Showing 59 results

Archival description
Papurau Owain Lleyn,
Print preview View:

Albwm o dorion. Clawr blaen: Cyfres o englynion: 'Anerchiad i Eben Fardd'; Dau englyn beddargraff, un ar fedd Jane a ...,

Albwm o dorion. Clawr blaen: Cyfres o englynion: 'Anerchiad i Eben Fardd'; Dau englyn beddargraff, un ar fedd Jane a Griffith Owen o Fodnithoedd [?c. 1818] a'r llall ar fedd Dorothy, gwraig Owen Owen, Bodnithoedd [c. 1866]; f. 1r: Ioan o Fôn wedi darganfod 'Cyfarchiad' Owen Owen i'r gymdeithas er cosbi lladron yn Llyn ac Eifionydd, 'Na ladrata'; Englynion a anfonodd Owen Owen mewn llythyr at ei frawd, Mr Griffith Owen, Fox Hall, gerllaw Dinbych, i ddweud ei fod am ymweld ag ef; Beddargraff gan Owen Owen i Mr Griffith Owen, Fox Hall, ym mynwent Eglwys Henllan, sir Ddinbych [c. 1853]; f. 1v: Englyn: 'O bodded hen Babyddiaeth - eofn-dyb ...' di-enw; Englyn: 'Tra'n hwylio drwy fôr heli - allweddau ...' gan yr adeiladydd Mr Parry i'r achlysur o enwi'r llong 'Menai' (anghyflawn); Pennill 'Drigolion y byd! Cydseiniwn mae'n bryd ...' (darn o garol Nadolig) gan Owen Owen [c. 1842]; f. 2r: Englyn: 'Y Dyfrgi'; Englyn 'I'r Llwynog' [c. 1849]; Englyn heb benawd: 'Tamaid gan Mrs Thomas, - wraig annwyl ...'; Cyfres o englynion: 'Wele, hai! ow Talhaiarn, - annoeth ben ...' [c. 1849] o waith Owen Owen; f. 2v: Llinell: 'Byr ddyddiau, dim braidd oeddynt' gan Dewi Wyn; Cerdd: 'Tra'n ymson uwch ei chysegredig lwch ...' [c. 1867]; Cyfres o englynion: 'Lle i greadur llygredig - i dd'od ...'. Di-deitl yma ond ceir yn dwyn y teitl 'Y Bibl' yn y fersiwn cyhoeddedig. Tri phennill ychwanegol ar ddechrau'r fersiwn cyhoeddedig; 'Carol Nadolig' eto [c. 1842]; f. 3r-v: Awdl: 'Cywir i mi, y car mwyn,- a gofid ...'. Di-deitl yma, ond ceir y teitl 'Lleyn wedi marw yn Llefaru Eto,' yn y fersiwn cyhoeddedig [c. 1841]; f. 3v: Englyn 'I'r Brithyll', Llais y Wlad (9 Awst 1878); Dau englyn a gyfansoddwyd wedi edrych ar gladdu Mrs Mary Jones, Pen-y-Bont, Llyn, ym mynwent Mellteyrn: 'Yma rhoddwyd Mair heddyw, - ty 'nghof ...' [c. 1851]; Englyn a gyfansoddwyd ar gais y torrwr bedd-meini, John Daniel Michael i roi ar faen ei fedd ym mynwent Aberdaron: 'Athronydd llythrenau - cywir fu ...'; Englyn: 'Y Daran'; f. 4r: Mydryddiad o Weddi'r Arglwydd; Pennill ar gadwraeth y Saboth; f. 5r: Dau englyn a gyfansoddwyd ar ddyfodiad etifedd Glynllifon i'w oed: 'Aer glwys a anwyd i'r Glyn, - newyddlys ...'; Cerdd: fersiwn arall o 'Lleyn Wedi Marw yn Llefaru Eto', [c. 1841]; Cyfres o englynion i'r 'Winwydden'; Cyfres o englynion a gyfansoddwyd wedi ymweliad Hugh Pugh un bore â Bodnithoedd. Chwech o englynion ar ffurf ymddiddan rhwng y bardd â'r petris; 'Braw o odreu Bro Idris,- O gwyliwch! ...' [c. 1849]; f. 6r: Penillion 'Myfyrdod', uwch bedd y Parch. James Hughes a'i briod ym mynwent Mellteyrn: 'Iago a Mair ydoedd o gymeriadau ...' [c. 1852]; Englyn a luniwyd ar gais ymwelydd o Dremadog 'Cofiwch, a byddwch heb wad - yn sobr ...'; f. 7r: Cyfarchiad i 'Gymdeithas Amaethyddol Lleyn i ddal Lladron', 'Ha wyr! yn frodyr un fryd ...'; f. 8r: Cyfres o englynion: 'Ah! Rhufain erfawr ei rhyfyg - sydd am ...'. [Teitl y fersiwn cyhoeddedig yw 'Y Babaeth'.] Englyn y bwriadwyd ei baentio uwch drws gwesty Sarn Fawr, Mellteyrn; 'Iach odiaeth, os sychedi,- yw cwrw da ...'; Englyn am 'Arwydd y Llew Coch' ym Mhwllheli, 'Lliw coch ar y Llew cuchiog, - dy elyn ...'; Englynion: 'I'r Wenynen' [c. 1851]; f. 9r: Englynion ar ddydd priodas Mr Evan Owen, Bodnithoedd a Miss Mary Jones, y Faerdref. Teitl y fersiwn cyhoeddedig yw 'Priodas Mab y Prydydd' [c. 1842]; Cwpled: 'Bum fyw i farw, o angeuol glwy' / Bum farw i fyw, heb ofni marw mwy.'; Englyn: 'I'r Morgrugyn' [c. 1855]; Englyn: 'I'r Enfys'; Englynion ar y bwriad i sefydlu cymdeithas Cymedroldeb yn ardal Mellteyrn; f. 9v: Penillion: 'Cariad Crist' gan Robert ap Gwilym Ddu [?1784]; 'Englyn Darluniadol' a gyfansoddwyd gan Robert ap Gwilym Ddu pan ar fin cael ei ben blwydd yn bedwar ugain [c. 1846]; Cerdd: 'Heddyw ac Yfory' gan Robert Williams, [?1819]; f. 10r: Awdl: 'Lleyn Wedi Marw yn Llefaru Eto', [c. 1841]; Englyn: 'Ar Fedd Cerfiwr Beddlechau', (cf. f. 3v uchod); Englyn di-deitl; 'Ni thal i'r Llwyrymatalwyr - gostus ...'; f. 10v: Englyn: 'I'r Awrlais'; Pennill: 'O deffro di, bechadur swrth ...'. Yn y fersiwn cyhoeddedig mae'n dwyn y teitl 'Cymhelliad Effro ar Bechadur'; Englyn 'Ar y Babaeth'; Cyfres o englynion a ysgrifennwyd ar glawr y Beibl. Yn y fersiwn cyhoeddedig mae'n dwyn y teitl 'Y Bibl'; f. 11v: Beirnadiaethau Eisteddfod Sarn-Mellteyrn 1883 am 'Marwnadau Er Coffadwraeth am Mr & Mrs Owen (Owain Lleyn), Bodnithoedd'; f. 12r: Tri englyn byrfyfyr: 'Alltud Eifion' [c. 1891]; Pennill: 'Hiraeth am Adferiad Iechyd' gan R. Jones; 'Nodion Gwasgaredig' (o gasgliad Alltud Eifion) [c. 1843]; 'Pan ofynwyd i Meiriadog, tua 1843, a oedd ef yn hoff o "uwd a llaeth," efe a atebodd yn yr englyn ..."Uwd i mi ydyw maeth - goraf oll ..."; f. 13r: Erthygl: ' Tremiant ar Nwyfre.'; Cyfres o englynion sydd yn rhan o'r gerdd a ysgrifennwyd wedi ymweliad Hugh Pugh â Bodnithoedd, tra ar ei daith i Feillionydd i adara; f. 16r: Erthygl: 'Ein Hamgueddfa Lenyddol' gan Ap Morus [c. 1878]; Clawr ôl: Cerdd 'Dymuniad Fy Nghalon' gan Ap Morus, [Griffith Morris Williams, 1840-96]; Englyn: 'Y Gelyn Diweddaf' gan Alltud Eifion, [Robert Isaac Jones, 1836-1905].

(I) 'Englyn i'r Daran', t. 59; (ii) 'Dau Englyn', t. 93. Cyfansoddwyd hwy wrth edrych ar y Parch. D. Silvan ....

(I) 'Englyn i'r Daran', t. 59; (ii) 'Dau Englyn', t. 93. Cyfansoddwyd hwy wrth edrych ar y Parch. D. Silvan Evans yn ysgrifennu llythyr ym Modnithoedd pan oedd ar ymweliad yno; (iii) 'Beddargraff', t. 79. I Ann, merch William Davies, ceidwad Goleudy Enlli, y cyntaf i gael ei chladdu ym mynwent newydd Aberaeron; (iv) Englyn, 'Arall' (anghyhoeddedig).

Results 1 to 20 of 59