fonds GB 0210 POVEY - Papurau Meic Povey,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 POVEY

Teitl

Papurau Meic Povey,

Dyddiad(au)

  • 1966-2008 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

10 bocs (0.090 metrau ciwbig) a 4 bocs mawr (Ebrill 2011)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd Meic Povey, actor a dramodydd, yn 1950 ac fe'i magwyd yn Nant Gwynant, Eryri. Mynychodd Ysgol Nant Gwynant ac yna Ysgol Garndolbenmaen wedi i'r teulu symud i fyw yno pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Porthmadog. Yn bymtheg oed, fe adawodd ysgol i weithio am ddwy flynedd fel clerc o fewn swyddfa cyfreithwyr yng Nghricieth. Yn 1968, ymunodd Meic Povey â Cwmni Theatr Cymru. Bu'n teithio gyda'r cwmni am dair blynedd yn gweithio ar amryw o brosiectau hyd nes iddo symud i Gaerdydd yn 1971. Ymbriododd â'i wraig Gwenda yn 1985.

Rhwng 1974 ac 1977, gweithiodd i'r BBC fel golygydd sgriptiau o dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n gyfrifol, ymysg eraill, am lunio cyfresi cyntaf Pobol y Cwm. Ers hyn, bu'n ysgrifennu yn bennaf ar ben ei hun ar gyfer y teledu a'r theatr, yn y Gymraeg a'r Saesneg.

O ran actio, bu'n gweithio ar y gyfres deledu boblogaidd Minder rhwng 1982 ac 1989. Mae hefyd wedi ymddangos o fewn sawl cynhyrchiad Cymraeg, gan gynnwys Sul-y-Blodau (1986) a Yr Enwog Wmffre Hargwyn (1992).

Caiff Meic Povey ei ystyried yn un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru. Ymysg ei weithiau mae'r ffilm deledu Y Weithred (1995), a dramâu megis Perthyn (1987), Wyneb yn Wyneb (1993), Tair (1998) a Life of Ryan...and Ronnie (2005). Enillodd wobr Bafta Cymru am y sgript orau yn 1991 am ei ffilm Nel, ac eto yn 2005 am y gyfres deledu Talcen Caled.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Meic Povey; Caerdydd; Rhodd; Medi 2007, Mehefin 2008 ac Ebrill 2011; 4528321.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Meic Povey, 1966-2008, yn cynnwys sgriptiau, 1969-2007; llyfrau nodiadau, 1988-2005; astudiaethau o'i waith, 1988-[1999]; deunydd printiedig, 1968-2007; rhaglenni theatr, 1966-2008; a pheth gohebiaeth, 1968-2008. = Papers of Meic Povey, actor and dramatist, comprising scripts, 1969-2007; notebooks, 1988-2005; studies of his work, 1988-[1999]; printed material, 1968-2007; theatre programmes, 1966-2008; and some personal and work-related correspondence, 1968-2008.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a roddwyd i'r Llyfrgell.

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd yn LlGC yn chwe chyfres: sgriptiau, llyfrau nodiadau, astudiaethau o waith Meic Povey, deunydd printiedig, rhaglenni theatr a gohebiaeth.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg (am fanylion pellach gweler disgrifiadau'r lefelau perthnasol).

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir tapiau sain a fideo o ddarllediadau dramâu Meic Povey (radio a theledu) yn Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru yn LlGC. Trosglwyddwyd traethawd A. M. Davies, Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey (Bangor, M.A., 2007), i gasgliad traethodau Prifysgol Cymru LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004575071

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Tachwedd 2008.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhian Lyn James. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd; 1997), ac eitemau o fewn yr archif;

Ardal derbyn