Nationalism -- Wales

Taxonomy

Code

Scope note(s)

Source note(s)

Display note(s)

Hierarchical terms

Nationalism -- Wales

Equivalent terms

Nationalism -- Wales

Associated terms

Nationalism -- Wales

25 Archival description results for Nationalism -- Wales

25 results directly related Exclude narrower terms

Torion o'r wasg

Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.

Ysgrifau ar thema cenedlaethol

Ceir llythyr, 1944, oddi wrth D. J. Williams at Prosser Rhys yn amgau yr ysgrifau y bwriadwyd eu cyhoeddi yn un gyfrol, a llythyr, 1946, oddi wrth J. D. Lewis a'i Feibion yn eu dychwelyd ato wedi iddynt brynu Gwasg Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Prosser Rhys. Yn eu plith ceir 'Teyrnas Dduw' a 'Y Mawr a'r Bach yn y Greadigaeth', Yr Efrydydd, 1924; 'De Valera', Y Darian, Ebrill 1924; 'Ffantasi ar Oronwy Owen' [yn wreiddiol sgript radio 'Beth petasai Goronwy Owen wedi ei wneud yn Esgob?', 1938, a gyhoeddwyd yn Heddiw, Rhagfyr 1938]; 'Beth sy'n bod ar yr Hen Gorff?', Y Faner, Ionawr 1941; 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941; a 'Y ddau genedlaetholdeb yng Nghymru', [Y Llenor, 1944].

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Hen wynebau gan D. J. Williams, Abergwaun

  • NLW ex 3143
  • File
  • 1934 a 1936

Copi o'r llyfr Hen Wynebau gan D.J. Williams (Aberystwyth, 1934), a gyflwynwyd gan yr awdur yn 1936 “I’r Staff Gorsaf Heddgeidwaid Pwllheli”. Yn ogystal, mae llythyr gan D.J. Williams, dyddiedig 10 Medi 1936, at "Superintendent Hughes a’r Staff ym Mhwllheli", wedi ei lynu y tu fewn i’r gyfrol. Darganfuwyd yr eitem hon ymysg bocs o lyfrau mewn sêl cist car.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Results 21 to 25 of 25