Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1974-1995 (crynhowyd1981-1995) / (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.297 metrau ciwbig (33 bocs).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Sefydlwyd Cwmni Theatr Hwyl a Fflag yn 1981 gyda'r bwriad o feithrin awduron newydd i'r theatr Gymraeg. Yr oedd yn fenter gydweithredol rhwng cwmnïau Sgwar Un (o dde Cymru) a Hwyl a Fflag (o ogledd Cymru), ac yn 1985 fe'i cofrestrwyd yn elusen. Yr oedd pencadlys y cwmni yng Nghapel y Tabernacle ym Mangor, Gwynedd, o 1984 hyd 1992, pan y'i ad leolwyd ar stad ddiwydiannol Treborth gerllaw. Cynhyrchiad cyntaf Hwyl a Fflag oedd Gweu Babis, a lwyfannwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth yn 1981, a llwyfannwyd cynyrchiadau awduron newydd yn flynyddol yn ystod y 1980au mewn theatrau a sinemâu trwy Gymru. Yn anad dim, daeth Codi'r Hwyl, yr ŵyl ddrama flynyddol a gychwynnwyd yn 1987, yn gonglfaen pwysig yn natblygiad safonau uchel y cwmni mewn gweithiau llenyddol newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru. Ym mysg y cynyrchiadau mwyaf cofiadwy yr oedd Newid Aelwyd gan Gruffudd Jones a Catrin Edwards; Duges Amalffi (addasiad Gareth Miles o The Duchess of Malfi gan John Webster); Val gan Dyfan Roberts; Yma o Hyd gan Angharad Tomos; addasiad Maldwyn John a Twm Miall o Cyw Haul; a Euog: Dieuog gan Maldwyn Parry. Er i Hwyl a Fflag ddenu nawdd gan fusnesau preifat, dibynnai ar Gyngor Celfyddydau Cymru am y rhan fwyaf o'i hincwm, ac ni allai'r cwmni barhau yn sgil ddiddymu' r cymhorthdal yn gyfan gwbl yn 1994. Daeth i ben yn derfynol yn 1995.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Cwmni Theatr Hwyl a Fflag trwy law Mr Iwan Llwyd, cyn-weinyddwr a chadeirydd y cwmni; Rhodd; Mehefin 1995
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau, 1974-1995 (1981-1994 yn bennaf), yn cynnwys sgriptiau, manylion parthed gwahanol weithdai a chynyrchiadau (gan gynnwys rhai gan gwmnïau eraill), papurau gweinyddol a chyllidol, cofnodion a gohebiaeth pwyllgorau, a phapurau yn ymwneud â pherfformwyr, theatrau a sefydliadau theatrig eraill yng Nghymru (yn cynnwys Cymdeithas Theatr Cymru, 1975-1990, Theatr Gymraeg Gwynedd, 1985-1988, Cymdeithas Ddrama Cymru, 1991-1992, a Chymdeithas Celfyddydau Perfformiadol Cymru, 1983-1994), ynghyd â lluniau, posteri a rhaglenni = Papers, 1974-1995 (mainly 1981-1994), comprising scripts, details regarding various workshops and productions (including some by other companies), administrative and financial papers, committee minutes and correspondence, and papers relating to performers, theatres and other Welsh theatrical organizations (including Cymdeithas Theatr Cymru, 1975-1990, Theatr Gymraeg Gwynedd, 1985-1988, Cymdeithas Ddrama Cymru, 1991-1992, and the Society of Performing Arts in Wales, 1983-1994), together with photographs, posters and programmes.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn gronolegol o fewn y canlynol: actorion; amrywiol; cyllidol; canolfannau/theatrau; cwmnïau, cynghorau cymdeithasau a phwyllgorau theatrig; taliadau/cyflogau; Cyngor Celfyddydau Cymru; cyhoeddusrwydd/marchnata; Cymdeithas Celfyddydau Perfformiadol Cymru; cynyrchiadau; dolenni; gweithdai; gwyliau drama; nawdd; pwyllgor artistig; sgriptiau; ac unedau Treborth.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r archif yn cynnwys peth ddeunydd cynharach a grynhowyd gan y cwmni.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Cwmni Hwyl a Fflag -- Archives. (Pwnc)
- Cymdeithas Theatr Cymru. (Pwnc)
- Society of Performing Arts in Wales. (Pwnc)
- Theatr Gwynedd (Pwnc)
- Drama Association of Wales. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2, ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
January 2003
Iaith(ieithoedd)
- Saesneg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: NLW, Rhestr o Bapurau Cwmni Theatr Hwyl a Fflag; Baines, Menna, 'Rhwydo Dramodwyr' (Barn 374, Mawrh 1994).