Showing 503 results

Archival description
Papurau R. Williams Parry
Print preview View:

Papurau R. Williams Parry

  • GB 0210 RWILPARRY
  • Fonds
  • 1873-1971

Papurau Robert Williams Parry, 1873-1971, gan gynnwys llawysgrifau, copïau teipysgrif a phrintiedig o gerddi Robert Williams Parry (yn bennaf rhai cyhoeddedig, gyda pheth amrywiadau), [1900]-[1956]; cyfieithiadau o'i gerddi,1941-1942; cerddi gan bobl eraill a anfonwyd at RWP, 1943-1956; erthyglau gan RWP ar feirdd a barddoniaeth,1911-1933; cyfieithiadau RWP o ddramâu Saesneg, [20fed ganrif]; sgriptiau radio gan RWP, 1941-1953, a sgriptiau radio rhaglenni ar RWP, 1956; erthyglau RWP i gylchgronau, 1918-1957; erthyglau ar RWP a'i waith, 1925-1959; llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau RWP ar lenyddiaeth Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd, [20fed ganrif]; llythyrau at RWP, 1908-1954; llythyrau yn llongyfarch RWP, 1910-1953; copïau o lythyrau RWP at Aneirin Talfan Davies, 1937-1949 llythyrau RWP at Myfanwy Williams Parry, 1935-1953; llythyrau eraill a phapurau Myfanwy Williams Parry, 1953-1971; llythyrau'n cydymdeimlo â Myfanwy Williams Parry, 1956; llythyrau at J. Maldwyn Davies, 1971-1975; cardiau post, cardiau Nadolig a chardiau coffa, [20fed ganrif]; dyddiaduron poced RWP a Myfanwy Williams Parry, 1923-1969; tystysgrifau geni, priodi a marw a chopi o ewyllys RWP, 1884-1956; adroddiadau ysgol, tystysgrifau a cheisiadau am swyddi, 1896-1914; copïau o bapurau arholiad, 1938-1944; torion papur newydd yn ymwneud ag RWP, 1907-1971; taflenni apêl Cofeb R. Williams Parry, 1956-1971; llyfrau printiedig, 1890-1969; a phapurau amrywiol, 1873-1969. = Papers of Robert Williams Parry, 1873-1971, comprising manuscripts, typescripts and printed copies of poems by Robert Williams Parry (mainly published, with some variations), [1900]-[1956]; translations of his poems, 1941-1942; poems by others addressed to RWP, 1943-1956; articles by RWP on poets and poetry, 1911-1933; translations by RWP of English plays, [20th century]; radio scripts by RWP, 1941-1953, and radio scripts of programmes about RWP, 1956; magazine articles by RWP, 1918-1957; articles on RWP and his work, 1925-1959; notebooks containing notes by RWP on Welsh literature and Celtic languages, [20th century]; lecture notes of RWP on Welsh literature and individual poets, [20th century]; letters to RWP, 1908-1954; letters of congratulation to RWP, 1910-1953; copies of letters from RWP to Aneirin Talfan Davies, 1937-1949; letters of RWP to Myfanwy Williams Parry, 1935-1953; other letters to papers of Myfanwy Williams Parry, 1953-1971; letters of condolence to Myfanwy Williams Parry, 1956; letters to J. Maldwyn Davies, 1971-1975; postcards, Chritsmas cards and memorial cards, [20th century]; pocket diaries of RWP and Myfanwy Williams Parry, 1923-1969; birth, marriage and death certificates and copy of RWP's will, 1884-1956; school reports, certificates and job applications, 1896-1914; copies of examination papers, 1938-1944; newspaper cuttings relating to RWP, 1907-1971; pamphlets of the Cofeb R. Williams Parry appeal, 1956-1971; printed books, 1890-1969; and miscellaneous papers, 1873-1969.

Parry, Robert Williams

Copiau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi a gyhoeddwyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill neu Cerddi'r Gaeaf. Rhwymwyd hwynt ...,

Copiau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi a gyhoeddwyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill neu Cerddi'r Gaeaf. Rhwymwyd hwynt yn ôl eu trefn yn y cyfrolau hynny. Yn y rhestr cynnwys sy'n dilyn, nodir unrhyw wahaniaeth sydd rhwng cerddi'r gyfrol wneud a'r cerddi fel y'u cyhoeddwyd yn ogystal a gwahaniaeth teitl. Ceir rhestr deipiedig o'r cynnwys hefyd ar flaen y gyfrol. 16 Ff. I Yr Iberiad [gw. Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 40. Pennill 1-5 yn unig; pennill 5 yn wahanol]. Ii In Memoriam, Mary Roberts, Gwyddfor, 1841-1917 [gw. 'Gwragedd, 1', Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 46). Iii Yr Haf [gw. Yr Haf A Cherdd i Eraill, t. 51. Pytiau yn unig]. Vii Cyfieithiad o Emyn J. S. Arkwright [gw. 'Gorffwys', Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 98. 2 gopi, un yn dwyn y teitl 'Memorial Hymn' ac yn cynnwys y gerddoriaeth gan E. T. D[avies]. Ceir sylwadau llawysgrif ar y modd y dylid lliwio'r canu]. Ix Eifionydd [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 2. Ceir 2 fersiwn o'r ail bennill a'r pedwerydd]. X Y Ffliwtydd [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 43. Mae'r pennill olaf yn wahanol.]. Xi Erledigaeth [gw. 'Hitleriaeth', Cerddi'r Gaeaf, t. 60. Rhai amrywiadau]. Xii Y Genedl Gymreig [gw. 'Ein Didduw Brydyddion', Cerddi'r Gaeaf, t. 67. Nifer o wahaniaethau, yn enwedig yn y chwechawd]. Xiii Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw (Y fersiwn cyntaf) [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 83. Fersiwn hollol wahanol i'r un a gyhoeddwyd]. Xiv "Dwy Galon Yn Ysgaru" [gw. Cerddi'r Gaeaf t. 85. 2 fersiwn. Nifer o amrywiadau]. Xvi Y Diweddar David Hughes, Llanarmon-Yn-Iâl [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 91. 2 englyn ynghyd â theyrnged fer. Esgyll yr ail englyn yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd].

Cyfrol yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i R. Williams Parry. Ceir rhestr cynnwys isod ac ...,

Cyfrol yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i R. Williams Parry. Ceir rhestr cynnwys isod ac ar flaen y gyfrol. 12 Ff. 1 Englyn: 'Eglurydd, â gwawl eiriau -----'. Dienw. 2. 'Yn y Dosbarth', gan Edgar H. Thomas (Allan o'r Traethodydd -- Gorff. 1943). 3. 'Dosparth W.E.A. Llangefni' Dienw. 4, 'Fe glywsom gryn lawer cyn hyn am Yr Ias -----' Dienw. 5. 'I R. Williams Parry', gan Dilys Cadwaladr (Rhagfyr 1951). 6. 'I Gofio R. Williams Parry', gan W. R. P. George (Ionawr 1956) [gw. rhif 585]. 7. 'Coetmor', gan y Parch. Ff[owc] Williams, Llanllechid. 8. 'Cerdd Goffa i'r Dr R. Williams Parry, Ionawr 4ydd 1956', gan y Parch. John Roberts [gw. rhifau 527, 942].

Jane Clegg, drama St John Ervine wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan R. Williams Parry a D. Haydn Davies. Llawysgrif ...,

Jane Clegg, drama St John Ervine wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan R. Williams Parry a D. Haydn Davies. Llawysgrif wedi ei britho â mân ddiwygiadau. Dalennau rhydd o bapur tenau wedi eu clymu â chortyn a'u rhifo gan R. Williams Parry fel a ganlyn: Act I, ff. 1-48; Act II, ff. 1-36; Act III, ff. 1-52, 136 ff.; ff. 135-36 wedi eu rhwygo.

Results 1 to 20 of 503