Dangos 2060 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Fonds
Rhagolwg argraffu Gweld:

CMA: Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr

  • GB 0210
  • Fonds

Cofysgrifau Capel Trinity, San Clêr, yn cynnwys cofnodion ariannol, llyfrau tocynnau aelodaeth, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.

Capel Trinity, San Clêr

CMA: Cofysgrifau Capel Willow Tree Road, Altrincham

  • GB 0210
  • Fonds
  • G19eg-G21ain

Cofysgrifau capel Cymraeg Willow Tree Road, Altrincham, yn cynnwys cofnodion ariannol; llyfrau cofnodion cyfarfodydd Swyddogion y capel, y Chwiroydd a'r Pwyllgor Adeiladau; cofnodion yr Ysgol Sul; adroddiadau blynyddol; tocynnau aelodaeth; a hanes yr achos.

Capel Willow Tree Road, Altrincham

CMA: Cofysgrifau Capel Ysgwyddgwyn

  • GB 0210 YSGWGWYN
  • Fonds
  • 1862-1937

Llyfr cyfrifon Eglwys Ysgwyddgwyn, Deri, Sir Forgannwg, 1862-1937.

Ysgwyddgwyn, Deri (Capel)

CMA: Cofysgrifau Dosbarth Gogledd Ceredigion

  • GB 0210
  • Fonds
  • [G20fed-G21ain]

Cofnodion Pwyllgor Cenhadol Chwiorydd Dosbarth Gogledd Ceredigion. Diddymwyd y Pwyllgor 25 Tachwedd 2024 pan unwyd â'r Dosbarthiadau eraill o dan Bwyllgor Cenhadol yr Henaduriaeth.

Dosbarth Gogledd Ceredigion

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn

  • GB 0210 BETHMOST
  • Fonds
  • 1896-1985

Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn, 1896-1985, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1896-1977; adroddiadau blynyddol, 1944-46, 1952, 1964-67, 1973-76 a 1978-1985; papurau’r Ysgrifennydd, 1967-1985; a llyfrau Trysorydd y Chwiorydd, 1966-1985.

Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn

CMA: Cofysgrifau Eglwys Ebeneser, Penparcau

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1905-1989

Cofnodion Ysgol Sul Capel Ebeneser, Penparcau, [1942]-[2007], yn cynnwys llyfr cyfrifon, 1958-1971, ynghyd â naw cyfrol [llyfrau’r ysgrifennydd] yn nodi enwau’r athrawon, y nifer a oedd yn bresennol, a’r casgliadau, [1942]-[2007]; Hydref 2016.

Llyfrau cyfrifon, 1981-2012; Mehefin 2024.

Cofysgrifau ychwanegol yn cynnwys gohebiaeth, llyfrau cofnodion, cyfrifon ariannol a ffotograffau; Mehefin 2026.

Eglwys Ebeneser, Penparcau

CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon

  • GB 0210 ENGEDI
  • Fonds
  • 1842-1999

Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon, 1842-1999, gan gynnwys cofrestri, llyfrau casgliadau, llyfrau'r eisteddleoedd, llyfrau'r weinidogaeth, cofrestri anghydffurfiol ac Eglwysig, llyfrau cofnodion pwyllgorau, llyfrau cofnodion, gohebiaeth, a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau'r Eglwys a chofnodion yr Ysgol Sul.

Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Glanaber, Llanuwchllyn

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1886-2025

Cofysgrifau Eglwys Glanaber, Llanuwchllyn, 1886-2025, yn cynnwys llyfr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1947-2024, cofrestr eglwysig, 1965-80, cofnodion ariannol, llyfrau cofnodion, tocynnau aelodaeth, cofnodion yr Ysgol Sul, a chofnodion y Gymdeithas Ddirwestol. Ceir hefyd gyfrifon Cyfarfod Misol Henaduriaeth Dwyrain Meirionnydd, 1892-1944.

Eglwys Glanaber, Llanuwchllyn

CMA: Cofysgrifau Eglwys Maesyffynnon, Llangybi

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1986-2020

Adroddiadau blynyddol 1999, 2007-2010 a 2012-2015; Taflen Gwasanaeth Datgorffori Maesyffynnon, dydd Sul, 1 Awst 2021; Awst 2021. Llyfr cofnodion y blaenoriaid, 1986-2020; Hydref 2024.

Eglwys Maesyffynnon, Llangybi

CMA: Cofysgrifau Y Gymdeithasfa yn y Gogledd (Records of the Association in the North)

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1894-2004

Papurau yn ymwneud â Chymdeithasfa'r Gogledd, a ddaeth i'r Llyfrgell pan gaewyd y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth.

Papurau ychwanegol gan gynnwys llyfr cofnodion, 1894-1998; receipts & payments book, 1949-1959, ac un 1960-98; llyfrau'r trysorydd, 1955-1966 a 1937-1964; general treasurer's postages and expenses book, 1949-1998; trysorfa'r gweinidogion (cyfarfod misol Dyffryn Conwy); ac amrywiol adroddiadau blynyddol y Drysorfa.

Cofysgrifau brintiedig ychwanegol, 1993-2002, yn cynnwys rhaglenni ac adroddiadau; Tachwedd 2016.

Papurau ychwanegol amrywiol, 1849-1986, yn cynnwys eitemau printiedig yn bennaf a llythyr, dyddiedig 13 Tachwedd 1930, oddi wrth R. Dewi Williams at y Parchedig S. T. Hughes; Mawrth 2018.

Adroddiadau'r Gymdeithasfa, Hydref 2019 a Gorffennaf 2021; Tachwedd 2021.

Cofysgrifau ychwanegol ym mlwch Llywydd y Gymdeithasfa (1966), yn cynnwys Beibl y Llywydd, cyflwynedig gan Y Parch. a Mrs O. W. Owen, Medi 1940; tudalen wreiddiol â llofnodion y Llywyddion o’r Beibl, 2003-2013; rhestr o’r rhai gymerodd ran mewn Gwasanaethau Ordeinio 1920-2000; trefn gwasanaethau ordeinio Aneurin Owen (2010), Helen Wyn Jones a David Owens (2012), Anna Jane Evans (2018) ac Aled Lewis Evans (2019); cytundeb awdur rhwng Goronwy Prys Owen a’r Gymdeithasfa, 10 Medi 2011; rhaglen cyflwyniad dramatig 'Yr Ordeinio Cyntaf yn y Bala 1811' (2011); adroddiadau’r Gymdeithasfa, 1998-2019; ynghyd â hanes achos Henaduriaethau Lerpwl a Manceinion (Hydref 2003), Trefaldwyn Isaf (Hydref 1998), Gorllewin Meirionnydd (Gwanwyn 1999), Dyffryn Clwyd (Hydref 2000), Trefaldwyn Uchaf (Gwanwyn 2001), Fflint (Hydref 2001), Mȏn (Gwanwyn 2002), Dyffryn Conwy (Hydref 2002), Dwyrain Meirionnydd (Gwanwyn 2003), Trefaldwyn Isaf (Hydref 2003), Arfon (Hydref 2004), Wrecsam (Hydref 2005), Dyffryn Clwyd (Gwanwyn 2006), Llŷn ac Eifionydd (Hydref 2006), Fflint (Gwanwyn 2007), Trefaldwyn Uchaf (Hydref 2007), Mȏn (Hydref 2008), Arfon (Gwanwyn 2009), Gorllewin Gwynedd (Hydref 2009), Trefaldwyn (Haf 2010), Dyffryn Clwyd (Gaeaf 2010), Y Gogledd Ddwyrain (Gaeaf 2011), Mȏn (Gwanwyn 2012), Dyffryn Clwyd (Gwanwyn 2014), Y Gogledd Ddwyrain (Gwanwyn 2018); Chwefror 2022.

Adroddiadau'r Gymdeithasfa, Tachwedd 2021, ac Ebrill a Gorffennaf 2022; Ionawr 2023.

Adroddiadau'r Gymdeithasfa, Tachwedd 2022 ac Ebrill 2023; Ionawr 2024.

Y Gymdeithasfa yn y Gogledd (The Association in the North)

CMA: Papurau Meurig Owen

  • GB 0210
  • Fonds

Papurau ymchwil Meurig Owen ar hanes capeli Presbyteraidd (Cymraeg) Llundain, gan gynnwys deunyddiau yn ymwneud â chapeli unigol a'r Henaduriaeth.

Meurig Owen

Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • GB 0210 UWCHEFRYD
  • Fonds
  • [1921x1930], a 1970-2017

Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Cofnodion Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig Gymreig Cyf.

  • GB 0210 CWMLAN
  • Fonds
  • 1923-1960

Memorandwm ac Erthyglau'r Cwmni, 1923; cofnodion a phapurau gweinyddol eraill,1923-1960; papurau ariannol, 1946-1960; llyfrau llythyrau a gohebiaeth, 1945-1960; papurau personol a gohebiaeth T.I.Ellis,1944-1960; papurau personol J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; a phapurau yn ymwneud â materion yr Eglwys yng Nghymru. = Memorandum and Articles of Association, 1923; minutes and other administrative papers, 1923-1960; financial papers, 1946-1960; letter books and correspondence, 1945-1960; personal papers and correspondence of T. I. Ellis, 1944-1960; personal papers of J. Griffith Jones, Caernarfon, 1947-1953; and papers relating to Church in Wales matters, 1944-1956.

Llan and Welsh Church Press Company.

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd

  • GB 0210 CYMEDLLW
  • Fonds
  • 1981-2002

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnwys: cyfansoddiad y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd blynyddol; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, yr Is-bwyllgor Monograffig, yr Is-bwyllgor Marchnata, yr Is-bwyllgor Enwau a Thermau, ac Is-bwyllgor yr Amgylchedd; gohebiaeth; ceisiadau am grantiau; papurau ariannol; a phapurau aelodaeth. = Records of Cymdeithas Edward Llwyd (the Edward Llwyd Society), including: the Society's constitution; minutes of annual meetings; records of the Working Committee, the Monographic Sub-Committee, the Marketing Sub-Committee, the Names and Terms Sub-Committee, and the Environment Sub-Committee; correspondence; applications for grants; financial papers; and membership papers.

Cymdeithas Edward Llwyd

Cofnodion Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl

  • Eglwysi Yr Annibynwyr, Lerpwl
  • Fonds
  • 1841-2009

Cofysgrifau yn ymwneud â chapeli Annibynnol Lerpwl, yn cynnwys Tabernacl, Belmont Road, 1913-63; Salem, Brownlow Hill, 1841-67, ac yn ddiweddarach Grove Street, 1867-1954; Eglwys Woolton Road, 1947-2009; ac Eglwys Park Road, 1896-1963.

Amryw

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • 1891; 1972-2015

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre

Cofysgrifau Eglwys Carmel, ger Treffynnon

  • CMA: Eglwys Carmel, ger Treffynnon
  • Fonds
  • 1865-1992

Cofnodion Eglwys Carmel ger Treffynnon, 1865-1992, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1865-1964; cofnodion ariannol, 1949-1992; a llyfr ystadegau, 1926-35, a llyfr cofnodion, 1951-65, yr Ysgol Sul.

Dyddiaduron Plaid Cymru Elfed Roberts

  • GB 0210 ELFDROB
  • Fonds
  • 1973-1998

Pedwar-ar-ddeg o ddyddiaduron, 1973-98, ynghyd ag un gyfrol yn cynnwys crynodebau gwaith, 1974-83, yn ymwneud â swydd y rhoddwr fel trefnydd Plaid Cymru Meirionnydd Nant Conwy ac Arfon dan yr aelodau seneddol Dafydd Elis Thomas, Elfyn Llwyd a Dafydd Wigley.

Roberts, Elfed

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: cyfansoddiadau a beirniadaethau

  • GB 0210 CYFANS
  • Fonds
  • 1887-2019 (gyda bylchau)

Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Canlyniadau 41 i 60 o 2060