Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1870]-1998 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.455 metrau ciwbig (44 bocs, 1 rholyn, 2 waled llwyd).
Context area
Name of creator
Biographical history
Golygydd, ysgrifwr a beirniad llenyddol oedd D. Tecwyn Lloyd. Fe'i ganwyd ar Fferm Penybryn, Glanrafon, ger Y Bala, ar 22 Hydref 1914 yn fab i John a Laura Lloyd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn y Gymraeg yn 1937 wedi iddo fynychu Ysgol y Cyngor Glanrafon (Llawrybetws) ac Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala. Dilynodd gwrs Ymarfer Dysgu a gadael Bangor yn 1938. Yn 1955 priododd Frances Killen a bu hi farw yn 1980. Yn 1984 priododd Gwyneth Owen.
Bu'n gweithio gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1938-1946, ac wedi hynny fel darlithydd a llyfrgellydd yng Ngholeg Harlech, 1946-1955. Bu'n gyfarwyddwr Cwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam ac yn is-olygydd Y Cymro, 1956-1961. Yn 1961 derbyniodd radd MA Prifysgol Lerpwl ac fe'i penodwyd yn aelod o staff Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru Aberystwyth a symudodd i fyw i ardal Caerfyrddin. Yn 1980 dychwelodd i'w hen ardal, i Maes yr Onnen, Maerdy, Corwen, gan deithio i'r de yn wythnosol gyda'i waith nes iddo ymddeol yn 1982.
Ef oedd golygydd y cylchgrawn Taliesin o 1965 hyd 1987. Cyhoeddodd ddau gasgliad o storïau byrion gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas. Yn 1990 derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru am ei gofiant i Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1988. Yn yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu farw 22 Awst 1992.
Archival history
Bu'r papurau yn nwylo ei weddw Gwyneth Lloyd wedi ei farwolaeth yn 1992 a hyd ei marwolaeth hithau yn 2005.
Immediate source of acquisition or transfer
1-9: Mrs Gwyneth Lloyd; Maerdy, Corwen; Rhodd; Mai 2000; A2000/28.
PL1/2 a PL2/4: Mr Dafydd Timothy; Y Rhyl; Pryniad; Awst 2005.
HSBC Trust Company (UK) Ltd, Sheffield, ysgutorion y ddiweddar Mrs Gwyneth E. Lloyd; Pryniad; Mawrth 2006.
E/1-E/3: D. Tecwyn Lloyd; Caerfyrddin; Rhodd; Gorffennaf 1975.
PL1/1: Mr Norman Macdonald; Books4U, Yr Wyddgrug; Pryniad; Tachwedd 2005.
PL2/1: Dr T. E. Franklinos; Rhydychen; Rhodd; Awst 2017; 99204332002419.
Content and structure area
Scope and content
Papurau personol, proffesiynol a llenyddol D. Tecwyn Lloyd, [1870]-1998, gan gynnwys papurau pan fu'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain, 1951-1952; nifer fawr o lythyrau yn deillio o’i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987; dyddiaduron, 1931-1992; papurau'n ymwneud â'i waith ymchwil ar Saunders Lewis; ynghyd â’i draethawd MA, 1961. Ceir hefyd papurau a grynhowyd ganddo. -- Personal, professional and literary papers of D. Tecwyn Lloyd, [1870]-1998, including papers relating to his time as Research Fellow in Rome; 1951-1952; letters relating to his work as editor of the literary periodical Taliesin, 1965-1987; his diaries, 1931-1992; his research on Saunders Lewis; together with his MA thesis, 1961. Also included are papers accumulated by him.
Appraisal, destruction and scheduling
Gwaredwyd papurau ariannol, dyblygion o gylchlythyrau'r Academi Gymreig a thaflenni/mapiau a gynlluniwyd gan Tecwyn Lloyd ar gyfer ei ddosbarthiadau Efrydiau Allanol a ffurflenni gwag Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dinistriwyd papurau ariannol a chatalogau, 1973-1977, yn ymwneud â chwmni gemwaith Frances Lloyd (Meini Marthwyn). Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2011/1.
Accruals
Mae ychwanegiadau yn annhebygol.
System of arrangement
Trefnwyd yn LlGC yn bedwar grŵp: Rhodd 2000, Rhodd 1975, Pryniad 2005-2006 a Rhodd 2022.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen. Gweler hefyd yr amodau arbennig o ran cael mynediad i'r dyddiaduron (cyfres PA2).
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol. Mae hawlfraint Tecwyn Lloyd yn eiddo i'r elusennau canlynol: Shelter Cymru, y Samariaid, a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Language of material
- Welsh
- Italian
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg, Eidaleg (gweler y disgrifiadau ar y lefelau perthnasol).
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Generated finding aid
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Mae’r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Tecwyn Lloyd, a’r dyddiad olaf wedi iddo farw, oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo ac aelodau eraill ei deulu.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
GEAC system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Hydref 2001 a Mawrth 2011.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Archivist's note
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ysgrifau coffa 1992 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru); Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); Edwards, Elwyn (gol.), Bro a Bywyd D. Tecwyn Lloyd 1914-1992 (Treforys, 1997); Thomas, Gwyn, Byd D. Tecwyn Lloyd (Darlith Goffa D. Tecwyn Lloyd, Y Ddarlith Lenyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 1997);