Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1902-1981 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.018 metrau ciwbig (2 focs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd y Parch. Gerallt Jones (1907-1984), bardd a llenor, yn Rhymni, sir Fynwy. Yr oedd ei dad, Y Parch. Fred Jones (1877-1948), yn fab i Jeremiah Jones (1855-1902), gŵr yr oedd cymaint o'i ddisgynyddion gwrywaidd yn meddu ar gryn dalent lenyddol; fe'u hadnabuwyd ar y cyd fel 'Bois y Cilie' ar ôl fferm y teulu ger Llangrannog, sir Aberteifi. Yr oedd Gerallt Jones yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a golygodd farddoniaeth ei dad a'i daid, yn ogystal â barddoniaeth a rhyddiaith ei ewythr Samuel Bartholomew Jones (1894-1966) a'i gefnder Fred Williams (1907-1972). Ymhlith ei waith ei hun yr oedd cyfieithiad Cymraeg o'r Greadigaeth gan Handel (1952), a chyfrol o farddoniaeth Ystâd Bardd (1974), astudiaeth o Sarah Jane Rees ('Cranogwen', 1839-1916) (1974), a chyfrol o ysgrifau er cof am ei frawd Jac Alun Jones (1974). Un arall o'i frodyr oedd y bardd Dafydd Isfoel Jones (1881-1968), ac mae'r canwr a'r bardd Dafydd Iwan (1943- ) yn un o'i feibion.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mrs Elisabeth Gerallt Jones,; Tal-y-bont,; Rhodd,; 1985
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Gerallt Jones,1902-1981, yn cynnwys yn bennaf copïau llawysgrif a theipysgrif o'i farddoniaeth a'i rhyddiaith,1937-1981, llawer ohonynt wedi'u cyflwyno i gystadlaethau yn y Genedlaethol ac eisteddfodau eraill, ynghyd â'i ohebiaeth,1952-1982, a hefyd deunydd yn ymwneud â theulu llenyddol 'Y Cilie', yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith gan y Parch. Fred Jones,1902-1932, y Parch. Simon B. Jones, 1934-1955, ac aelodau eraill o'r teulu, yn ogystal â llythyrau a chardiau,1956-1970, oddi wrth Dafydd Isfoel Jones a Jac Alun Jones = Papers of Gerallt Jones, 1902-1981, consisting mainly of manuscript and typescript copies of his poetry and prose, 1937-1981, much of which was entered for competition at National and other eisteddfodau, together with his correspondence, 1952-1982, and also material relating to the literary family of 'Y Cilie', including poetry and prose by the Rev. Fred Jones, 1902-1932, the Rev. Simon B. Jones, 1934-1955, and other members of the family, as well as letters and cards, 1956-1970, from Dafydd Isfoel Jones and Jac Alun Jones.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: papurau'n ymwneud â theulu'r Cilie (Fred Jones; Simon B. Jones; eraill); papurau Gerallt Jones (barddoniaeth; rhyddiaith; sgriptiau radio; gohebiaeth; amrywiol).
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1985 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Jones, Gerallt, 1907-1984 -- Archives (Pwnc)
- Jones, Fred, 1877-1948 (Pwnc)
- Jones, S. B. (Simon Bartholomeus) (Pwnc)
- Isfoel, 1881-1968 (Pwnc)
- Jones, John Alun, 1908-1982 (Pwnc)
- Cilie family, (of Llangranog) (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2003
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1985; Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986).