynys Fawr.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Almaeneg
- Cymraeg
- Lladin
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg yn bennaf; gyda rywfaint o Almaeneg a Lladin.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Cyhoeddwyd rhai o'r gwaith yn y grŵp hwn fel y canlynol: C1/3: 'Where was "Rhaedr Derwennydd" (Canu Aneirin line 1114)?' mewn 'Celtic Language, Celtic Culture: a festschrift for Eric P. Hamp', (Van Nuys, California: Ford & Bailie, 1990), pp.261-266; a C1/5: ‘The Strathcarron interpolation (Canu Aneirin, Lines 966-71)', mewn 'A Festschrift for Professor D.S. Thomson', Scottish Gaelic Studies 17 (1996), 172-178.