Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1923-2016 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.081 metrau ciwbig (9 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Bobi Jones (Robert Maynard Jones) yn fardd, awdur straeon byrion, nofelydd ac ysgolhaig a anwyd ar 20 Mai 1929 yng Nghaerdydd i rieni di-Gymraeg. Dysgodd Gymraeg yn yr ysgol ac enillodd radd Dosbarth Cyntaf yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1949. Bu'n athro yn Llanidloes, sir Drefaldwyn, a Llangefni, sir Fôn cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac wedyn yn ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yn 1966 ymunodd â staff Adran Gymraeg y coleg hwnnw, a bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o 1980 tan ei ymddeoliad yn 1989. Yr oedd yn briod â Beti a ganwyd dau o blant iddynt, Lowri a Rhodri. Fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu farw Bobi Jones ar 22 Tachwedd 2017.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Yr Athro Bobi Jones; Rhodd; Hydref 1997; A1997/175.
Mrs Beti Jones; Aberystwyth; Rhodd; Mai 2018; 99192024702419.
Mrs Beti Jones trwy law Mr Dafydd Ifans; Aberystwyth; Rhodd; Mai 2019; 99192024702419.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r casgliad yn cynnwys: gohebiaeth gyffredinol at Bobi Jones,1950-1997, nifer ohonynt oddi wrth bwysigion Cymru; gohebiaeth a phapurau, 1971-1979, yn ymwneud â gwaith golygu'r gyfres Storiâu Tramor; papurau amrywiol, 1951-[1990au], yn cynnwys beirniadaethau ar gyfer eisteddfodau, cyfrolau o nodiadau darlithoedd, papurau gwleidyddol, adolygiadau, sgriptiau radio, ddrafftiau barddoniaeth ac erthyglau; papurau,1968-1969, yn ymwneud â thaith Bobi Jones i Fecsico; gohebiaeth a phapurau ynglŷn â pharatoi a chyhoeddi Cyfrol Deyrnged Kate Roberts (Dinbych, 1969); eitemau printiedig, 1951-1992, yn cynnwys rhaglenni theatr, gwahanlithoedd a phroflenni deunydd a gyhoeddwyd, anerchiadau etholaethol a thaflenni gwleidyddol, a chardiau gwasanaeth angladdau; torion o'r wasg,1948-1994, yn cynnwys torion cerddi, beirniadaeth lenyddol ac adolygiadau gan Bobi Jones; grŵp o bapurau A. W. Wade-Evans, 1923-1960; gohebiaeth, papurau’n ymwneud â’r Mudiad Efengylaidd, darlithiau ar grefydd, llyfryddiaeth a gwefan Bobi Jones a chyfieithiadau o’i gerddi, 1950-2016. = The collection comprises: general correspondence to Bobi Jones, 1950-1997, many from prominent figures in Welsh life; correspondence and papers, 1971-1979, relating to the work of editing the series Storiau Tramor; miscellaneous papers, 1951-[1990s], including adjudications for eisteddfodau, volumes of lecture notes, political papers, reviews, radio scripts, drafts of poetry and articles; papers, 1968-1969, relating to Bobi Jones's trip to Mexico; correspondence and papers concerning the preparation and publication of the volume Cyfrol Deyrnged Kate Roberts (Dinbych, 1969); printed items, 1951-1992, including theatre programmes, offprints and proofs of published material, election addresses and political leaflets, and funeral service cards; press cuttings, 1948-1994, including cuttings of poems, literary criticism and reviews by Bobi Jones; a group of papers of A. W. Wade-Evans, 1923-1960; correspondence, papers relating to the Evangelical movement, lectures on religion, bibliography and website of Bobi Jones and translations of his poems, 1950-2016.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd yr holl gofnodion.
Croniadau
Disgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw y gohebydd: gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â gwaith golygu'r gyfres Storiau Tramor; papurau amrywiol; y daith i Fecsico,1968; Cyfrol Deyrnged Kate Roberts (Dinbych, 1969); eitemau printiedig, 1951-1992; torion o'r wasg; papurau A.W.Wade-Evans; a Rhoddion Mai 2018 a Mai 2019.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Nodiadau
Mae rhai o bapurau A. W. Wade-Evans yn dyddio'n ôl i 1923.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
CAIRS System Control Number
GEAC system control number
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Jones, Bobi, 1929-2017 -- Archives (Pwnc)
- Roberts, Kate, 1891-1985 (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2006 a Medi 2019.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Bobi Jones (2000); The new companion to the Literature of Wales (Caerdydd, 1997).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW ac Ann Francis Evans (Rhoddion Mai 2018 a Mai 2019).