Showing 187 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Print preview View:

Papurau D. J. Williams, Abergwaun

  • GB 0210 DJWILL
  • Fonds
  • 1810-1969 (gyda bylchau) (crynhowyd 1908-1969)

Papurau personol, cyhoeddus a llenyddol D. J. Williams, Abergwaun, 1810-1969, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau teuluol a llythyrau oddi wrth gyfeillion a chyd lenorion; dyddiaduron; a llyfrau coleg. Ceir papurau'n ymwneud â'i ran yn Llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 ac fel aelod allweddol o Blaid Cymru, ynghyd â phapurau ei wraig Siân Wiliams. Ymhlith y rhain ceir llythyrau oddi wrth aelodau o'i theulu, llythyrau a dderbyniodd tra roedd ei gŵr yn y carchar a dyddiaduron. Yn ogystal ceir papurau a grynhowyd ganddo.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

Papurau personol

Papurau personol D. J. Williams, 1810-1969, gan gynnwys llythyrau ato ac oddi wrtho, dyddiaduron, papurau teuluol, papurau academaidd, torion o'r wasg, papurau a grynhowyd ganddo a phersonalia.

Llythyrau at W. Anthony Davies

Dau ddeg tri llythyr, 1948-1957, a ysgrifennwyd gan D. J. Williams at W. Anthony Davies ('Llygad Llwchwr'), yn ymateb i'w erthyglau yng ngholofn 'Welsh Gossip' y News Chronicle, a'i adolygiadau o weithiau D. J. Williams yn y wasg. Fe'u dychwelwyd hwy ato gan ei weddw Irene Davies, [1962].

Beibl Penrhiw

Beibl yn perthyn i John Williams (1808-1886), tad-cu D. J. Williams yn Llansawel, yn cynnwys cofnodion, 1808-1925, ar gyfer genedigaethau a marwolaethau, gan gynnwys ychwanegiadau diweddarach yn llaw D. J. Williams a Siân Williams.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau, 1909-[1948], rhai ar lenyddiaeth Saesneg yn deillio o'i gyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth a Rhydychen, [1911]-[1917]. Ceir hefyd lyfrau nodiadau o Ysgol Sir Abergwaun, gan gynnwys nodiadau ar y maes llafur, llyfr ysgrifennu Cymraeg Dillwyn Miles, 1932, a 'Llyfr y Cadw' sy'n cynnwys enghreifftiau o ysgrifennu creadigol y disgyblion Cymraeg, 1938-1943. Yn eu plith mae cyfraniadau gan Islwyn Lake a D. J. Bowen.

Miles, Dillwyn

Barddoniaeth Waldo Williams

'Cywydd Waldo i'r Bwm Beili' (pan ddaeth i'w dŷ i gyrchu ei eiddo yn Haf 1955); llyfr nodiadau'n cynnwys drafft o awdl 'Tŷ Ddewi' gan Waldo Williams y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936; ynghyd â'r [cywydd mawl a ysgrifennodd i D. J. Williams adeg ei anrhegu yn Ysgol Haf Plaid Cymru, Abergwaun, Awst 1964] yn ei law.

Williams, Waldo, 1904-1971

Gwaith W. R. Evans

Sgript anterliwt 'Tri Chrafion Byd a Rhai Crafion Eraill, gan gynnwys Ambell Grafwr o Gymro' gan W. R. Evans, Y Barri, ynghyd â gwaith anghyflawn ganddo, [1959x1969].

Evans, W. R. (William Rees), 1910-1991

Papurau cyhoeddus

Papurau, 1922-1966, yn ymwneud â rhan D. J. Williams yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 a'r achos llys a ddilynodd, gyda Phlaid Cymru yn Abergwaun ac yn genedlaethol, ac fel darlithydd a phregethwr lleyg.

Pregethau

Pregethau unigol a rhai mewn llyfrau nodiadau heb eu dyddio [ond credir eu bod yn deillio o'r flwyddyn 1913 pan oedd D. J. Williams yn ei drydedd flwyddyn yn y Brifysgol yn Aberystwyth a bu'n sefyll arholiad i bregethwyr lleyg], un ohonynt yn nodi lle bu'n pregethu, 1913-1914, ynghyd â llyfr nodiadau'n cynnwys pwyntiau a wnaed mewn Ysgol Haf yr [Ysgol Sul] yn Llanwrtyd, 1920.

Cymrodorion Abergwaun

Papurau, 1913-1964, gan gynnwys tocynnau aelodaeth a rhaglenni'r Gymdeithas, cofnodion a chyfrifon ariannol, 1920-1929, a phoster o gyngerdd 'Cyflwyno'r Delyn', 1949, yn Abergwaun.

Cymdeithas Cymmrodorion Abergwaun

Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd

Llawysgrif Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd a gyhoeddwyd yn 1954 a phroflenni wedi'u cywiro, ynghyd â nodiadau ymchwil o waith Gwilym Oswald Griffith, Mazzini: prophet of modern Europe (Llundain, 1932) a hefyd o Essays: selected from the writings, literary, political, and religious, of Joseph Mazzini.

Y Bod Cenhedlig

Llawysgrif a phroflenni Y Bod Cenhedlig a gyhoeddwyd yn 1963, sef cyfieithiad o A. E. [G. W. Russell], The National Being a gyhoeddwyd yn 1916 gyda rhagymadrodd gan D. J. Williams; llythyrau, 1962, yn ymwneud â'r hawl i drosi'r gwaith i Gymraeg, gan gynnwys llythyr oddi wrth Diarmuid Russell [mab A. E. ]; a nodiadau, 1925, o A. E., Co-operation and Nationality (Dulyn, 1912), a, 1960, o John Eglinton, A Memoir of A. E..

Russell, Diarmuid, d. 1973

Storïau byrion

'Y Gaseg ddu' a gyhoeddwyd yn Cymru, 1916; 'Cadw'r mis', Cymru, 1918, gyda dwy erthygl 'John Jones', The Welsh Outlook, 1921, a 'Wales-its politics and no politics, The Welsh Outlook, 1922 wedi'u rhwymo mewn un gyfrol; 'Bedd [ei] Mamgu', [Baner ac Amserau Cymru, Rhagfyr 1925] (llawysgrif a theipysgrif); 'Blwyddyn lwyddiannus' a 'Dros y Bryniau Tywyll Niwlog', [Storïau'r Tir Glas, 1936]; 'Cysgod Troedigaeth' [Storïau'r Tir Coch, 1941]; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' a Pumed Llyfr Anrheg Haf 1945 yn ei chynnwys; 'The court cupboard', cyfieithiad Dafydd Jenkins o 'Y cwpwrdd tridarn' mewn proflenni, a chopi o Wales, Rhagfyr 1945, yn ei chynnwys; a llyfr nodiadau yn cynnwys drafftiau o 'Y Mitsiwr' [a gyhoeddwyd fel 'Ochor draw'r "mini"' yn Y Ford Gron, 1934, a gyda'r teitl 'Un o wŷr ochr draw'r mini' fel stori fer fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1934 a hefyd yn Storïau'r Tir Glas yn 1936] a theipysgrif yr ail stori; 'Y gagendor' [Yr Efrydydd, 1924]; a 'Dychymyg Cymru' ?nas cyhoeddwyd. Ceir hefyd feirniadaeth D. J. Williams ar y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais 1954.

Jenkins, Dafydd

Storïau byrion anghyflawn

Gwaith heb ei orffen gan gynnwys stori'n ymwneud â Merched Beca, 1934; ysgerbwd stori fer 'Y cymun', 1938; ysgerbwd stori 'Y Darn', 1938; 'Y modd yr aeth Dyn yn Epa. Ffantasi a sgrifennwyd yfory', 1940, a fwriadwyd ei chynnwys yn Storïau'r Tir Coch, [1941].

Results 1 to 20 of 187