Llyfr nodiadau'n cynnwys pregeth (Hebreaid 12.1.2) gan Crwys, 1892; ?pregeth 'Yr Eglwys yn Ioan'; ynghyd â nodiadau pregethau a luniodd yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd a nodiadau Beiblaidd, [1892]-[1968].
Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis at y rhoddwr Huw Ceiriog Jones, 1972, yn ymwneud â threfnu i'w gwmni Gwasg yr Arad Goch argraffu a rhwymo nofel argraffedig y llenor yn seiliedig ar y gyfres deledu Tre-sarn a ddarlledwyd gan y BBC.
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau (heb eu trefnu'n gronolegol) oddi wrth Timothy Richard, a dau oddi wrth ei wraig Mary (ff. 1 a 6), wedi eu hysgrifennu yn bennaf at ei fam. Sonnir ynddynt am ei waith cenhadol a'r Eglwys yn China.