Print preview Close

Showing 27 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb series
Print preview View:

Llythyrau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys y prif rediad o lythyrau gan unigolion amlwg o'r byd academaidd a'r byd gwleidyddol yng Nghymru a Llydaw, yn ogystal â llythyrau oddi wrth gyn-fyfyrwyr Bebb o'r Coleg Normal a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd, ac oddi wrth aelodau o'i deulu. Mae'r llythyrau yn ymdrin, ymysg pethau eraill, gyda hanes a sefyllfa Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hanes cynnar Plaid Cymru, Y Coleg Normal, Yr Eisteddfod Genedlaethol, materion enwadol yng Nghymru, cyhoeddiadau Bebb, a phrofiad ei gyn-fyfyrwyr yn yr Ail Ryfel Byd.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Llythyrau gan unigolion anhysbys

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau yn trafod cyhoeddiadau Bebb a'i waith gyda'r capel yn bennaf. Nid yw'r llythyrau hyn wedi eu harwyddo, neu mae'n anodd darllen y llofnodion os cawsant eu harwyddo. Hyd y gellir barnu o'r cynnwys, ymddengys mai cyfeillion, teulu a chydweithwyr yw'r prif ohebwyr.

Llythyrau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys tri llythyr gan aelodau hŷn o'r teulu at ei gilydd a etifeddwyd gan Bebb, 1898-1908, tystlythyr ar ran Bebb yn llaw T. Gwynn Jones, 1919, llythyr oddi wrth Ambrose Bebb at Francis Gourvil, cyfaill iddo o Finistethre, Llydaw, a ddanfonwyd yn ôl ato gan y Swyddfa Bost, 1940, a llythyr at Mrs Bebb, 1958.

Gourvil, Francis

Traethawd MA

Copi llawysgrif o'i draethawd MA, 'The Contribution of Wales to the British Empire' a gyflwynwyd am radd ym 1920. Mae'r teitl ar y wynebddalen yn awgrymu iddo gael ei gyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol ar un adeg.

Darlithoedd

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy yn unig o'i ddarlithoedd Saesneg ar hanes Cymru tra ar staff y Coleg Normal.

Adroddiadau ac areithiau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys adroddiad ar yr Ysgol Sul, [?1943], ei 'araith etholiadol' ar gyfer taflen Etholiad Cyffredinol 1945, ac araith Bebb yn llywydd y dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1948.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llungopïau o dorion papur newydd yn cynnwys adolygiadau o'i gyhoeddiadau yn bennaf, 1919-1949.

Cyfieithiadau o gerddi

Cyfieithiadau Cymraeg o gerddi gan y bardd Llydaweg Yann-Ber Kalloc'h wedi eu dyddio rhwng 1910 a 1914; 'Ar ein deulin', 'Yn Llydaw mae fy Nghalon', 'Barn Fi' (2), 'Priod y Bardd' a 'Gweddi Mewn Lleoedd Tywyll'.

Calloc'h, Yan Ber, 1888-1917

Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru 1485-1603

Copïau llawysgrif a theipysgrif o Cyfnod y Tuduriaid 1485-1603. Ymddengys o wynebddalen y copi teipiedig (LH2/5) fod Bebb wedi cynnig, neu yn bwriadu cynnig, y gwaith mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Fe gyhoeddwyd y gwaith yn Wrecsam yn 1939.

'Canada ac Awstralia ym Marddoniaeth Cymru'

Mae'r gyfres yn cynnwys proflenni yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru', sef y rhan gyntaf o erthygl mewn dwy ran a gyhoeddwyd yn y Y Genhinen, 1922 a 1924, yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru'. Mae peth gwahaniaeth rhwng y paragraff cyntaf a'r fersiwn cyhoeddedig, ond ac eithrio hynny maent yr un fath â'i gilydd. Fe all yr erthygl fod yn seiliedig ar ran o'i draethawd ymchwil, tt. 323-420 yn A1/2.

'John ap John'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif y ddwy erthygl olaf (gyda'r tudalen cyntaf yn eisiau) mewn cyfres o erthyglau byr ar fywyd a gwaith John ap John, y Crynwr a gyhoeddwyd yn Cymru, 61-63 (1921-1922), sef yng nghyfrol 63 (1922), 46-8, 74-5.

John ap John, 1625?-1697

'Y Diwygiad Protestannaidd'

Mae'r gyfres hon yn cynnwys proflenni 'Achosion Cyffredinol', sef y rhan gyntaf o erthygl a ymddangosodd mewn dwy ran dan y teitl 'Y Diwygiad Protestannaidd' yn Y Llenor, 1941.

Results 1 to 20 of 27