Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1960-1962 (Creation)
Lefel y disgrifiad
ffeil
Maint a chyfrwng
3 amlen (4.5 cm.)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganed Waldo Goronwy Williams ar 30ain o Fedi 1904, yn fab i'r heddychwr a'r sosialydd John Edwal Williams ac Angharad Williams (née Jones). Ynghyd â'i brodyr a'i chwiorydd, mynychodd Angharad goleg a bu'n athrawes cyn ei phriodas. Er mai Cymro Cymraeg oedd John Edwal, magwyd Angharad yn ddi-Gymraeg yn Lloegr, felly Saesneg oedd iaith aelwyd gynnar Waldo ac ni ddysgodd Gymraeg nes i'r teulu symud ym 1911, pan oedd Waldo'n saith mlwydd oed, i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, lle 'roedd ei dad yn brifathro'r ysgol gynradd yno. Ym 1915, bu i'r teulu symud drachefn pan benodwyd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin, Llandysilio. Mynychodd Waldo Ysgol Ramadeg Arberth ac yna Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg ym 1926. Yn dilyn hyfforddiant fel athro, bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion o fewn Sir Benfro, yn Ysgol Ramadeg Botwnnog ym Mhen Llŷn o 1942 hyd 1944, ac mewn ysgolion yn Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos ac addysg bellach ar gyfer oedolion, ac yn ddarlithydd gwâdd. Ym 1941, priododd Waldo â Linda Llewellyn, ond bu farw hithau o'r diciâu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Maynooth, Swydd Kildare yn ystod haf 1961, lle dysgodd Wyddeleg yn rhugl. Ac yntau'n heddychwr gydol oes, cofrestrodd Waldo fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, safiad a achosodd wrthdaro rhyngddo a'r awdurdodau. Oherwydd ei wrthwynebiad i Ryfel Corea (1950-1953), gwrthododd dalu ei dreth incwm ac fe'i carcharwyd am ei safiad ar ddechrau 1960. Yn genedlaetholwr a brogarwr, safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959. Bu farw Waldo Williams ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu yn yr un bedd â'i rieni a'i wraig Linda ym mynwent Capel y Bedyddwyr, Blaenconin, y capel lle priodwyd Waldo a Linda ddeg mlynedd ar hugain ynghynt. Yn ddiweddarach, codwyd coflech i Waldo ar weundir Rhos Fach, ger Mynachlog-ddu. Fe ddylanwadwyd Waldo a'i dad ill dau yn gryf gan yr athronydd a'r bardd sosialaidd Edward Carpenter (1844-1929). Er fod y teulu, mewn enw, yn aelodau o Gapel y Bedyddwyr, nid oedd Waldo, mwy na'i rieni, yn arddel unrhyw grefydd ffurfiol, gyfundrefnol, ac, yn ystod y 1950au, fe ymunodd â'r Crynwyr yn eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau. 'Roedd Waldo yn berson dwys ac ystyriol ac fe achosodd cyflwr y byd a'i gyd-ddyn gyfnodau o bruddglwyf difrifol iddo yn ystod ei fywyd. Cyhoeddodd Waldo ei unig gyfrol o gerddi, Dail Pren, ym 1956.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llawysgrif cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (Aberystwyth, 1953) a gomisiynwyd gan UNESCO; proflenni tudalen wedi'u cywiro a nodiadau i'r teipydd; gohebiaeth, 1960-1961, yn ymwneud â chyhoeddi The old farmhouse yn 1960, gan gynnwys llythyrau oddi wrth y cyhoeddwyr George G. Harrap, Llundain, a breindaliadau am y chwech mis cyntaf, 1962; llythyrau oddi wrth Gwasg Gomer, 1960-1961; llythyrau oddi wrth Syr Ben [Bowen Thomas], 1960; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1962.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Preferred citation: G1/5
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Gwasg Gomer (Pwnc)
- Thomas, Ben Bowen, 1899-1977 (Pwnc)