- G6/4
- file
- 1987-1988
Llythyrau, 1987-1988, yn ymwneud â gwaith ar y llwybr troed tu allan i'r Eglwys a chofrestru'r adeilad fel un gradd II.
Llythyrau, 1987-1988, yn ymwneud â gwaith ar y llwybr troed tu allan i'r Eglwys a chofrestru'r adeilad fel un gradd II.
Llythyrau ac amcangyfrifon, 1995-1998, yn ymwneud â'r diffygion yn y nenfwd, a chofnodion y Pwyllgor Adeiladau, 1996.
Llythyrau, 1994-1995, ynghyd ag adroddiad y syrfewr, 1994, ar gyflwr yr Eglwys ac ar ddiffygion yn y nenfwd, 1995.
Adroddiad pensaernïol ar gyflwr y nenfwd, 1997, a baratowyd ar gyfer Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ynghyd ag amcangyfrifon, 1998, a chofnodion y Pwyllgor Adeiladu, 1997-1998.
Gweithredoedd, 1809-1929, gan gynnwys cytundeb ynglŷn â chodi addoldy ar dir Capel Henwalia yn 1885; ethol swyddogion newydd yn 1886; gweithredoedd, 1906, yn ymwneud â phrynu Ysgoldy Mark Lane; prynu'r Mans sef Bryn Beuno yn 1909; ynghyd â phapurau'n gysylltiedig â chymynrodd Robert Roberts, 1929.
Tri llyfr nodiadau'n cynnwys enwau'r 'brodyr' a fu'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd gweddi ar nosweithiau Llun, 1867-1909.
Llyfr yn cofnodi enwau'r rhai a ddaethant â thocynnau aelodaeth o eglwysi eraill i Eglwys Engedi, 1886-1894, ac yng nghefn y gyfrol ceir enwau'r rhai a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau, 1886-1893. Ceir llyfr hefyd yn rhestru'r ymgeiswyr am aelodaeth, 1867-1886, gan gynnwys rhai a dderbyniwyd o Eglwysi eraill ac aelodau a ddiarddelwyd. Yn ogystal ceir nifer helaeth o docynnau aelodaeth, 1939-1997.
Cyfrol yn cynnwys manylion am drefn claddedigaethau, 1917-1931, ynghyd â thystysgrifau rhydd ar gyfer claddu, 1936-1944, ar ôl cofrestru'r farwolaeth.
Taflenni pwrpasol ar gyfer cofnodi ystadegau blynyddol am yr Eglwys, 1938-[1993]. Cedwid un copi gan yr Eglwys ac anfonwyd copi arall at yr Henaduriaeth.
Papurau, 1937-1990, yn trafod festri Engedi, 1940-1942; gwerthu'r Mans Bryn Beuno, 1976-1977 [a brynwyd yn 1909]; ynghyd â llythyrau'n ymdrin â gwerthu'r Tŷ Capel, 1987-1988; a phapurau, 1990, yn ymwneud â phrynu tŷ arfaethedig i'r gweinidog.
Holiaduron dienw wedi'u llenwi gan aelodau'r Eglwys, [1992x1998], yn ymwneud â'u barn am gynnal oedfaon undebol, amlder yr oedfaon a'r amser.
Manylion, 1896-1900, am bwy oedd yn gyfrifol am agor y drysau ac am ddechrau gwasanaethau'r Ysgol Sul.
Cofnodion cyfarfodydd yr athrawon, 1896-1905, yn trafod materion fel y trip blynyddol.
Ceir manylion am gyfarfodydd yr athrawon, 1924-1946, yn trafod materion fel y trip blynyddol.
Trip yr Ysgol Sul: llyfr cyfrifon
Llyfr yr ysgrifennydd: 1956-1964
Llyfr yr ysgrifennydd: [1964]-1971
Llyfr yr ysgrifennydd: 1976-[1982]
Llyfr yr ysgrifennydd: 1968-1975