Print preview Close

Showing 567 results

Archival description
series
Print preview View:

Papurau personol amrywiol,

Papurau, 1924-1992, yn deillio o gyfnod Harri Gwynn yn yr ysgol ac yn y Brifysgol, papurau'n ymwneud â'r mudiad Gwerin, a thorion o'r wasg yn cynnwys teyrngedau iddo.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau a cherddi wedi eu torri o bapurau newydd a chylchgronau amrywiol,a gasglwyd gan Mathonwy Hughes, [?1921]-1992, y rhan fwyaf yn ymwneud ag ef, ei deulu a'i gyfeillion.

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1923-1966, gan gynnwys un yn cofnodi ei daith i Lydaw yng nghwmni Ambrose Bebb yn [1924], a 'Dyddiadur dyn anonest', 1941-1951. Trafodir y Blaid, ei waith llenyddol, ei weithgareddau cyhoeddus, ei iechyd, a'i ymwelwyr ac maent yn tueddu i fod yn llawnach yn ystod degawd olaf ei fywyd. Defnyddiodd y dyddiaduron i gofnodi cyfeiriadau yn fynych iawn.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

Personalia

Papurau personol G. J. Williams, yn cynnwys ei basport a phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947; tocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd, 1916-1962; ceisiadau am swyddi, 1914-1958; a phapurau ariannol ac amrywiol, 1918-1963.

Gohebwyr eraill,

Llythyrau, [1938]-[1985], 1993, oddi wrth gyfeillion a rhai'n ymateb i'w adolygiadau o'u gweithiau a ymddangosodd yn Y Cymro. Ceir llythyrau hefyd yn ymwneud â'r Cyfarfod Teyrnged i Harri Gwynn yn 1986.

Pen blwydd yn 90 oed

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfarchion a theyrngedau i Mathonwy Hughes ar ei ben blwydd yn 90, a phapurau'n ymwneud â noson deyrnged iddo a gynhaliwyd i ddathlu'r achlysur, 1991.

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Papurau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau ac eitemau amrywiol, yn bennaf mân greiriau megis meillion pedair deilen, a gasglwyd gan Mathonwy Hughes a'i deulu, [?1872]-[?1990].

Gohebiaeth,

Llythyrau, 1946-[1999], oddi wrth aelodau'r teulu a ffrindiau, ac yn ymwneud â'i waith fel llenor a darlithydd.

Gohebiaeth Harri ac Eirwen Gwynn,

Llythyrau rhwng Harri ac Eirwen Gwynn, [1936]-1944, a ysgrifennwyd yn y cyfnod cyn iddynt briodi yn bennaf, ac wedi hynny, yn trafod materion personol a phroffesiynol.

Gwynn, Eirwen

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1914-1962, at G.J. Williams oddi wrth ysgolheigion, llenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion. Mae'r mwyafrif yn ymwneud â'i arbenigedd yn yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac ysgolheictod Cymraeg, gan gynnwys ei gyhoeddiadau, ei waith ymchwil, a'i aelodaeth o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae nifer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd, darlithydd, athro, a beirniad eisteddfodol, a rhai'n ymwneud â materion gwleidyddol, yn arbennig sefydlu Plaid Cymru a helynt yr Ysgol Fomio. Ceir cyffyrddiadau mwy personol yn rhai o'r llythryau.

Results 81 to 100 of 567