fonds GB 0210 ZONBOW - Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr),

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 ZONBOW

Teitl

Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr),

Dyddiad(au)

  • 1965-2007 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

6 bocs (0.054 metrau ciwbig)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1926-)

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd Zonia M. Bowen yn Norfolk a'i magu yn Swydd Efrog ac fe ddysgodd Cymraeg wedi iddi symud i Gymru i fyw. Bu'n ffigwr blaenllaw yn hanes sefydlu Merched y Wawr ac yn weithgar fel yr Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf, 1967-1970, golygydd Y Wawr, 1968-1975, ac fel Llywydd Anrhydeddus hyd nes iddi ymddiswyddo yn 1975 yn dilyn dadl rhyngddi hi ac aelodau eraill ynglŷn â lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y Mudiad.
Sefydlwyd Merched y Wawr yn Y Parc, ger Y Bala, ym mis Mai 1967 yn dilyn anghydfod ynglŷn â'r iaith rhwng Sefydliad y Merched Y Parc a swyddogion sirol y Sefydliad yn Rhagfyr 1966. Er bod aelodau cangen Y Parc yn cynnal eu cyfarfodydd a'u gweithgareddau oll drwy'r Gymraeg, yr oedd disgwyl i holl ddogfennau'r Sefydliad fod yn y Saesneg. Codwyd y mater gan Zonia M. Bowen, Ysgrifennydd y Sefydliad ar y pryd, ond gwrthododd swyddogion sirol y Sefydliad wrando ar ei chwynion. Yn y diwedd, er nad oeddynt wedi bwriadu ar hyn yn wreiddiol, torrodd aelodau Y Parc i ffwrdd o Sefydliad y Merched gan benderfynu parhau i gwrdd bob mis yn annibynnol.
Wedi ychydig fisoedd, awgrymodd Zonia M. Bowen wrth aelodau Y Parc y dylid cychwyn mudiad newydd i ferched Cymru oedd yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg. Y bwriad oedd dechrau'r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ond, wedi i'r wasg adrodd y stori, fe sefydlwyd cangen gyntaf Merched y Wawr yn Y Parc ym mis Mai 1967. O fewn wythnos yr oedd cangen arall wedi'i sefydlu yn Y Ganllwyd, ger Dolgellau, a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ychydig yn ddiweddarach.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Mrs Zonia M. Bowen; Caernarfon; Rhodd; Awst 2009; 004685872.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Zonia M. Bowen yn ymwneud â sefydlu mudiad Merched y Wawr, 1965-2007, yn cynnwys llythyrau'n ymwneud â changhennau ledled Cymru, 1967-1975; gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977; papurau gweinyddol, 1965-1975; papurau ariannol, 1967-1975; cylchlythyrau, 1968; torion o'r wasg, 1967-2007; a phapurau amrywiol, 1967-2007, gan gynnwys anerchiadau, papurau'n ymwneud ag ymddiswyddiad Zonia M. Bowen, a chrynodebau o hanes y Mudiad.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a roddwyd i'r Llyfrgell.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Ffrangeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg, peth Ffrangeg (am fanylion pellach gweler disgrifiadau'r lefelau perthnasol).

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Trosglwyddwyd copïau o'r cylchgrawn Y Wawr, rhifynnau 1-29 (Awst 1968-Hydref 1975), i gasgliad llyfrau LlGC; ffotograffau i gasgliad ffotograffau LlGC (VTLS 4685889); a bathodynnau i gasgliad deunydd gweledol LLGC (VTLS 4685898); cedwir cofnodion rhai o ganghennau Merched y Wawr yn yr archifdai sirol perthnasol.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004685872

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 2009.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhian Lyn James. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Bowen, Zonia, Y Dyddiau Cynnar (Bala, 1977); gwefan Merched y Wawr, edrychwyd Medi 2009; ac eitemau o fewn yr archif;

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig