Prif gyswllt
Allt Penglais
Aberystwyth, Ceredigion
GB SY23 3BU
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales
Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Siarter Frenhinol ar 19eg Mawrth 1907.
Pedr ap Llwyd
Prif Weithredwr a Llyfrgellydd
Yn gyfrifol am y Llyfrgell a’i staff, a sicrhau bod y Llyfrgell yn cwrdd â’u gofynion statudol, a’u hamcanion elusennol. Y Llyfrgellydd sydd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Strategol a Chynllun Gweithredol y Llyfrgell, a sicrhau fod amcanion a thargedau realistig yn cael eu gosod, a’u bod yn cael eu cyflawni. Mae’r Llyfrgellydd hefyd yn cynnig arweiniad clir i’r Llyfrgell ac yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu, gyda chyfrifoldeb dros gyllidebau’r Llyfrgell.
David Michael
Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd
Yn gyfrifol am wasanaethau corfforaethol y Llyfrgell, cyllid, busnes, cyfleusterau'r adeilad, technoleg gwybodaeth, codi incwm a chodi arian.
Owain Roberts
Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus Dros-dro
Yn gyfrifol am holl weithgareddau cyhoeddus y Llyfrgell, gan gynnwys yr ystafelloedd darllen, arddangosfeydd, gwasanaeth addysg, mynediad digidol, a hyrwyddo'r sefydliad.
Arweiniad i archifau ar wefan LLGC: https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/dysgwch-fwy/archifau/
GB
0210
Mae'r disgrifiad yn dilyn canllawiau LLGC sy'n seiliedig ar ISAD(G) 2; AACR2; a LCSH
Final
Crewyd gan Nia Mai Daniel 10 Tachwedd 2015; adolygwyd gan David Moore 11 Hydref 2019.
Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.