Showing 9 results

Archival description
Davies, D. Jacob (David Jacob), 1916-1974
Print preview View:

Cerddi cynnar

Cerddi gan Menna Elfyn a gyfansoddwyd cyn ymddangosiad ei chyfrol gyntaf gyhoeddiedig Mwyara ym 1976, rhai o'r cerddi heb eu cwblhau nac (yn ddiweddarach) eu cyhoeddi. Mae'r deunydd yn cynnwys cerddi a ddyddiwyd Medi a Hydref 1967; cerdd fuddugol a gynigiwyd gan Menna Elfyn i Eisteddfod Pantyfedwen 1968(?); cerdd yn dwyn y teitl Y Daith, sy'n disgrifio digwyddiad ym mis Mawrth 1969 ac a arnodir gan Menna Elfyn 'Fy ngherdd gyntaf ... darn ar goll' (er noder cerdd Eisteddfod Pantyfedwen, lle cynigir ganddi'r dyddiad cynharach 1968); cerddi a gyfranwyd gan Menna Elfyn i golofn Bord y Beirdd ym mhapur newydd Y Cymro, 1970; dau gopi o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Sylwadau ar fywyd colegol (dim dyddiad, ond cymerir eu bod yn tarddu oddi ar gyfnod Menna Elfyn yn y Brifysgol); a beirniadaethau gan D. Jacob Davies, W. J. Gruffydd a W. R. Evans ar gerddi buddugol gan Menna Elfyn a gynigiwyd (dan ffugenw) ar gyfer yr Eisteddfod Ryngolegol yn Aberystwyth, 1973.

Cynhwysir yn yr adran hon ond y cerddi hynny sydd â dyddiad wedi'i nodi arnynt. Cynhwysir y cerddi hynny a all ddyddio o'r cyfnod cynnar ond sydd heb ddyddiad amlwg dan Barddoniaeth amrywiol.

Gohebiaeth gyffredinol/General correspondence

Yn cynnwys llythyrau oddi wrth/Includes letters from: Hugh Dalton; Cassie Davies (2); D. Jacob Davies; Nan Davies, BBC; Dr Noelle Davies (5); Per Denez; Huw T. Edwards; Joe England; Moses Griffith (2); J. Gwyn Griffiths; Dafydd Iwan; Harri Pritchard Jones; Sir Keith Joseph (3); Noel G. Lloyd; D. Tecwyn Lloyd (2); Elystan Morgan; Gerald R. Morgan; John Nash; E. T. Nevin (2); Keidrych Rhys; Ben Bowen Thomas; Dafydd Wigley; Jac L. Williams; R. O. F. Wynne.

Dalton, Hugh Dalton, Baron, 1887-1962

Gohebiaeth gyffredinol/General correspondence

Yn cynnwys llythyrau oddi wrth/Includes letters from: Cassie Davies; D. Jacob Davies; Gwennant Davies, Urdd Gobaith Cymru (2); J. Alban Davies; Dr Noelle Davies (2); E. Lewis Evans; J. Gwyn Griffiths (2); Dewi Watkin Powell (4); Dr Ceinwen H. Thomas (2); Delwyn Tibbott (2); J. Tudno Williams.

Davies, Cassie, 1898-1988

Llythyrau

Llythyrau, [1949]-[1963], gan gynnwys rhai oddi wrth y Fonesig Amy Parry-Williams, Brynallt (3), Mam o Nedd, Cynan, Telynores Rhondda (2), Caerwyn (3), J. Dyfnallt Owen, Trefîn (2), Syr John Cecil-Williams, D. Jacob Davies, Clement Davies, Gwilym R. Tilsley; ynghyd â mân bapurau gan gynnwys taflen, 1931, yn hysbysebu cyhoeddi llyfr Erfyl Fychan, Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a 'Serch ifanc a huna' sef cyfieithiad Erfyl Fychan o eiriau Arthur Somerverell 'Young love lies sleeping', Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 (printiedig).

Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988

Llythyrau amrywiol: 1922-1980

Llythyrau, 1922-1980, gan gynnwys rhai oddi wrth J. E. Daniel (2); Alun Oldfield-Davies (2); Aneirin Talfan Davies (12); Clement Davies (2); D. Jacob Davies (2); E. Tegla Davies (23, cyfeirir un at Dafydd); George M. Ll. Davies (19); J. Breese Davies (4); J. Glyn Davies (2); Leonard Twiston Davies (6); Nan Davies; R. H. Davies; Rhys J. Davies (2); William Ll. Davies; Myles Dillon; ac A. H. Dodd (4).

Llythyrau a drafftiau

44 llythyr a drafftiau o 58 cerdd, 5 erthygl, 3 ysgrif, 2 stori fer ac un drama, 1925-1944, yn cynnwys cyfraniadau gan T. Rowland Hughes, 1942, R. T. Jenkins, 1943, D. Miall Edwards, 1935, G. J. Roberts, 1944, B. T. Hopkins, 1927, H. Meurig Evans, 1936, H. D. Lewis, 1936, L. Haydn Lewis, 1938, Meurig Walters, 1938, Waldo Williams, 1939, T. I. Ellis, 1940, J. T. Jones, 1938, D. Tecwyn Lloyd, 1940, T. E. Nicholas, 1941, Alun T. Lewis, 1941, D. Jacob Davies, 1941, J. M. Edwards, 1940, E. Tegla Davies, 1925. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd restr 'Barddoniaeth' rhwng 1927 ac 1941, ond ni restrir rhan helaeth o'r ffeil ynddo.

Hughes, Thomas Rowland

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879