Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1862 - [1937], 1945, 1964 (Creation)
Lefel y disgrifiad
is-fonds
Maint a chyfrwng
15 cyfrol, 14 amlen, 3 bocs bach ac 1 ffolder
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Gweinidog gyda'r Annibynwyr, pregethwr, bardd a darlithydd oedd Ben Davies. Ganwyd ef yn y Ddolgam, Cwmllynfell yn 1864 a bu'n gweithio yn y gwaith glo cyn mynd i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn 21 oed, ac yna i Goleg y Bala. Wedi gadael yn 1888 aeth yn weinidog i Bwlchgwyn a Llandegla cyn symud i Panteg, Ystalyfera yn 1891 ac aros yno tan 1926. Roedd yn aelod o fudiad 'y Beirdd Newydd' a oedd yn ei anterth rhwng 1890 a 1901. Bu'n cystadlu yng nghystadleuthau'r gadair a'r goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol nifer o weithiau gan ennill yn 1892-1894, a 1896. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Bore Bywyd yn 1896. Yn hwyrach yn ei fywyd bu'n feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr, 1928. Bu hefyd yn darlithio ar Watcyn Wyn, 'Twm o'r Nant' ac Ann Griffiths. Bu farw yn 1937.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r grŵp yn cynnwys dyddiaduron o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932; cerddi, pregethau, nodiadau darlithiau, areithiau, ac eitemau a gasglwyd gan Ben Davies 1862 - [1937]; casgliad o erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, 1896-1931; papurau a nodiadau yn ymwneud â'r Wladfa, 1923 - [1937]; ychydig nodiadau ar Ddiwygiad 1904, pryddestau eisteddfodol, 1889-1891; a drafftiau o ddramâu, heb eu dyddio. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys dwy eitem nad ydynt yn ymwneud â Ben Davies, 1945, 1964.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn bedair cyfres: dyddiaduron; llenyddiaeth; barddoniaeth; pregethau, areithiau a darlithiau; ac yn un ffeil.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Dyfalwyd y dyddiad olaf ar sail marwolaeth y crëwr.
Nodiadau
Preferred citation: B