Print preview Close

Showing 39 results

Archival description
Archif John Eilian
Print preview View:

Llythyrau at Percy Ogwen Jones

Dyfyniadau o lythyrau oddi wrtho at Percy Ogwen Jones, 1923-1937, ynghyd â’i deyrnged i’w gyfaill: ‘Y dyn yn ei gyfnod. Myfyrdod am Percy Ogwen Jones’, Yr Herald Cymraeg, 1982.

Mesopotamia

Copi o'r Times of Mesopotamia, 5 Mehefin 1927, a olygwyd ganddo, adysgrifau, 2018, o lythyrau oddi wrtho at Caradog Prichard, 1928, ac allbrintiau, 2017, o archif hanesyddol y Daily Mail o erthyglau a gyfrannodd i’r papur hwnnw, 1928-1929.

Llyfrau'r Ford Gron

Allbrintiau o erthyglau ac adolygiadau oddi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, gan gynnwys The Welsh Outlook, yn ymwneud â chyfres Y Ford Gron.

Erthyglau i'r Cymro

Llungopïau o bedair erthygl a luniodd i'r Cymro o Ceylon ar T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, R. Williams Parry a Saunders Lewis yn 1937; ynghyd â llungopïau o erthyglau i'r Cymro a ysgrifennodd gan ddefnyddio'r ffugenw 'Robin Bwrgwyn' yn 1939, ac erthygl, 2007, yn dathlu cyfraniad John Eilian i'r papur fel y golygydd cyntaf yn 1932.

Erthyglau eraill

Erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau eraill: ‘The dying establishment’, Western Mail, 23 Medi 1964; 'Dydd Gŵyl Dewi. Rhown ei draed ar y tir efo Deiniol', Holyhead and Anglesey Mail, 1966; cyfres o dair erthygl a gyhoeddwyd yn Yr Herald Cymraeg a’r Genedl, 1968, sef sgyrsiau a draddodwyd ar raglen Heddiw (BBC); a ‘Gwaed ei fron gyda’i frenin’, Herald Môn, 1968.

Cylchgronau

Copïau o’r Haul a’r Gangell (adargraffiadau),1960, yn cynnwys ‘Mae rhwyg y Methodistiaid a ni yn dechrau cau’ a ‘Cymru yn y chwedegau’ ac o’r Llenor, ynghyd ag allbrintiau o wefan Cylchgronau Cymru o erthyglau ganddo o’r Llenor a Cymru.

Y Ford Gron

Llythyrau, 1920 -1932, 1984, at John Eilian oddi wrth lenorion a gwleidyddion amlwg yn y 1920au a 1930au, llawer ohonynt yn ymateb i'r cylchgrawn.

Y Cymro

Papurau, 1930-1934, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab, a John Eilian.

Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau

Copi llawysgrif a phrintiedig gyda chywiriadau o’i bryddest fuddugol ‘Meirionnydd’, Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949, ynghyd â chopi o'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo gan Gyngor yr Eisteddfod, a'i atgofion: 'I nearly missed my coronation'.

Cyfieithiadau o ganeuon

Cyfieithiadau o 38 cân ar gais W. S. Gwynn Williams a gyhoeddwyd gan Gwmni Gwynn, 1951-1965. Yn eu plith mae 'Hwn yw dydd geni Crist ein Iôr' (Hodie Christus natus est) a'i addasiad o ddwy gân werin Gymreig 'Modryb Neli' a 'Yr hen ŵr mwyn', a'r 'Gleisiad' (The trout).

Englynion beddau a cherddi eraill

Englynion coffa a luniodd i'w briod Lilian Maud Jones a fu farw yn 1972, ei gyfaill Percy Ogwen Jones (1982) a Bedwyr Lewis Jones [1992], a cherddi eraill ganddo a gyhoeddwyd mewn papurau newydd, allbrintiau o wefan Cylchgronau Cymru yn cynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Cymru a'r Llenor, ynghyd â chyfrol C. Davies and E. K. Prosser (golygyddion), A Book of Aberystwyth (Y Drenewydd, 1926), yn cynnwys tair cerdd Gymraeg ganddo.

Y Corn Gwlad

Un rhifyn yn unig a argraffwyd o'r cylchgrawn hwn sef Cylchgrawn Blynyddol Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod wedi'i olygu gan John Eilian.

Diarddel o'r Orsedd

Adroddiadau papur newydd yn sôn am ei ddiarddel o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955. Yr oedd i fod i gyfarch y bardd buddugol yn seremoni'r cadeirio.

Gwaed ifanc

Llyfr nodiadau gyda stamp Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys cerddi ganddo 1921-1924, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Gwaed ifanc yn 1923 gyda cherddi gan E. Prosser Rhys, a llungopi o’r gyfrol, ynghyd ag adolygiadau oddi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, 2016. Ceir gosodiad cerdd dant Dewi Mai o Feirion mewn sol-ffa o ddwy gerdd ‘Atgof’ a ‘Mi wn’ gan John Eilian, Nadolig 1947, i ddathlu llwyddiant John Eilian yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1947.

Results 1 to 20 of 39