Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1809-[1891] / (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
1 bocs.
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd 'Owain Lleyn', Owen Owen (1786-1867), o Fodnithoedd, Botwnnog, sir Gaernarfon, yn fardd. Ganwyd yn 1786 yn ffermdy Bodnithoedd, yn fab i Gruffudd Owen, ac addysgwyd ef yn Ysgol Botwnnog. Cyfansoddai farddoniaeth i ddifyrru ei ei hun a'i gyfeillion, ond ambell dro byddai'n cystadlu'n llwyddiannus mewn eisteddfodau. Yr oedd hefyd yn beirniadu yn aml mewn eisteddfodau lleol. Priododd Dorothy, merch David Evans, Nantlle, a chawsant wyth o blant, yn cynnwys David Evan Owen a John Owen, pob un wedi'i fagu ym Modnithoedd. Bu farw Owain Lleyn ar 21 Awst 1867, yn 81 mlwydd oed. Yn 1909 cyhoeddwyd blodeugerdd o'i waith, Gwaith Barddonol Owain Lleyn (Pwllheli,1909), dan olygiad Myrddin Fardd.
Archival history
Mae'n ymddangos i'r papurau aros ym meddiant y teulu hyd nes iddynt gael eu cyflwyno'n rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ychwanegwyd atynt gerddi a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Immediate source of acquisition or transfer
Miss Dora Evans a Miss Mary W. Evans, gor-wyresau Owain Lleyn; Rhyd-y-main, Dolgellau; Rhodd; 1960
Content and structure area
Scope and content
Llythyrau Owain Lleyn at ei feibion ac oddi wrth Eben Fardd, 1851-1860; torion papur newydd, barddoniaeth Owain Lleyn yn bennaf [1842]-[1891]; barddoniaeth a gyhoeddwyd yn Gwaith Barddol Owain Lleyn (1909), [c. 1842]-1860; barddoniaeth na chyhoeddwyd, [c. 1842]-[c. 1853]; a llyfrau nodiadau o ryseitiau ac ymarferion ysgol, 1809-[c. 1868]. = Letters from Owain Lleyn to his sons and from Eben Fardd, 1851-1860; newspaper cuttings, mainly of poetry by Owain Lleyn, [1842]-[1891]; poetry published in Gwaith Barddol Owain Lleyn (1909), [c.1842]-1860; unpublished poetry, [c. 1842]-[c. 1853]; and notebooks of recipes and school exercises, 1809-[c.1868].
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; torion papur newydd; barddoniaeth; ac amrywiol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael arlein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Crynhowyd ychydig eitemau gan ei deulu ar ôl ei farwolaeth.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Owain Lleyn, 1786-1867 -- Archives. (Subject)
- Eben Fardd, 1802-1863 -- Correspondence. (Subject)
- Eben Fardd, 1802-1863 (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mawrth 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Crëwyd i brosiect ANW gan ddefnyddio y ffynonellau canlynol: LlGC, Rhestr o Bapurau Owain Lleyn; Myrddin Fardd (gol.), Gwaith Barddonol Owain Lleyn (Pwllheli, 1909);