Welsh newspapers -- 20th century

Taxonomy

Code

Scope note(s)

Source note(s)

Display note(s)

Hierarchical terms

Welsh newspapers -- 20th century

Equivalent terms

Welsh newspapers -- 20th century

Associated terms

Welsh newspapers -- 20th century

4 Archival description results for Welsh newspapers -- 20th century

4 results directly related Exclude narrower terms

Erthyglau am John Meirion Morris = Articles about John Meirion Morris

Llungopïau, allbrintiau ac erthyglau gwreiddiol o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau am John Meirion Morris a'i waith, ynghyd ag adolygiadau o'r cyfrolau The Celtic Vision gan John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) a John Meirion Morris: artist gan Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011) a nodiadau ar John Meirion Morris fel rhan o gynnwys rhaglen arddangosfa gelf. Ceir rhestr o'r erthyglau, ynghyd â manylion am gylchgronau a llyfrau lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, y Western Mail, Y Cymro a'r Faner Newydd. Mae dwy eitem yn cynnwys sylwadau gan y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd.
= Photocopies, printouts and original articles taken from newspapers, periodicals and books about John Meirion Morris and his work, together with reviews of the publications The Celtic Vision by John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) and John Meirion Morris: artist by Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011) and notes on John Meirion Morris as part of an art exhibition programme. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals and books in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris. The publications include Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, the Western Mail, Y Cymro and Y Faner Newydd. Two items include observations by the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years.

Llyfr lloffion 'Myrddin Fardd',

A scrap-book of John Jones ('Myrddin Fardd') containing cuttings from Welsh and Welsh American newspapers, with occasional manuscript annotations by the compiler. The titles include 'Llenoriaeth Geltaidd' by [John Peters] 'Ioan Pedr', 'Cyfraith a Chyfreithwyr yr Hen Gymry', 'Prydain yn yr Hen Amser', 'Beirniadaeth Feiblaidd' by L. E. Lewis, Lisle, New York, 'Llosgi Llyfrau' by 'Thalamus', New Straitsville, Ohio, 'Gwahanfodaeth y Genedl Gymreig' by W. Morris ('Rhosynog'), Treorci, 'Y Mabinogion', 'Y Llyfr Gweddi Cyffredin' by [John Jones] 'Tegid', Oxford, 'Eisteddfod Salt Lake City. Beirniadaeth Pryddestau y Gadair .....' by T. C. Edwards ('Cynonfardd'), 'Bedyddwyr Cymru: eu dyled i'w haneswyr' by E. T. Jones, Llanelli, 'Hanes yr Hen Eglwys Brydeinig' translated by Herbert Jones, 'Noson gyda'r Llyfr Emynau' by E. M. Evans ('Morfryn'), Liverpool, 'Geiriau Saesneg diarfer wedi aros yn y Gymraeg' by J. Hammond, Scranton, 'Gwerin-eiriau Sir Gaernarfon', etc., by [Owen Griffith Owen] 'Alafon' (1907), 'Llen Gwerin Sir Fon' by [Morien Môn Huws] 'Morien', 'Gwerin-eiriau Sir Gaernarfon' by [James Spinther James] 'Spinther', 'Myrddin Fardd a Llenyddiaeth Lleyn' by J[ohn] Daniel [rector of Llandudwen] (1907), 'Pererindod i Lanilltyd Fawr (Llantwit Major)' by 'Caron', 'Y modd y daethym o hyd i fedd Goronwy Owen o Fon' by David Lloyd, Maine, 'Taith i Glynnog' by 'Llwyd y Gwrych', 'Taliesin Benbeirdd' by [Ellis Pierce] 'Ellis o'r Nant', 'Poblogrwydd Ysbrydegaeth, a barn dynion mawr ar y pwnc' by Joseph Roberts, DD [of New York, etc.].

Llythyr oddi wrth R. Williams Parry at Y Dinesydd Cymreig = Letter from R. Williams Parry to Y Dinesydd Cymreig

Llythyr printiedig, 14 Rhagfyr 1927, ynghylch Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a anfonwyd gan y bardd a'r darlithydd prifysgol R. Williams Parry i'r newyddlen Y Dinesydd Cymreig. = Printed letter, 14 December 1927, regarding the Workers' Educational Association sent by poet and university lecturer R. Williams Parry to the newspaper Y Dinesydd Cymreig.

Llythyrau at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth W. J. Gruffydd = Letters to Robert (Silyn) Roberts from W. J. Gruffydd

Llythyrau, 1899-1917, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth yr ysgolhaig, bardd, beirniad a'r golygydd W. J. (William John) Gruffydd (1881-1954), ac un llythyr, 1918, oddi wrth Gwenda Gruffydd, gwraig W. J. Gruffydd. Cyfeirir at yrfa academaidd W. J. Gruffydd yn Rhydychen; ei garwriaeth â'i ddarpar-wraig Gwenda Evans ac â merch o'r enw Winnie, a'i briodas yn y pen draw â Gwenda; "Miss P." (sef Mary Parry, wedyn Mary Silyn Roberts); barddoniaeth, gan gynnwys enghreifftiau o waith W. J. Gruffydd, ac yntau'n holi am farddoniaeth o eiddo Silyn; ei waith golygyddol; crefydd, athroniaeth, gwleidyddiaeth a daliadau personol; a'i gyfnod o wasanaeth yn y llynges, ac yntau'n dyheu am gael gadael. Mae llythyr Gwenda Gruffydd yn cyfeirio at ei brwydr i ryddhau ei gŵr o'r llynges, ac yn erfyn ar ddylanwad Silyn i'w chynorthwyo yn hyn o beth, gyda chefnogaeth 'Tom Jones' (sef, mae'n debyg, Dr Thomas Jones (1870-1955)). Ceir yn ogystal broflen o erthygl dan y teitl 'Addysg yng Nghymru' a ysgrifenwyd gan W. J. Gruffydd ar gyfer Barn Cymru Ieuanc (Rhif 2); llythyr printiedig a ysgrifenwyd gan W. J. Gruffydd i'r newyddlen Y Brython; a llythyr printiedig dan y teitl 'W. J. Gruffydd a'r Hen Feirdd' a anfonwyd gan W. J. Gruffydd at gyhoeddiad nas enwir ac a grybwylla enwau Silyn Roberts ac R. Williams Parry. Ynghyd â thrawsgrifiadau teipysgrif o'r llythyrau a disgrifiad cryno o'r deunydd atodol.
= Letters, 1899-1917, to Robert (Silyn) Roberts from the academic, poet, adjudicator and editor W. J. (William John) Gruffydd (1881-1954) and one letter, 1918, from Gwenda Gruffydd, wife of W. J. Gruffydd. References include W. J. Gruffydd's academic career at Oxford; his courtship of Gwenda (Evans, later his wife), his dalliance with a woman named Winnie, and his eventual marriage to Gwenda; "Miss P." (Mary Parry, later Mary Silyn Roberts); poetry, including examples of work by W. J. Gruffydd and his request to receive some of Silyn's poetry; his editorial work; religion, philosophy, politics and personal theories; and his period in the navy and his longing to leave the service. Gwenda Gruffydd's letter refers to her battle to have her husband released from his naval service, requesting Silyn, with the support of "Tom Jones" (most likely Dr Thomas Jones (1870-1955)) to help bring this about. Together with the proof of an article titled 'Addysg yng Nghymru' ('Education in Wales') written by W. J. Gruffydd for Barn Cymru Ieuanc (No. 2); printed letter written by W. J. Gruffydd for Y Brython newspaper; and a printed letter titled 'W. J. Gruffydd a'r Hen Feirdd' ('W. J. Gruffydd and the Old Poets'), sent by W. J. Gruffydd to an unnamed publication and which references Silyn Roberts and R. Williams Parry. Also included are typescript transcripts of the letters and a brief description of the supplementary material.