Identity area
Type of entity
Corporate body
Authorized form of name
Cwmni Hwyl a Fflag.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Sefydlwyd Cwmni Theatr Hwyl a Fflag yn 1981 gyda'r bwriad o feithrin awduron newydd i'r theatr Gymraeg. Yr oedd yn fenter gydweithredol rhwng cwmnïau Sgwar Un (o dde Cymru) a Hwyl a Fflag (o ogledd Cymru), ac yn 1985 fe'i cofrestrwyd yn elusen. Yr oedd pencadlys y cwmni yng Nghapel y Tabernacle ym Mangor, Gwynedd, o 1984 hyd 1992, pan y'i ad leolwyd ar stad ddiwydiannol Treborth gerllaw. Cynhyrchiad cyntaf Hwyl a Fflag oedd Gweu Babis, a lwyfannwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth yn 1981, a llwyfannwyd cynyrchiadau awduron newydd yn flynyddol yn ystod y 1980au mewn theatrau a sinemâu trwy Gymru. Yn anad dim, daeth Codi'r Hwyl, yr ŵyl ddrama flynyddol a gychwynnwyd yn 1987, yn gonglfaen pwysig yn natblygiad safonau uchel y cwmni mewn gweithiau llenyddol newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru. Ym mysg y cynyrchiadau mwyaf cofiadwy yr oedd Newid Aelwyd gan Gruffudd Jones a Catrin Edwards; Duges Amalffi (addasiad Gareth Miles o The Duchess of Malfi gan John Webster); Val gan Dyfan Roberts; Yma o Hyd gan Angharad Tomos; addasiad Maldwyn John a Twm Miall o Cyw Haul; a Euog: Dieuog gan Maldwyn Parry. Er i Hwyl a Fflag ddenu nawdd gan fusnesau preifat, dibynnai ar Gyngor Celfyddydau Cymru am y rhan fwyaf o'i hincwm, ac ni allai'r cwmni barhau yn sgil ddiddymu' r cymhorthdal yn gyfan gwbl yn 1994. Daeth i ben yn derfynol yn 1995.