Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 89 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau David Bowen a Ben Bowen, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Emyn-donau

Mae'r ffeil yn cynnwys emyn-donau gan gyfansoddwyr amrywiol, yn cynnwys John Hughes, T. J. Morgan a Rhyddid Williams, a gasglwyd gan David Bowen er mwyn eu cyhoeddi yn Llawlyfr Urdd y Seren Fore.

Morgan, T. J

'Englynion Myfyr Hefin'

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau o'i englynion a gopïwyd ganddo a thudalen o englynion yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Llanelli i'r cylch yn 1930.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1930 : Llanelli, Wales)

'Caneuon a thelynegion Myfyr Hefin'

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo ynghyd â rhestr o'r cerddi. Ceir hefyd restr o aelodau 'Cylch awen a chân' ardal Llanelli, 1952-1953.

Cylch awen a chan (Literary Society) (Llanelli)

Teipysgrifau o gerddi

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau o gerddi David Bowen, nifer ohonynt ar gyfer cystadlaethau yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, gydag ychydig gywiriadau llawysgrif.

Llythyrau at David Bowen, P-Z a di-gyfenw

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Iorwerth Peate, Ben Bowen Thomas, Thomas Williams (Brynfab), Lewis Valentine, Amy Parry-Williams, D. J. Williams, Eifion Wyn, Ifor Williams, Rhydwen Williams, Crwys a W. Nantlais Williams ac eraill heb gyfenwau yn cynnwys Cybi, Dyfed Hermas a Caerwyn.

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982

Llythyrau at David Bowen, I-O

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan Norah Isaac, John Gwili Jenkins, Cynan, William John A.S., D. Gwenallt Jones, E. Cefni Jones, E. K. Jones, J. T. Jones, Moelona, Tydfil, D. T. Morgan, Eluned Morgan, T. J. Morgan a J. Dyfnallt Owen.

Isaac, Norah

Llyfrau nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau amrywiol, rhai yn perthyn i Mrs Rhiannon Hughes, merch David Bowen. Mae un gyfrol yn cynnwys tysteb i Mrs Enid Harries, merch David Bowen, ac eraill yn cynnwys rhestr o aelodau capel Pump-Hewl, a rhestr o gyfeiriadau.

Horeb, Eglwys y Bedyddwyr (Five Roads, Wales)

Canlyniadau 21 i 40 o 89