Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Torion o'r wasg,

Torion o’r wasg, [1926]-[1966], gan gynnwys adolygiadau o weithiau Saunders Lewis, o’i golofn ‘Saunders Lewis yn trafod …’ yn Y Faner, a cherddi ganddo.

Traethawd BA Saunders Lewis,

Copi, 1966, o draethawd BA Anrhydedd 'Imagery and poetic themes of S. T. Coleridge', Prifysgol Lerpwl, 1920, gan Saunders Lewis, ac mae'r gwreiddiol ar gadw yn Llyfrgell y Brifysgol honno.

Cais am Wobr Nobel,

Llythyrau, 1970, yn ymwneud â chefnogi enwebiad Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel (Llenyddiaeth), oddi wrth David Hughes Parry, Idris [Foster], Aneirin Talfan Davies, Proinsias Mac Cana, Rachel [Bromwich], Per Denez, David Jenkins ac eraill. Cyfeiriwyd y mwyafrif ohonynt at J. E. Caerwyn Williams. Ceir copi teipysgrif o'r cais, 1971, a llyfryddiaeth.

Parry, David Hughes, Sir, 1893-1973.

Rhodd 2000,

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Llythyrau,

Llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn llongyfarch D. Tecwyn Lloyd ar ei lwyddiant academaidd ac ar dderbyn swyddi newydd, gwahoddiadau i ddarlithio oddi wrth gymdeithasau a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadadu ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Llythyrau A-J,

Ymhlith y gohebwyr mae Cynan (1); Cassie Davies (1); T. I. Ellis (3); a G. G. Evans (5).

Cynan, 1895-1970.

Llythyrau G-J,

Ymhlith y gohebwyr mae Raymond Garlick (1); R. Geraint Gruffydd (2); Emyr Humphreys (7); R. T. Jenkins (2); Bedwyr Lewis Jones (4); Bobi Jones (1); Dic Jones (1); Gwilym R. Jones (2); John Gwilym Jones (2); Nesta Wyn Jones (2); a T. Llew Jones (1).

Llythyrau K-M,

Ymhlith y gohebwyr mae Alan Llwyd (5); Derec Llwyd Morgan (3); Dyfnallt Morgan (1); a Prys Morgan (4).

Llwyd, Alan.

Llythyrau P-W,

Ymhlith y gohebwyr mae Thomas Parry (11); Iorwerth Peate (3); Kate Roberts (3); J. E. Caerwyn Williams (1); John Rowlands (1); John Stoddart (2); Gwyn Thomas (3); Ned Thomas (1); R. S. Thomas (2); Urien Wiliam (1); R. Bryn Williams (1); a Rhydwen Williams (2).

Parry, Thomas, 1904-1985

Llythyrau A-F,

Ymhlith y gohebwyr mae Euros Bowen (1); Aneirin Talfan Davies (3); Bryan Martin Davies (1); Cassie Davies (1); Jennie Eirian Davies (1); Pennar Davies (1); Islwyn Ffowc Elis (13); T. I. Ellis (3); George Ewart Evans (2); G. G. Evans (1); Gwynfor Evans (1); Meredydd Evans (7); ac Idris Foster (1).

Bowen, Euros.

Llythyrau a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain,

Llythyrau a chardiau Nadolig, 1951-1952, a anfonwyd at D. Tecwyn Lloyd tra'n gwenud gwaith ymchwil ar archifau'r unfed ganrif ar bymtheg yn Llyfrgell y Fatican yn Rhufain. Yn eu plith mae llythyrau oddi wrth ei deulu, cyfeillion, a chydweithwyr yng Ngholeg Harlech, ac ysgolheigion fel Griffith John Williams, 1952.

Williams, G. J. (Griffith John).

Llythyrau amrywiol,

Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd (1); E. Morgan Humphreys (1); Rhiannon Davies Jones (1); John Lloyd, ei dad (1); Thomas Parry (2); Iorwerth Peate (2); Goronwy Roberts (1); David Thomas (Lleufer); a G. J. Williams (1).

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Llythyrau awduron at Hughes a'i Fab,

Llythyrau, 1909-1949, gan gynnwys rhai oddi wrth E. Tegla Davies, O. M. Edwards (12), T. Gwynn Jones (13), H. Elvet Lewis (2), Thomas Richards, 'Meuryn', 'Moelona' (4), J. Ellis Williams (3) a R[ichard] Hughes Williams (2).

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967.

Papurau personol,

Llythyrau, dyddiaduron, papurau'n deillio o'i gyfnod yn yr ysgol ac yn y coleg a phapurau'n ymwneud â'i waith ymchwil yn Yr Eidal, [1906]-1992 .

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, 1924-1992, gan gynnwys llythyrau oddi wrth aelodau'r teulu, cyfeillion, ysgolheigion a llenorion yn ymwneud â'i swyddi amrywiol, ei ddiddordebau llenyddol, ei waith ymchwil a'i gyhoeddiadau, ac yn ei longyfarch ar ei anrhydeddu gyda gradd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru yn 1990.

Results 1 to 20 of 207