Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1867x2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.009 m³ (1 bocs bach)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhoddwyd gan Mr Huw Davies, Rhuthun, gor-ŵyr John Thomas, ym Mehefin 2018.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau'r ffotograffydd John Thomas, Lerpwl, gan gynnwys atgofion teithio a nodiadau John Thomas ar hanes y Cambrian Gallery ac am enwogion Cymreig; deunydd print yn gysylltiedig â'r oriel; a deunydd amrywiol mwy diweddar yn ymwneud â John Thomas a'i fusnes ffotograffiaeth.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Saesneg
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed John Thomas, ffotograffydd, yn Llanfair Clydogau, Ceredigion ym mis Ebrill 1838, yn fab i labrwr. Wedi gadael yr ysgol cafodd swydd mewn siop ddillad yn Llanbedr-Pont-Steffan, cyn symud, ym 1853, i weithio yn yr un maes yn Lerpwl. Oherwydd cyflwr ei iechyd, fe’I gorfodwyd i chwilio am waith yn yr awyr agored, a derbyniodd swydd fel asiant teithiol ar hyd ffordd Lerpwl i Gaergybi ar ran cwmni oedd yn gwerthu deunydd ysgrifennu a cartes-de-visite, sef ffasiwn newydd ar ffurf ffotograffau bychain o enwogion (gan fwyaf) a ddechreuodd ymddangos ym Mhrydain tua 1857. Wedi iddo sylweddoli nad oedd yr un Cymro na Chymraes ymhlith y delweddau hyn, aeth John Thomas ati I ddysgu’r grefft o ffotograffiaeth a dechrau tynnu lluniau o bregethwyr Cymreig adnabyddus. Ym 1863, daeth yn reolwr ar stiwdio ffotograffig Harry J. Emmens yn Lerpwl, lle bu’n arbenigo ar ddelweddau o weinidogion Anghydffurfiol, ac, ym 1867, cychwynnodd ei fusnes ffotograffig ei hunan o’r enw y Cambrian Gallery (neu'r Oriel Gymreig), busnes a ffynnodd am oddeutu deugain mlynedd. Tra gofalai ei wraig am agweddau gweinyddol y busnes, teithiodd John Thomas ledled Cymru yn tynnu lluniau o’r tirlun a’r bobl, nid yn unig pobl nodedig megis beirdd, cantorion a gweinidogion ond hefyd y bobl gyffredin – y siopwyr, amaethwyr, labrwyr, gwragedd tŷ a gweision a morynion, yn ogystal â thrigolion y tlotai, y carchardai a’r strydoedd cefn. Bu farw John Thomas yn nhŷ ei fab, Albert Ivor Thomas, ym mis Hydref 1905, a’I gladdu ym Mynwent Anfield, Lerpwl. Trwy gyfrwng ei ddelweddau rhoddodd ar gof a chadw rhai o ddatblygiadau pwysicaf y cyfnod, megis dyfodiad y rheilffyrdd ac adeiladu’r cronfeydd dŵr, a datblygodd ei gasgliad ffotograffau yn gofnod gwerthfawr o fywyd a hanes Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Iaith(ieithoedd)
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, Gorffennaf 2018.