Showing 2060 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

Papurau R. Elwyn Hughes

  • GB 0210 RELWES
  • Fonds
  • [1660]-2012 (gyda bylchau)

Papurau’r biocemegydd, yr ymgyrchydd iaith, a’r hanesydd gwyddoniaeth R. Elwyn Hughes, [1660]-2012, yn cynnwys papurau’n ymwneud â’i ymchwil gwyddonol ac ar gyfer cyhoeddiadau ar hanes gwyddoniaeth, ynghyd â gohebiaeth. = Papers of R. Elwyn Hughes, biochemist, language campaigner and science historian, [1660]-2012, including papers relating to his scientific research and to publications on the history of science, together with correspondence.

Hughes, R. Elwyn (Richard Elwyn), 1928-

Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • GB 0210 UWCHEFRYD
  • Fonds
  • [1921x1930], a 1970-2017

Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Papurau Gwilym R. Jones

  • GB 0210 GWMRES
  • Fonds
  • [1930]-[2001]

Papurau Gwilym R. Jones, [1930]-[2001] yn cynnwys cerddi, sgriptiau, straeon byrion, darlithiau, a phapurau yn ymwneud â’i gyfnod yn olygydd Y Faner. = Papers of the poet and journalist Gwilym R. Jones, 1930-[2001], including poems, scripts, short stories, lectures, and papers relating to his work as editor of Y Faner.

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1903-1993

Cofnodion Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig Gymreig Cyf.

  • GB 0210 CWMLAN
  • Fonds
  • 1923-1960

Memorandwm ac Erthyglau'r Cwmni, 1923; cofnodion a phapurau gweinyddol eraill,1923-1960; papurau ariannol, 1946-1960; llyfrau llythyrau a gohebiaeth, 1945-1960; papurau personol a gohebiaeth T.I.Ellis,1944-1960; papurau personol J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; a phapurau yn ymwneud â materion yr Eglwys yng Nghymru. = Memorandum and Articles of Association, 1923; minutes and other administrative papers, 1923-1960; financial papers, 1946-1960; letter books and correspondence, 1945-1960; personal papers and correspondence of T. I. Ellis, 1944-1960; personal papers of J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; and papers relating to Church in Wales matters, 1944-1956.

Llan and Welsh Church Press Company.

Griffith John (Glyn Richards) Papers

  • GB 0210 GRIOHN
  • Fonds
  • 1848-1965

Papers, 1868-1965, of the Reverend Griffith John who served as a missionary in China, including his journal, 1855-1870, letters sent by him to his family, 1886-1907, together with letters, 1961-1965, relating to his commemorative garden in Swansea.

John, Griffith, 1831-1912

Papurau Thomas Gwynn Jones

  • GB 0210 TGWYNNJON
  • Fonds
  • 1621-1985 (crynhowyd 1871-1985)

Papurau T. Gwynn Jones, 1871-1949, yn cynnwys: gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiaeth eang o ffigurau llenyddol ac academaidd; cerddi a phapurau llenyddol eraill, yn cynnwys adysgrifau ac arnodiadau gan T. Gwynn Jones o waith gan awduron canoloesol a modern, a deunydd, [17 gan.]-[20 gan.], a gasglwyd ganddo neu a roddwyd iddo; papurau academaidd, yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei lyfrau ac erthyglau, cofiannau a mynegeion i'w waith ei hun a gwaith pobl eraill, a nodiadau bywgraffyddol ar lawer o ffigurau llenyddol; cyfieithiadau; darlithoedd ac anerchiadau, yn cynnwys nodiadau; sgriptiau radio; adolygiadau llyfrau; gwahanlithiau; torion o'r wasg; dramâu, beirniadaethau eisteddfodol, deunydd yn ymwneud â'i Dysteb yn 1944; llongyfarchiadau ar ei CBE yn 1937; a dyddiaduron, 1927-1947, a phersonalia arall; ceir hefyd papurau teuluol, 1621-1871, gan gynnwys gohebiaeth, dau Feibl teuluol, a llythyrau, 1949-1985, at deulu Jones, yn ymwneud yn enwedig â'i fywyd a'i waith, a chofiannau iddo. = Papers of T. Gwynn Jones, 1871-1949, comprising: correspondence, including letters from a wide variety of literary and academic figures; poems and other literary papers, including transcripts and annotations by T. Gwynn Jones of works by medieval and modern authors, and material, [17 cent.]-[20 cent.], collected by him or given to him; academic papers, including notes for his books and articles, bibliographies and indexes for his own and other works, and biographical notes on many literary figures; translations; lectures and addresses, including notes; radio scripts; book reviews; offprints; press cuttings; plays; eisteddfod adjudications; material relating to his Testimonial in 1944; congratulations on his CBE in 1937; and diaries, 1927-1947, and other personalia; also included are family papers, 1621-1871, including correspondence, two family bibles, and letters, 1949-1985, to Jones's family, especially concerning his life and work, and memorials to him.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Papurau Tydfor Jones

  • GB 0210 TYDJONES
  • Fonds
  • [1931]-1993

Papurau'r bardd Tydfor Jones, [1931]-1993, yn cynnwys ei gerddi cynnar, cerddi'r gyfrol Rhamant a hiwmor a Tydfor a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â phapurau'n ymwneud â Bois y Cilie, yn arbennig ei ewythr John (Tydu) Jones a ymfudodd i Ganada. = Papers of the poet Tydfor Jones, [1931]-1993, comprising his early poems, poems for Rhamant a hiwmor a Tydfor published in 1993, together with papers relating to Bois y Cilie, especially his uncle John (Tydu) Jones who emigrated to Canada.

Jones, Tydfor

Papurau Emlyn Evans

  • GB 0200 EMLEVA
  • Fonds
  • 1908-2014

Papurau Emlyn Evans, 1908-2014, yn ymwneud â'i yrfa yn y byd argraffu a'i weithgarwch ym myd llyfrau pan oedd yn byw yn Llundain, Llandybïe, ac yna'n ddiweddarach pan ddychwelodd i fyw i'w fro enedigol ym Methesda.

Evans, Emlyn, 1923-

CMA: Cofysgrifau Capel Ysgwyddgwyn

  • GB 0210 YSGWGWYN
  • Fonds
  • 1862-1937

Llyfr cyfrifon Eglwys Ysgwyddgwyn, Deri, Sir Forgannwg, 1862-1937.

Ysgwyddgwyn, Deri (Capel)

CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog

  • GB 0210 SALECYFF
  • Fonds
  • 1884-2011

Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog neu Gyffylliog, sir Ddinbych, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1884-2011 (yn eu plith Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, Bethania, 1899-1910); Llyfr Aelodaeth y Merched, 1889-98; llyfrau cofnodion, 1931-84 (gyda bylchau); llyfrau tocyn aelodaeth, 1930-57; adroddiadau blynyddol, 1956-64 (gyda bylchau); cofnodion yr Ysgol Sul, 1923-2011; ac archwiliad o’r adeiladau, 1989.

Capel Salem, Cyffylliog

CMA: Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel

  • GB 0210 DINAMOEL
  • Fonds
  • 1914-1989

Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel, 1914-89, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1919-88, a llyfr cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1960-89.

Capel Dinam, Nant-y-moel

Sgriptiau Eric Ellis

  • GB 0210 ERICELLIS
  • Fonds
  • [1950au-1970au]

Archif y diweddar Eric Ellis, Abertawe, Ymgynghorydd Drama Gorllewin Morgannwg, yn cynnwys yn bennaf casgliad o sgriptiau.

Eric Ellis

CMA: Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr

  • GB 0210
  • Fonds

Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr, yn cynnwys cofnodion ariannol, llyfrau tocynnau aelodaeth, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.

Capel Trinity, San Clêr

Papurau D. Huw Owen

  • GB 0210 DHUWEN
  • Fonds

Papurau D. Huw Owen (rhan gyntaf), yn cynnwys ffeil yn ymwneud â chyhoeddi Settlement and Society in Wales (1989); Hydref 2023.
Papurau, 1982-[89], yn ymwneud â'r gyfrol Settlement and Society in Wales (Caerdydd, 1989) a olygwyd gan y rhoddwr, ynghyd â gwahanlithoedd ysgrifau ganddo; Mehefin 2024. Papurau ychwanegol yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn ymwneud â gweithiau'r rhoddwr, Settlement and society in Wales (1989) a Capeli Cymru (2005), ynghyd â ffeil ynglŷn â sefydlu Addoldai Cymru; Rhagfyr 2025.

Dr. D. Huw Owen

Archif Rhiannon Davies

  • GB 0210 RHNDAV
  • Fonds

Archif y bardd, awdur, cyfieithydd a cherddor Rhiannon Davies (née Williams, 1917-88), yn cynnwys copïau o'i gweithiau cyhoeddedig, sef Cerddi afreolaidd, yn cynnwys llythyrau ac adolygiadau; Y llwynog, yn cynnwys sgript deledu o'r gwaith yn llaw yr awdur; Y brawd, a gyfieithwyd ganddi ar y cyd â T. Ifor Rees, yn cynnwys adolygiad o'r llyfr a nodyn gan Henri Troyat; ac Yr ysgol haf; ynghyd â chopïau wedi'u hargraffu o gerddi ganddi, ffotograffau a theyrngedau.

Papurau Geraint H. Jenkins

  • GB 0210 GHJENK
  • Fonds
  • 20fed ac 21ain ganrif

Papurau'r hanesydd, Yr Athro Geraint H. Jenkins.

Yr Athro Geraint H. Jenkins ac eraill

Papurau Llysgenhadaeth Glyndŵr a Cofiwn

  • GB 0210 LLYSGLYNDWR
  • Fonds

Dogfennau a gohebiaeth yn ymwneud yn bennaf â threfnu gweithgareddau y mudiadau Cofiwn a Llysgenhadaeth Glyndŵr, ynghyd â defnyddiau yn ymwneud â Mudiad Amddiffyn Cymru a mudiadau eraill o'r 1960au.

CMA: Cofysgrifau Y Gymdeithasfa yn y Gogledd (Records of the Association in the North)

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1894-2004

Papurau yn ymwneud â Chymdeithasfa'r Gogledd, a ddaeth i'r Llyfrgell pan gaewyd y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth.

Papurau ychwanegol gan gynnwys llyfr cofnodion, 1894-1998; receipts & payments book, 1949-1959, ac un 1960-98; llyfrau'r trysorydd, 1955-1966 a 1937-1964; general treasurer's postages and expenses book, 1949-1998; trysorfa'r gweinidogion (cyfarfod misol Dyffryn Conwy); ac amrywiol adroddiadau blynyddol y Drysorfa.

Cofysgrifau brintiedig ychwanegol, 1993-2002, yn cynnwys rhaglenni ac adroddiadau; Tachwedd 2016.

Papurau ychwanegol amrywiol, 1849-1986, yn cynnwys eitemau printiedig yn bennaf a llythyr, dyddiedig 13 Tachwedd 1930, oddi wrth R. Dewi Williams at y Parchedig S. T. Hughes; Mawrth 2018.

Adroddiadau'r Gymdeithasfa, Hydref 2019 a Gorffennaf 2021; Tachwedd 2021.

Cofysgrifau ychwanegol ym mlwch Llywydd y Gymdeithasfa (1966), yn cynnwys Beibl y Llywydd, cyflwynedig gan Y Parch. a Mrs O. W. Owen, Medi 1940; tudalen wreiddiol â llofnodion y Llywyddion o’r Beibl, 2003-2013; rhestr o’r rhai gymerodd ran mewn Gwasanaethau Ordeinio 1920-2000; trefn gwasanaethau ordeinio Aneurin Owen (2010), Helen Wyn Jones a David Owens (2012), Anna Jane Evans (2018) ac Aled Lewis Evans (2019); cytundeb awdur rhwng Goronwy Prys Owen a’r Gymdeithasfa, 10 Medi 2011; rhaglen cyflwyniad dramatig 'Yr Ordeinio Cyntaf yn y Bala 1811' (2011); adroddiadau’r Gymdeithasfa, 1998-2019; ynghyd â hanes achos Henaduriaethau Lerpwl a Manceinion (Hydref 2003), Trefaldwyn Isaf (Hydref 1998), Gorllewin Meirionnydd (Gwanwyn 1999), Dyffryn Clwyd (Hydref 2000), Trefaldwyn Uchaf (Gwanwyn 2001), Fflint (Hydref 2001), Mȏn (Gwanwyn 2002), Dyffryn Conwy (Hydref 2002), Dwyrain Meirionnydd (Gwanwyn 2003), Trefaldwyn Isaf (Hydref 2003), Arfon (Hydref 2004), Wrecsam (Hydref 2005), Dyffryn Clwyd (Gwanwyn 2006), Llŷn ac Eifionydd (Hydref 2006), Fflint (Gwanwyn 2007), Trefaldwyn Uchaf (Hydref 2007), Mȏn (Hydref 2008), Arfon (Gwanwyn 2009), Gorllewin Gwynedd (Hydref 2009), Trefaldwyn (Haf 2010), Dyffryn Clwyd (Gaeaf 2010), Y Gogledd Ddwyrain (Gaeaf 2011), Mȏn (Gwanwyn 2012), Dyffryn Clwyd (Gwanwyn 2014), Y Gogledd Ddwyrain (Gwanwyn 2018); Chwefror 2022.

Adroddiadau'r Gymdeithasfa, Tachwedd 2021, ac Ebrill a Gorffennaf 2022; Ionawr 2023.

Adroddiadau'r Gymdeithasfa, Tachwedd 2022 ac Ebrill 2023; Ionawr 2024.

Y Gymdeithasfa yn y Gogledd (The Association in the North)

Papurau Gwilym Roberts

  • GB 0210 GWILROB
  • Fonds
  • [1940au-2020au]

Papurau Gwilym Roberts, [1940au-2020au], yn ymwneud yn bennaf â’i waith yn datblygu addysg Cymraeg (yn cynnwys Mudiad Ysgolion Meithrin, cyrsiau Wlpan ac ati), ei gysylltiadau ym Mhatagonia a’i fywyd personol.

Gwilym Roberts

Results 1941 to 1960 of 2060